Fframwaith yr Arferion Meddwl Creadigol

Mae’r model o greadigrwydd a meddwl creadigol sydd wrth wraidd Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yn canolbwyntio ar bump arfer meddwl creadigol - cydweithredol, disgybledig, dychmygus, chwilfrydig a dyfalbarhaus.

Mae’r fframwaith yma’n cynorthwyo arweinwyr ysgolion i ddeall pa arferion i ganolbwyntio arnynt wrth ddatblygu creadigrwydd disgyblion a staff.

** Ers i’r fframwaith hwn gael ei gomisiynu gan CCE a’i ddatblygu gan Bill Lucas, Guy Claxton ac Ellen Spencer, rydyn ni wedi dod yn ymwybodol o dystiolaeth gynyddol fod gwybyddiaeth yn  “ymgorfforedig”, sy’n golygu bod ein gweithredoedd yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ein ffordd o feddwl. Felly wrth edrych tua’r dyfodol, rydyn ni’n cyfeirio at y fframwaith fel ‘Yr Arferion Creadigol’.
collage illustration of hands and paper objects
PDF

Creative Habits

Mae’r model creadigrwydd a meddwl creadigol sy’n sail i’r holl weithgareddau ar Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yn canolbwyntio ar bum Arfer Creadigol y Meddwl allweddol. Datblygwyd y fframwaith hwn gan y Ganolfan Dysgu Byd Go Iawn ym Mhrifysgol Winchester.

Tanysgrifiwch nawr i ddatgloi dirnadaeth ac ysbrydoliaeth newydd.

Cofrestrwch i gael ein newyddlenni misol ac i fod gyda’r cyntaf i glywed am y gwaith ymchwil, digwyddiadau ac erthyglau diweddaraf i’ch cynorthwyo chi i arwain ar gyfer dysgu creadigol.

* gwybodaeth hanfodol