Sefydlu ac asesu creadigrwydd mewn ysgolion yn Lloegr

Mae Rethinking Assessment yn dangos ei bod hi’n bosibl i athrawon yn Lloegr ddysgu sut i dystiolaethu datblygiad creadigrwydd eu disgyblion.

Krstic, S. (2024). Putting Creative Thinking at the core of the English school curriculum: An exploratory study. Llundain: Cyngor Awstralia dros Ymchwil Addysgol y DU.

Darllenwch yr adroddiad yn ei gyfanrwydd yma.

 

Crynodeb

Yn ystod tymor y Gwanwyn 2023, cyflawnodd Rethinking Assessment (RA) astudiaeth ymchwil oedd yn edrych ar hyfywedd integreiddio Meddwl Creadigol i bum pwnc yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 dros gwrs un tymor gyda charfan o athrawon o amrywiaeth eang o ysgolion yn Lloegr. Y pynciau a ddewiswyd oedd Saesneg, Gwyddoniaeth, Hanes, Celf a Dylunio, a Dylunio a Thechnoleg. Er mwyn paratoi athrawon ar gyfer hyn, cynigiwyd cyfleoedd dysgu DPP yn hydref 2022, a pharhaodd y cymorth yma yn ystod tymor gwanwyn 2023. Fel partner gwerthuso allanol yr astudiaeth, cyfrannodd ACER UK gyngor trwy gydol y broses, a chasglodd y data sy’n cael ei gyhoeddi a’i ddadansoddi’n annibynnol yn yr adroddiad hwn yn 2023.

Nod yr astudiaeth oedd:

  • clustnodi manteision sefydlu a thystiolaethu Meddwl Creadigol i ysgolion, eu disgyblion a’u hathrawon
  • ystyried effeithiolrwydd y model Meddwl Creadigol a ddatblygwyd gan RA a’r canllawiau cysylltiedig wrth hwyluso gweithrediad effeithiol mewn ysgolion
  • myfyrio ar ymdrechion ysgolion i sefydlu Meddwl Creadigol yn y system gyfredol yn Lloegr, ac ystyried beth fyddai ei angen i wneud hyn i raddfa.

Drwyddi draw, roedd yna gefnogaeth gref ymysg athrawon am bwysigrwydd sefydlu a thystiolaethu meddwl creadigol, gyda’r mwyafrif yn cofnodi sawl mantais i ddisgyblion, eu dulliau eu hunain o addysgu, a’u datblygiad proffesiynol. Ymhlith y manteision a gofnodwyd i ddisgyblion roedd gwell ymgysylltiad â’u pynciau, mwy o waith tîm a chydweithio â’u cyfoedion, a chynnydd clir yn hunan-barch a hyder rhai disgyblion. Yn ôl y rhan fwyaf o athrawon, bu’n brofiad proffesiynol cadarnhaol a’u hanogodd i barhau i ddatblygu eu twf creadigol eu hunain, yn ogystal â chyfoethogi eu perthnasau â’u disgyblion.

Defnyddiodd yr astudiaeth fersiwn syml o fodel y pump arfer creadigrwydd a ddatblygwyd gan Bill Lucas a’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Caer-wynt:

Creative Thinking, Imaginative, Persistent, Inquisitive diagram

Roedd yr ysgolion yn gefnogol iawn o’r model Meddwl Creadigol, ac yn teimlo bod eglurder y model wedi caniatáu iddynt ddatblygu iaith gyffredin hwylus o ran Creadigrwydd ar draws eu hysgolion yn ogystal â hwyluso eu gallu i integreiddio Meddwl Creadigol i raglenni astudio eu pynciau dethol yn well. Gallai hyn helpu i ddatblygu sgiliau sy’n magu hyder, cymhelliant cynhenid, ac ymgysylltiad, sy’n offer gwerthfawr er mwyn i ddisgyblion ac athrawon lewyrchu a rhagori yn wyneb sialensiau a chyfleoedd y dyfodol.

Am y tro cyntaf yn Lloegr (mae rhywbeth tebyg eisoes yn bodoli yn Awstralia) datblygwyd fframweithiau cynnydd ar gyfer pob un o’r tair arfer meddwl creadigol yma. Gallwch archwilio’r datganiadau am gynnydd yma

Bu modd i’r athrawon ddysgu tri dull asesu newydd, a llwyddodd y mwyafrif ohonynt i dreialu’r rhain, a chasglu data ychwanegol ar gyfer ACER UK yn ogystal. Yn nhermau’r dulliau asesu, roedd athrawon yn hoffi’r syniad o ddefnyddio portffolios o dystiolaeth ac annog y disgyblion i hel y rhain . Nid oedd hi’n syndod bod yr athrawon wedi gweld y broses o werthuso cynnydd eu disgyblion yn erbyn y ddogfen gynnydd yn ymestynnol (am nad oeddent wedi cael unrhyw brofiad blaenorol o wneud hyn), ac yn anochel ddigon, roedd trefnu’r sesiynau cymedroli i athrawon wedi cymryd tipyn sylweddol o amser a chynllunio. 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys tair astudiaeth achos i ysgolion eraill ddysgu ohonynt.

Cyd-fyfyrio

1. Oedd y model o greadigrwydd a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon o gymorth i chi?

2. Ym mha rannau o’ch cwricwlwm ydych chi’n ceisio sefydlu meddwl creadigol ar hyn o bryd? Beth ydych chi’n credu bydd eich ffocws nesaf?

3. A allech chi ddefnyddio neu addasu’r datblygiadau dysgu creadigol i’w defnyddio yn eich ysgol?

4. Beth y gallech ei ddysgu o’r tair astudiaeth achos?

PDF

RA-ACER Creative Thinking Progression Framework

PDF

RA-ACER Putting Creative Thinking at the Core of the English School Curriculum: An exploratory study