Rhwydwaith Creadigrwydd Cydweithredol Gogledd-ddwyrain Lloegr (RCCGD)
Mae RCCGD yn gymuned ddysgu broffesiynol o 12 ysgol ar draws Gogledd-ddwyrain Lloegr, sy’n gweithio ar y cyd â Chreadigrwydd, Diwylliant ac Addysg i archwilio, profi ac ymgorffori amrywiaeth o arferion arloesol mewn addysgu ar gyfer creadigrwydd.
Cyd-fyfyrio
- Sut mae’r ffilm yma’n ategui neu’n herio eich syniadau am feddwl creadigol mewn ysgolion?
- Sut gallai disgyblion, rhieni, llywodraethwyr neu ddarpar-bartneriaid eraill eich cynorthwyo chi i ddatblygu meddwl creadigol yn eich ysgol?
- Beth ydych chi wedi ei ddysgu am ddysgu proffesiynol ar gyfer meddwl creadigol? Beth sy’n bwysig?
- Ymhle y gwelwch chi gyfleoedd go iawn ar gyfer dialog proffesiynol a myfyrio gyda chymheiriaid yn y gwaith yma?
- Sut gallwch chi estyn allan at ysgol arall (neu ysgolion eraill) sydd â diddordeb mewn datblygu meddwl creadigol, i greu eich grŵp cydweithio eich hun?
- Pa gwestiynau eraill mae’r ffilm yma’n eu sbarduno neu’n eich ysbrydoli chi i’w harchwilio ymhellach, o ran dysgu proffesiynol ar gyfer meddwl creadigol?