Straeon

Dewch i ymgynnull o gwmpas y tân diarhebol i rannu straeon am arweinyddiaeth ddewr a meddwl creadigol eofn. Darganfyddwch ddysg a phrofiadau’r arweinwyr ysgolion ac athrawon ysbrydoledig yn ein cymuned sy’n arwain y ffordd. Sbardunwch eich potensial eich hun fel arweinydd creadigol a rhannwch eich stori.

Os hoffech chi rannu eich stori arwain ar gyfer meddwl creadigol chi, lawrlwythwch y ‘canllaw a thempled ar gyfer stori’ ac anfonwch eich stori at andrea.mercer@cceengland.org

colourful illustrations
Word

Share your Story

If you would like to share your leading for creative thinking story please download the ‘Story Guidance and Template’ and send your story to andrea.mercer@cceengland.org

Ysgolion Creadigol: Gweriniaeth Iwerddon

Ysgolion Creadigol – Athrawon a Phlant Gweriniaeth Iwerddon yn rhannu eu cynghorion ar sefydlu creadigrwydd mewn ysgolion

Arwain ar gyfer Creadigrwydd – Nid Boddi ond Chwifio

Naomi Lord yw Cyfarwyddwr Dysgu Creadigol a Phartneriaethau Sefydliad Ysgol Bolton, Manceinion Fwyaf. 

Mae Ysgol Bolton wrthi’n rhoi rhaglen ar waith i sefydlu llwybrau dysgu creadigol yr holl ffordd o Gyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar i’r Chweched Dosbarth, gan integreiddio gweithgareddau cwricwlaidd, gyd-gwricwlaidd a chymunedol er mwyn darparu addysg gynhwysfawr ac eangfrydig.

@_NaomiLord

Arwain ar gyfer Creadigrwydd: I ysbrydoli addysgu a dysgu ar gyfer creadigrwydd ar draws y cwricwlwm

Mae Sarah Childs, Arweinydd ac Ymarferydd Arweiniol Cydweithfa Creadigrwydd Penryn (PCC), yn myfyrio ar siwrnai arweinyddiaeth Coleg Penryn dros y tair blynedd diwethaf. 

@schildsmusic

STRAEON

Datblygu arweinyddiaeth ar gyfer meddwl creadigol gan ddefnyddio cymuned dysgu i athrawon

Mae Dr Claire Badger yn Bennaeth Cynorthwyol â chyfrifoldeb dros Addysgu a Dysgu yn Ysgol Godolphin and Latymer, gorllewin Llundain.

@badger_claire

STRAEON

Rhwydwaith Creadigrwydd Cydweithredol Gogledd-ddwyrain Lloegr (RCCGD)

Mae RCCGD yn gymuned ddysgu broffesiynol o 12 ysgol ar draws Gogledd-ddwyrain Lloegr, sy’n gweithio ar y cyd â Chreadigrwydd, Diwylliant ac Addysg i archwilio, profi ac ymgorffori amrywiaeth o arferion arloesol mewn addysgu ar gyfer creadigrwydd.

a book with a title of creative thinking in schools

Meddwl Creadigol mewn Ysgolion: Chwaraelyfr i Arweinwyr

Lluniwyd Meddwl Creadigol mewn Ysgolion: Chwaraelyfr i Arweinwyr gan dîm o arweinwyr meddwl, ymchwilwyr a hwyluswyr o fri rhyngwladol. Canllaw ymarferol yw’r chwaraelyfr sy’n cyfuno dealltwriaeth ddwys am newid ysgolion a systemau â phrofiad o feithrin meddwl creadigol a hybu arferion dysgu creadigol mewn ysgolion.