Arwain newid er mwyn creadigrwydd mewn ysgolion: cymell risgiau creadigol a methiannau cynhyrchiol

Creely, E., Henderson, M., Henriksen, D. a Crawford, D. (2021) International Journal of Leadership in Education, 1-24.

Darllenwch yr erthygl yn ei chyfanrwydd yma.

Crynodeb

Mae’r papur yma’n archwilio rôl arweinyddiaeth wrth hybu creadigrwydd a mentro mewn addysg ar sail theori newid Kurt Lewin, ac yn arbennig y cysyniad o “ddadrewi”. Yn seiliedig ar astudiaeth achos am bennaeth ysgol ac athrawon blwyddyn 8 mewn ysgol ym Melbourne, mae’r canfyddiadau’n awgrymu, er mwyn rhoi risgiau creadigol a methiannau cynhyrchiol ar waith fel egwyddorion addysgol, bod angen cefnogaeth yr arweinwyr a pharodrwydd o du’r athrawon i gofleidio’r syniadau hyn o fewn deinameg cymhleth yr ystafell ddosbarth.


Mae’r awduron yn dadlau bod ‘methiant cynhyrchiol’ yn brofiad dysgu gwerthfawr. Heb fod yn fodlon mentro, a methu o bosibl, ni fydd dysgwyr/addysgwyr yn gallu archwilio ffyrdd newydd o feddwl, gweithredu, gwneud, creu neu ddysgu. Gall cofleidio methiant fel rhan o’r broses ddysgu greadigol arwain at dwf ac arloesi.
 

Mae’r papur yn archwilio model newid Kurt Lewin, sy’n pwysleisio pwysigrwydd dadrewi hen arferion, rhoi newidiadau strategol ar waith, ac ail-rewi arferion newydd er mwyn cynnal y newidiadau dymunol. Gwelir y model fel un deinamig a chymhleth, ac un sy’n caniatáu ar gyfer adborth ac addasiadau’n seiliedig ar werthuso parhaus ac effeithiolrwydd. 

Mae Lewin yn dadlau ei bod hi’n bwysig wynebu’r angen am newid mewn lleoliadau sefydliadol sefydlog, a gwerthuso arferion cyfredol mewn ffordd feirniadol. Nid mater o newid er mwyn newid mohoni, ond ffocws ar wella deilliannau trwy addasu credoau ac arferion cyfredol. Er mwyn cymell staff i newid, mae Lewin yn pwysleisio pwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth, cydnabod yr angen am newid, a gweithio’n weithredol ar atebion sy’n cwmpasu’r holl randdeiliaid.

Ym model newid Lewin, mae dadrewi’n cyfeirio at y parodrwydd i newid, tra bod newid yn cynnwys rhoi’r newid dymunol ar waith yn seiliedig ar weledigaeth a chynllunio strategol. Mae’r broses yma’n cwmpasu’r agweddau sefydliadol a chymdeithasol, yn ogystal â newid gwybyddol tuag at ffyrdd newydd o feddwl sy’n arwain at weithredu yn y pen draw. Darbwyllo sy’n arwain y newid, gan gysylltu safbwyntiau unigolion mawr eu parch â rhai’r grŵp er mwyn dangos pa mor ddymunol yw’r newid sy’n datblygu. 

bendy pencil

Yn ôl model newid Lewin, pan fo newid wedi cael ei sbarduno a’i sefydlu mewn polisïau ac arferion, mae angen “ail-rewi” er mwyn sefydlogi ac ategu’r newid hwnnw. Yng nghyd-destun meithrin diwylliant ysgol sy'n fwy creadigol a mentrus, mae ail-rewi’n golygu rhoi arferion a strwythurau ar waith er mwyn cynnal y newid, wrth ganiatáu’r hyblygrwydd i osgoi cydymffurfiaeth gaeth. Mae model Lewin yn pwysleisio pwysigrwydd dialog, ystwythder, a throsolwg gweithredol trwy holl gamau’r newid er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol.


Fel astudiaeth graddfa fach, mae’r erthygl yn ddiddorol am ei harchwiliad manwl o safbwyntiau un pennaeth o ran beth roedd e eisiau i’r ysgol fod yn gallu ei gyflawni, a beth oedd yn digwydd go iawn.
 

Efallai bod syniad Lewin am hwyluso dadrewi'r un mor hanfodol i’r myfyrwyr ag y mae e i’r athrawon. Mae angen i’r naill a’r llall fod yn agored i newid er mwyn i’r newid ddigwydd yn llwyddiannus. Mae’r canfyddiad yma’n awgrymu y dylai mentrau yn y dosbarth gael cefnogaeth cyn ac yn ystod y broses o newid, gydag arweinwyr ysgolion yn chwarae rôl hanfodol wrth gynnal yr effeithiau hirdymor ar arferion addysgu. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer mentrau creadigol sy’n herio’r norm, ni all newid fod yn ddigwyddiad un tro, ond yn hytrach rhaid iddo fod y broses barhaus er mwyn iddo fod yn effeithiol. Yn gyson â’n syniadau yn Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol mae’r papur yn archwilio sut y mae angen i arweinwyr creadigol ystyried newid strwythurol yn ogystal â newidiadau o ran addysgeg a newidiadau eraill. Mae’n cydnabod sut y gall gofynion cwricwla ysgolion, fel amserlenni a phrofion, ei gwneud hi’n sialens i athrawon gymryd risgiau, a dysgu trwy fethu yn yr ystafell ddosbarth. Mae’n awgrymu bod angen creu diwylliant ysgol sy’n gwerthfawrogi’r agweddau hyn ac yn caniatáu’r hyblygrwydd angenrheidiol o fewn y cwricwlwm. Fodd bynnag, nid yw’r data a gyflwynir yn datrys y tensiwn rhwng bodloni disgwyliadau o ran perfformiad a meithrin creadigrwydd. 

Thema allweddol sy’n codi yn y gwaith ymchwil yw’r gwrthdaro rhwng dysgu ar gyfer creadigrwydd a phrofion y mae llawer yn dibynnu arnynt. Roedd yna densiwn rhwng y delfrydau a fynegwyd gan arweinwyr addysgol a’r sialensiau ymarferol y mae athrawon yn eu hwynebu. Roedd pennaeth yr ysgol yn credu bod yr ysgol yn arloesol ac yn flaengar yn ei dulliau o addysgu, ond roedd yna wrthdaro am fod yr ysgol yn blaenoriaethu dulliau traddodiadol o addysgu hefyd er mwyn cynnal ei pherfformiad da mewn profion ac arholiadau, yn arbennig i fyfyrwyr hŷn. Roedd hyn yn creu datgysylltiad rhwng yr hyn yr oedd yr arweinwyr yn ei ddweud am hybu creadigrwydd, cymryd risgiau a dysgu o fethu, a gallu’r athrawon i roi’r syniadau hyn ar waith mewn ffordd gyson oherwydd y pwysau sydd arnynt i sicrhau canlyniadau academaidd da.

Mae’r testun yn awgrymu bod yr arweinwyr yn dylanwadu ar greu diwylliant ysgol sy’n cynorthwyo arferion dysgu effeithiol, a bod hyn yn ymestyn wedyn i’r athrawon sy’n rhyngweithio’n uniongyrchol â myfyrwyr. Mae’r mater yn gysylltiedig â phrif nodau’r ysgol, ac mae’n gofyn am ddatblygiad proffesiynol ochr yn ochr â rheoli newidiadau o ran dulliau o addysgu. I grynhoi, mae’r testun yn pwysleisio pwysigrwydd arweinyddiaeth, diwylliant yr ysgol, a datblygiad proffesiynol parhaus wrth hybu arferion addysgu effeithiol sy’n gyson â’i nodau addysgol.

Cyd-fyfyrio 

  • Ym mha ffordd ydych chi’n clustnodi ‘methiannau cynhyrchiol’ yn eich arferion arwain eich hun?
  • Sut gallech chi roi model newid Kurt Lewin ar waith yn eich lleoliad chi?
  • Er y cyflawnwyd y gwaith ymchwil yma mewn ysgol breifat yn Awstralia, i ba raddau mae’r materion sy’n codi yn gyson â’ch profiadau chi fel arweinydd, waeth pa sector neu gyfnod rydych chi’n gweithio ynddo?