Nid yw’r Ysgol yn Lladd Creadigrwydd

Bydd llawer ohonoch wedi gweld fideo Syr Ken Robinson yn gofyn a yw ysgolion yn lladd creadigrwydd (mae’n dadlau bod llawer ohonynt yn). Efallai y byddwch wedi gweld y fersiwn yma o’i sgwrs dan ofal yr RSA wedi ei hanimeiddio. Os ydych chi wedi ei gweld hi eisoes, cymrwch yr amser i’w gwylio eto. Os na, dyma’ch cyfle!

Many of you will have seen Sir Ken Robinson’s video asking whether schools kill creativity. You may have seen this animated version of his talk hosted by the RSA. If you have seen it, take time to watch it again. If you have not, now’s your chance! 

Karwowski, M. (2022). European Psychologist, 27(3), 263–275

Crynodeb

Mae gan awdur ein papur cyntaf, yr Athro Maciej Karwowski, sy’n adnabyddus am ei gwaith ymchwil i greadigrwydd, safbwynt gwahanol, ac mae’n herio rhai o’r mythau sydd wedi datblygu ynghylch ysgolion a chreadigrwydd.


Fel arweinydd ysgol â diddordeb mewn meithrin creadigrwydd eich disgyblion a’ch staff, byddai’r gallu i fod yn hyderus wrth ddadlau’r achos dros newid yn beth defnyddiol dros ben. Rhwng Ken Robinson ac awdur y gwaith ymchwil rydym ni’n ei drafod, Maciej Karwowski, mae yna lwyth o stwff pwerus i gnoi cil arno. Mae’r fideo a’r erthygl yn darparu deunyddiau difyr ar gyfer datblygiad proffesiynol cydweithwyr.


Gan ddefnyddio amrywiaeth eang o waith ymchwil fel sylfaen, mae’r awdur yn cynnig saith datganiad ar y perthnasau rhwng creadigrwydd a threfniadaeth ysgolion.
 

1. Mae galluoedd creadigol yn llywio cyflawniad ysgolion yn hytrach na’u ffrwyno.
2. Mae’r agweddau negyddol at fyfyrwyr creadigol a welir mewn ysgolion weithiau yn ymwneud â grŵp bach a phenodol o fyfyrwyr creadigol fel rheol: y rhai sydd fwyaf byrbwyll ac nad ydynt yn cydymffurfio â rheolau’r ysgol neu’r norm o ran ymddygiad.
3. Mae’r prosesau a’r arferion meddwl sy’n gysylltiedig â chreadigrwydd yn hwyluso dysgu.
4. Mae dysgu creadigol yn digwydd pan gall myfyrwyr ddarganfod gwybodaeth newydd ac ystyrlon ar y cyd ag eraill.
5. Mae addysg mewn ysgolion yn cynorthwyo datblygiad deallusrwydd a chreadigrwydd – er bod hynny’n debygol o fod ar wahanol raddfeydd.
6. Mae prosesau creadigol a dysgu ar eu mwyaf effeithiol pan fo ganddynt effaith a gwerth: mae teimlo’n hyderus a gwerthfawrogi creadigrwydd a dysg yn allweddol i gynhyrchu a llywio cymhelliant.
7. Mae hunan0reoleiddio’n hanfodol bwysig ar gyfer creadigrwydd a phrosesau dysgu.

Cyd-fyfyrio

  • Pa un o ddadleuon Maciej Karwowski sydd fwyaf darbwyllol yn eich barn chi a pham? Sut gallech ddefnyddio’r rhain yn eich cyd-destun eich hun?
  • I ba raddau mae dadleuon Ken Robinson, a wnaed sawl degawd yn ôl, yn dal i fod yn berthnasol heddiw?
  • Pa fythau am greadigrwydd a allai fod yn ddefnyddiol i chi fel arweinydd eu herio, a beth yw’r ffordd orau o fynd ati? 
  • Gallai fod yn syniad darllen y darn sydd ynghlwm o Meddwl Creadigol mewn Ysgolion: Chwaraelyfr i arweinwyr er mwyn sbarduno’ch trafodaethau.
pdf

Five Myths About Creativity

PAPER

School Does Not Kill Creativity