DYSGU CREADIGOL: Nid ychwanegiad, ond gofyniad
Mae Dr Margaret Heffernan yn Athro Arferion ym Mhrifysgol Caerfaddon a thrwy Merryck & Co, mae’n mentora Prif Weithredwyr ac uwch weithredwyr sefydliadau mawr byd-eang. Yn 2023, cafodd Margaret ei chyflwyno i Neuadd Enwogion Thinkers50 am ei chyfraniad estynedig at feddylfryd rheoli. Mae hi’n darlledu yn rheolaidd ar BBC Radio 4 ac wedi ysgrifennu nifer o ddramâu i’w darlledu.
Y gwanwyn diwethaf, roeddwn i yn Rhydychen yn siarad â chriw o weithredwyr uwch am sut y byddai eu sefydliadau’n addasu at fyd anwadal. Wrth i ddarogan a rhagweld ddod yn anos, nid mater o gynllunio arbenigol a rheolaeth fanwl yw arweinyddiaeth mwyach. Mae cymhlethrwydd cynhenid ein byd yn gofyn am fwy o gapasiti ar gyfer meddwl creadigol er mwyn ymateb ac addasu i amgylchiadau nad oes modd cynllunio ar eu cyfer. Nid opsiwn yw hyn; ond rhywbeth hanfodol. Ac os nad oedden nhw’n gwybod hynny eisoes, cawsant eu darbwyllo gan y pandemig.
Ond roedd yna un broblem. Doedd eu gweithlu hynod o gymwys ddim yn barod am y dasg. O ofyn iddyn nhw gyflawni, neu feddwl am rywbeth nad oedden nhw erioed wedi ei weld na’i ddychmygu o’r blaen, roedd eu gweithwyr yn fud ac yn anghenus. Er rhwystredigaeth eu rheolwyr, doedden nhw ddim eisiau meddwl drostyn nhw eu hunain; roedden nhw’n awchu am i rywun ddweud wrthyn nhw'n union beth i’w wneud. ‘Does dim syniadau gan fy mhobl! Maen nhw’n ddeallus ac yn addysgedig, ac mae ganddyn nhw bob math o gymwysterau,’ oedd cwyn un gweithredwr uwch. ‘Ond nid oes unrhyw feddwl creadigol ganddynt o gwbl.’
Rwy’n gweld hyn ym mhob man. Mae cwmnïau’n mynd i drafferth a chost mawr i recriwtio’r bobl fwyaf cymwys y gallant ddod o hyd iddynt, ond beth maen nhw ei gael, yn fwy na dim, yw dilynwyr ufudd: sy’n rhagorol am ddilyn cyfarwyddiadau manwl, ond sydd ar goll yn llwyr pan fydd rhywun yn gofyn iddyn nhw feddwl dros eu hunain. Wedi eu hyfforddi i gystadlu - am raddau, gwobrau, lleoedd - maen nhw’n aml yn unig, ac yn wael am ofyn am gymorth neu ei gynnig.
Mae yna sawl peth y gallwn eu beio am hyn: mae hierarchaeth o ran ei natur yn gwneud i bobl am chwilio gydsyniad y bobl uwch eu pennau, ac mae’n sbarduno cystadleuaeth hefyd. Mae biwrocratiaeth yn eu dysgu nhw i ddilyn rheolau. Mae cymhellion (arian, graddau, dyrchafiadau) yn chwarae gyda meddwl pobl, a phrofwyd eisoes bod hyn yn mygu creadigrwydd [1]. Ond mae’r dirywiad yma’n dechrau cyn iddynt gychwyn gwaith. Mae’n dechrau yn yr ysgol.
Un esiampl: Merch wyth oed, a gafodd prosiect i'w gyflawni ar fforest law yr Amazon dros wyliau’r gwanwyn. Gan ddefnyddio hen babell wersylla, llenwodd ei ffug fforest law ag anifeiliaid, adar a phlanhigion yr oedd hi wedi eu gwneud ei hun â papier mâché, ac ychwanegodd drac sain o fywyd gwyllt yr Amazon. Y noson cyn dychwelyd i’r ysgol, fe blannodd hi’r babell ar lawnt yr ysgol, ac roedd ei chyd-ddisgyblion wrth eu bodd. Ond cafodd stŵr am fod yn ‘rhy greadigol’, a'i marcio i lawr am nad oedd digon o destun yn ei phrosiect. Roedd pawb arall yn gwybod y drefn - ac fe gawson nhw farciau uwch am gopïo a gludo erthyglau Wikipedia i mewn i ffolder.
Ond fe gafodd hi gam yn sgil asesu ar sail meini prawf, sy'n asesu gwaith myfyriwr trwy ei gymharu â set o safonau a meini prawf a bennwyd ymlaen llaw. Trwy beidio â rhoi gwerth ar greadigrwydd, mae rhywun ond yn mesur i ba raddau mae’r myfyriwr yn cyd-fynd â’r hyn y mae rhywun yn rhywle wedi ei ddiffinio fel yr ateb cywir. Nid yw’r broses yn datblygu nac yn hybu meddwl creadigol o gwbl. Cafodd y system ei dylunio i fod yn deg, ond y gwir amdani yw, taw rysáit ar gyfer rhagddyfalu yw hi. Does dim syndod bod cyflogwyr mor rhwystredig - a’r bobl ifanc syfrdan y maen nhw’n eu cyflogi yn llawn gobaith yr un fath. A hynny heb sôn am y llu o argyfyngau a sialensiau sy’n ein hwynebu ni; mae angen creadigrwydd arnom nawr yn fwy nag erioed. Yn hytrach na bychanu neu ddifrïo’r peth fel rhywbeth plentynnaidd, anymarferol a diangen, mae hi’n bryd i ni gydnabod bod creadigrwydd yn gorwedd wrth galon pob math o arloesi, datrys problemau ac arweinyddiaeth effeithiol.
Ond mae hyrwyddo’r celfyddydau yn y DU wedi bod yn ymgyrch hirfaith, llawn digalondid a rhwystredigaeth dros y deg i bymtheg mlynedd diwethaf. Gallwn gyfeirio at y toriadau mewn cyllid a hepgor pynciau’r celfyddydau o’r EBacc fel dau reswm a allai esbonio pam fod nifer y myfyrwyr sy’n astudio’r celfyddydau creadigol wedi disgyn mor gyflym. Ond y dangosydd mwyaf grymus fod creadigrwydd yn cael ei wthio i’r cyrion oedd, pan aeth PISA (y Rhaglen ar gyfer Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol) ati am y tro cyntaf i fesur i ba raddau roedd ysgolion yn datblygu meddwl creadigol, a ddiffiniwyd fel “y gallu i gynhyrchu, gwerthuso a gwella syniadau er mwyn llunio atebion gwreiddiol ac effeithiol, datblygu gwybodaeth a chreu mynegiannau effeithiol o ddychymyg.” yn 2022 [i]. Pam mesur meddwl creadigol? Am ei fod “yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ddiddordeb a chyflawniad academaidd myfyrwyr, eu hunaniaeth a’u datblygiad cymdeithasol-economaidd” ac "am fod y capasiti hwnnw’n allweddol i ymchwilio i faterion, problemau neu bryderon cymdeithas-eang” [ii]. Ond optiodd yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig allan o’r asesiad yma. Meddwl creadigol? Doedden nhw ddim eisiau gwybod. (Disgyblion o Singapore ddaeth allan ar frig rhestr PISA: wedyn Corea, Canada, Awstralia, Seland Newydd, Estonia a’r Ffindir yn y drefn honno.)
Beth mae meddyliau creadigol yn ei wneud sy’n eu gwneud nhw mor hanfodol nawr? Yn hytrach na dilyn llwybrau parod, maen nhw’n gadael i’w meddyliau grwydro i ble bynnag y mae chwilfrydedd yn mynd â nhw; a thrwy gronni gwybodaeth a syniadau, maen nhw’n tiwnio’n well i’r byd. Maen nhw’n datblygu’r amynedd i archwilio beth mae’r cyfan yn ei olygu, a’r dewrder sydd ei angen i ddechrau gweithio ar rywbeth sydd heb ei ddiffinio eto. Mae nofelwyr fel Murakami a Lee Child yn dechrau eu nofelau heb wybod sut i ble mae'r plot yn mynd; dyw’r angen am gyfarwyddiadau manwl cyn cychwyn ddim at eu dant nhw! Ar ôl dechrau, mae’r anawsterau’n lluosogi, a phob un yn broblem i’w datrys. Mae miliynau o benderfyniadau bychain bach yn cael eu gwneud wrth iddynt ddyfalbarhau, heb wybod a fydd eu creadigaeth yn llewyrchu neu’n edwino. A dydyn nhw’n gwybod beth fydd y wobr chwaith: ar ôl gorffen Days Without End, daeth y nofelydd Sebastian Barry i’r casgliad edifeiriol y byddai’n amhoblogaidd ac y byddai angen iddo ddechrau ei lyfr nesaf yn syth. (Mewn gwirionedd, diolch i’r nofel, Barry oedd y nofelydd cyntaf i ennill Gwobr Costa ddwywaith.)
Mae hyn oll yn gallu bod yn arswydus, yn ansicr ac yn aml yn unig, felly maen nhw’n dod yn gydweithwyr ffurfiol neu anffurfiol penigamp: sy'n hael eu syniadau a’u cefnogaeth, gan fywiocáu ac ehangu eu galluoedd ei gilydd, gan wybod pa mor fentrus y gall y gwaith fod gydag eraill - ac yn fwy cynhyrchiol hefyd.
Yn aml, wrth lwyddo mae artistiaid yn dewis newid, gan droi cefn ar sicrwydd eto a throi'n hytrach at archwilio a darganfod pellach. Ymhell o’r ystrydeb sy’n bodoli am artist diog a phlentynnaidd, mae eu dramâu'n agor yn brydlon, arddangosfeydd yn cael eu cynllunio’n effeithlon, yn cael eu hyswirio a’u cludo o gwmpas y byd, mae ffilmiau’n cadw o fewn eu cyllideb, mae cerddorfeydd a bandiau'n meistroli technolegau a phlatfformau newydd: a’r cyfan heb gyfarwyddiadau na gwarantau.
Dyma’r union alluoedd y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ond hefyd dyma‘r union beth sydd eu hangen ar gymdeithas mewn dinasyddion, athrawon ac arweinwyr o bob math: hyblygrwydd, egni, effaith, dewrder, ac archwaeth ddiddiwedd i ddysgu. Does dim syniad gennym pa swyddi a sgiliau penodol yn union y bydd y dyfodol yn eu gwerthfawrogi ac yn gofyn amdanynt. Un peth y gallwn ni fod yn sicr amdano yw y bydd angen i bawb fod yn dda am ddysgu, am weithio gydag eraill, ac yn awyddus i roi cynnig ar bethau newydd. Ac rydyn ni’n gwybod bod gwneud hynny’n beth da iawn iddyn nhw [iii]. I bobl ifanc, mae darllen pob dydd yn lleihau gorfywiogrwydd a diffyg sylw, ac yn datblygu empathi. Mae’r un peth yn wir am wersi dawns, cerddoriaeth neu gelf. Mae pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn clybiau darllen, dawns, bandiau a cherddorfeydd yn datblygu gwell synnwyr o ymreolaeth a thwf personol, ac maen nhw’n llai tebygol o ddechrau smygu ac yfed neu gymryd rhan mewn gweithgareddau gwrthgymdeithasol neu droseddol. Nid yw ymchwilwyr yn hollol siŵr pam fod datblygu eu sgiliau dychmygu, creadigol a datrys problemau (sef bywyd pob dydd artist) yn fanteisiol, ond maen nhw’n cydnabod yr effaith mae’r pethau hyn yn ei chael: gwella hunanhyder, hunanreolaeth a rhoi ymdeimlad cryfach o hunain i bobl ifanc fel actorion yn eu bywydau eu hunain.
Mae’r doniau cydweithredol y mae’r celfyddydau’n eu datblygu yn gwneud mwy na gwella gwaith yn unig. Maen nhw’n datblygu sgiliau cyfathrebu a hefyd, trwy gynnwys mwy o safbwyntiau, maen nhw’n meithrin y gallu i reoli gwrthdaro, sydd wrth galon creadigrwydd bob tro. Yn ogystal, nid yw arloesi’n parchu hierarchaeth nac arbenigedd, sy’n golygu bod problemau’n aml yn cael eu datrys gan bobl sy’n gweithio y tu hwnt i’w maes arbenigol. Felly mae cydweithio ag amrywiaeth o agweddau a galluoedd yn dwysáu’r tebygolrwydd o ddod o hyd i syniadau newydd a gwell. Ac mae penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan groestoriad cyfoethog o bersonoliaethau a chefndiroedd yn gallu cynnig mwy o ddilysrwydd i bethau.
Dyna pam fod y frwydr wedi cychwyn i sefydliadau ym Mhrydain adfer y celfyddydau creadigol ar bob lefel o addysg a hyfforddiant, i fyfyrwyr, athrawon, penaethiaid ysgolion a’r rhai sy’n llunio polisi. A hynny nid dim ond oherwydd effaith gadarnhaol y celfyddydau ar iechyd corfforol a meddyliol pobl o bob oedran. Nac yn unig am fod y sector yma o’r economi’n cynhyrchu mwy o incwm na’r diwydiannau awyrofod, gwneud ceir a fferyllol gyda’i gilydd. Ond am fod ar bob sefydliad (ac yn arbennig yn y byd addysg) angen unigolion sy’n gallu meddwl drostyn nhw eu hunain, gweld y pethau nad yw eraill yn eu gweld, dod o hyd i atebion lle nad oedd ateb o’r blaen, sy’n gyffyrddus yn rheoli gwrthdaro a gweithio gyda phobl sy’n wahanol iddyn nhw, nad ydynt yn ofni newid neu arbrofi, ac sydd ag archwaeth ddiddiwedd am ddysg.
[1] Mae rhai o’r ysgrifau mwyaf hygyrch am y pwnc yma yn llyfr rhagorol Daniel Pink, Drive.
[i] https://www.oecd-ilibrary.org/docserver/b3a46696-en.pdf
[ii] https://www.oecd.org/pisa/innovation/creative-thinking/
[iii] FANCOURT D, BONE JK, BU F, MAK HW, BRADBURY A. 2023. The Impact of Arts and Cultural Engagement on Population Health: Findings from Major Cohort Studies in the UK and USA 2017–2022. Llundain: UCL; 2023 Mawrth. Mae yna lwyth o waith ymchwil i’r pwnc yma, ond mae’r adroddiad yma’n cynnig crynodeb gwych.
https://sbbresearch.org/wp-content/uploads/2023/03/Arts-and-population-health-FINAL-March-2023.pdf
Cyd-fyfyrio
- Mae erthygl Margaret yn ein tynnu ni nôl i ystyried pwrpas ysgolion. Sut mae’ch ysgol chi’n paratoi eich plant a’ch pobl ifanc i fynd allan i fyd anwadal?
- Sut gallai’r celfyddydau eich ysbrydoli a dylanwadu arnoch chi, fel arweinydd meddwl creadigol, i ddatblygu eich ysgol fel sefydliad ag ‘archwaeth ddilyffethair am ddysg’?
- Sut gall ysgolion, arweinwyr busnes ac artistiaid gydweithio i sbarduno dulliau newydd o ddatrys y broblem systemaidd o analluogrwydd creadigol?
Dr. Margaret Heffernan
Dechreuodd Margaret ei gyrfa yn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer y BBC cyn symud i UDA lle bu’n arwain cynyrchiadau amlgyfrwng, daeth yn Brif Weithredwr, ac fe’i henwyd yng “100 Uchaf - Gweithredwyr y Cyfryngau” The Hollywood Reporter.
Mae Margaret wedi ysgrifennu tri llyfr, ac enwyd ei thrydydd lyfr, Willful Blindness : Why We Ignore the Obvious at our Peril fel un o lyfrau busnes pwysicaf y degawd gan y Financial Times. Mae dros bymtheg miliwn o bobl wedi gweld ei chyflwyniadau TED, ac yn 2015 cyhoeddodd TED Beyond Measure: The Big Impact of Small Changes. Cyhoeddwyd ei llyfr diweddaraf, Uncharted: How to map the future yn 2020. Daeth yn boblogaidd yn gyflym iawn ac fe’i henwebwyd am wobr Llyfr Busnes Gorau’r Financial Times, bu’n un o Lyfrau Gorau Bloomberg yn 2021 ac fe’i dewiswyd fel llyfr busnes “Medium Best of the Best”.
Bydd yn cyhoeddi ei llyfr nesaf, Embracing Uncertainty: How writers, artists and musicians thrive in an unpredictable world ym mis Mawrth 2025, ac rydyn ni wrth ein bodd i ddweud y bydd Margaret yn ymuno yn ein cyfarfod cymunedol ar 19 Mawrth 2025 am 4.30pm. Bydd y manylion bwcio ar gael cyn hir.
Os hoffech chi iddi ddod i siarad â’ch sefydliad am ei gwaith, ewch i www.mheffernan.com