Arweinyddiaeth Greadigol - Bod yn Ddewr

Pwrpas

Mae arweinyddiaeth greadigol yn gofyn am y gallu i arwain yn ddewr. Byddwch yn ddigon dewr i chwalu rhagdybiaethau a mythau ynghylch creadigrwydd a dewrder i archwilio eich creadigrwydd eich hun, a dod ag eraill gyda chi ar y daith ddysgu. Mae’r gweithgaredd hwn yn eich gwahodd i ystyried profiadau pobl eraill fel ffordd o fyfyrio ar eich potensial eich hun i arwain meddwl yn greadigol, ac i wneud hynny’n ddewr!

Adnoddau a pharatoi

Fideos (Bethan Marks/Lisa Hall/Andy Moor)

Erthygl blog (Louise Stoll, Yr Athro Emeritws mewn Dysgu Proffesiynol yn UCL)

Adnodd Arferion Meddwl Creadigol

 

Hyd: 20 munud

Dechrau arni

Cyflwynir tri safbwynt ar Arweinyddiaeth Greadigol isod, dau o’r cyd-destun Saesneg ac un o’r cyd-destun Cymreig, lle maent yn cyflwyno cwricwlwm newydd ar hyn o bryd.

Cam 1 

Gwyliwch un, dau neu bob un o'r fideos arweinwyr

Cam 2

Darllenwch blog yr Athro Louise Stoll

Cyd-fyfyrio

Byddem yn eich annog i wneud nodiadau o'ch ymatebion i'r cwestiynau myfyrio ac i ddal eich dysgu.

  • Pa gamau arwain allweddol y mae'r arweinwyr yn y fideos a'r blog wedi cymryd rhan ynddynt? 

  •  Sut mae'r ysgol(ion) a Louise yn modelu meddwl creadigol? 

  • I’r rhai sydd wedi gwylio mwy nag un fideo, beth sy’n debyg a beth sy’n wahanol yn eu dulliau a beth allai fod yn rhai o’r rhesymau am hynny? 

  • Mae arweinwyr yn y fideos yn sôn am bwysigrwydd cefnogaeth staff, beth wnaethon nhw i gyflawni hyn? 

  • Pa gwestiynau fyddech chi'n eu gofyn i'r arweinwyr?

Blog Article

Don’t make me laugh – Louise Stoll, Yr Athro Emeritws mewn Dysgu Proffesiynol yn UCL

Arferion Meddwl Creadigol

Mae'r model creadigrwydd a meddwl creadigol sydd yn tanategu'r holl weithgareddau ar Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yn canolbwyntio ar bump Arferion Meddwl Creadigol. Ddatblygwyd y fframwaith gan y Ganolfan ar gyfer Dysgu'r Byd Go Iawn ym Mhrifysgol Winchester.

Gweithgaredd - argraffu