Arweinydd Dysgu Creadigol - Manyleb y Person

Pwrpas

Bydd y gweithgaredd yma’n eich helpu chi i ystyried nodweddion arweinydd creadigol er mwyn cydnabod eich hyder a’ch gallu eich hun, a deall pa feysydd y gallai fod angen i chi eu datblygu.  Bydd yn eich cynorthwyo chi hefyd i gydnabod pwy arall yn eich ysgol a allai feddu ar y nodweddion hyn, neu sut y gallwch ddatblygu darpar-arweinwyr creadigol. Gellir cyflawni hyn fesul un neu fel tîm gyda chydweithwyr.

Adnoddau a Pharatoi

Arferion Meddwl Creadigol

Arweinydd ar gyfer Meddwl Creadigol – Manyleb y Person

Peniau coch, melyn a gwyrdd

 

Hyd

45 munud

Cychwyn arni

Os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r Arferion Meddwl Creadigol eto, cymerwch ychydig funudau i ystyried y model cyn cychwyn y gweithgaredd hwn. Dilynwch y linc ar waelod y dudalen hon.

Cam 1

(3 munud)

 

Syniad craidd Arwain Meddwl Creadigol yw bod yna ddeg gweithred allweddol y mae arweinwyr creadigol yn eu cyflawni, sef: 

Y Broses Newid

Y gallu i roi disgrifiad clir o’r broses newid, fel bod pawb yn deall sut y caiff creadigrwydd pobl ifanc ei ddatblygu.

Datblygu Arweinwyr

Clustnodi catalyddion newid creadigol/arweinwyr athrawon a’u meithrin.

Newid y Diwylliant

Creu diwylliant lle mae creadigrwydd yn cael ei hybu a’i werthfawrogi ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol, a’i adlewyrchu yng nghynllun gwella’r ysgol.

Ailfeddwl Strwythurau

Ymgorffori meddwl creadigol i’r holl adnoddau.

Datblygu Cwricwlwm Creadigol

Sefydlu creadigrwydd mewn cwricwlwm cydlynol.

Ailfeddwl Addysgeg

Datblygu hyder staff wrth ddefnyddio dulliau o addysgu a dysgu sy’n meithrin creadigrwydd.

Olrhain Cynnydd Creadigrwydd

Dod o hyd i ddulliau o asesu sy’n cydnabod cynnydd yn natblygiad creadigrwydd pobl ifanc.

Sicrhau Dysgu Proffesiynol

Gwneud creadigrwydd yn ffocws ar gyfer dysgu proffesiynol i’r staff.

Cydweithio â Phartneriaid Allanol

Buddsoddi mewn partneriaid allanol a chyllid i helpu i ddatblygu creadigrwydd.

Myfyrio a Gwerthuso

Archwilio, myfyrio a gwerthuso siwrnai eich ysgol tua chreadigrwydd.

 

Cam 2

(17 munud)

Pan fydd gennych afael da ar yr Arferion Meddwl Creadigol a’r deg cam y mae arweinwyr creadigol yn eu dilyn, agorwch yr adnodd Arweinydd Creadigol - Manyleb y Person.

Dychmygwch hysbyseb swydd ar gyfer arweinydd creadigol lle mae’r cymwysterau’n galw am Arferion Meddwl Creadigol cadarn, ac mae’r rôl yn cynnwys cyflawni’r deg cam sydd yng ngham 1.  Pa sgiliau a nodweddion gallai fod eu hangen ar gyfer y swydd?  O’r rhain, beth fyddai’n hanfodol a beth fyddai’n ddymunol?

Er enghraifft, gallai parodrwydd i fod yn ddewr fod yn hanfodol, ond gallai hyder yn eich creadigrwydd eich hun fod yn ddymunol.

Ar yr adnodd, defnyddiwch y seren allanol i glustnodi hyd at ddeg o nodweddion hanfodol a dymunol.

 

Cam 3

(10 munud)

 

Defnyddiwch gwahanol liwiau i ddangos, o’r nodweddion hanfodol a dymunol:

Pen gwyrdd – y rhai rydych chi’n credu sydd gennych chi’n barod

Pen melyn – y rhai rydych chi’n credu sydd gennych chi i ryw raddau

Pen coch – y rhai sydd ddim gennych chi

 

Nawr byddai’n ddefnyddiol i chi ofyn i gydweithiwr edrych ar eich asesiad a chynnig safbwynt gwrthrychol.

Cyd-fyfyrio

  • Sut mae’r gweithgaredd yma wedi gwneud i chi deimlo am eich gallu neu’ch potensial i arwain ar gyfer meddwl creadigol?
  • Yn gyffredinol, beth sy’n wahanol rhwng y nodweddion a nodwyd a’r rhai a allai fod yn gyson â rôl arweinydd?
  • Gan feddwl am y nodweddion arweinyddiaeth greadigol a nodwyd yn felyn neu’n goch, sut gallwch chi ddatblygu’r nodweddion hyn, neu pwy y gallech eu cynnwys sydd eisoes yn meddu ar y nodweddion hyn?
  • Fel arweinydd, sut ydych chi, neu sut gallwch chi feithrin y nodweddion hyn yn eich staff?
  • Cymharwch eich nodweddion hanfodol a dymunol chi â rhai rhywun arall o’r gymuned Arwain Meddwl Creadigol, sut maen nhw’n cymharu â’i gilydd?  Beth sy’n debyg, a beth sy’n wahanol?

Manyleb y Person taflen gweithgaredd

Gweithgaredd - argraffu