Mae popeth yn newid gyda Chreadigrwydd wrth y llyw: Siwrnai Creadigrwydd Cragside

Nid rhywbeth sy’n digwydd trwy gelf a dylunio, cerddoriaeth neu ddylunio a thechnoleg yn unig yw creadigrwydd yn Ysgol Gynradd Cragside yn Heaton, Newcastle, mae hi’n greiddiol i sut mae’r ysgol gyfan yn gweithredu. Yn rhan o Gydweithfa Creadigrwydd Gogledd-ddwyrain Lloegr (NECC), aeth Cragside ar siwrnai, nid dim ond i newid beth roedden nhw’n ei ddysgu, ond i chwyldroi’r diwylliant dysgu ar draws yr ysgol gyfan. Mae eu dull o weithredu, a rannwyd yn yr astudiaeth achos yma, yn dangos sut mae creadigrwydd wedi dod yn rhan o bob agwedd ar addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth, gan fframio’r ysgol fel sefydliad dysgu proffesiynol.
Cafodd trawsnewidiad Cragside ei sbarduno gan ddiwylliant lle mae dysgu proffesiynol a chwilfrydedd wir yn cael eu gwerthfawrogi. Rhoddwyd yr amser, yr offer a chefnogaeth yr arweinwyr i staff i archwilio ‘creadigrwydd ar waith’, gan ymchwilio’n ddyfnach i’r ‘Arferion Creadigol’, arbrofi gyda syniadau ac addysgeg newydd, a dysgu’n gydweithredol ochr yn ochr â’i gilydd.
Cydweithiodd timau ar draws grwpiau blwyddyn o Gyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar i Flwyddyn 6 ag arweinwyr creadigrwydd a thîm “arloesi” yn helpu i hyrwyddo meddylfryd newydd a chreadigol, rhannu profiadau a chynnal y momentwm. Cafodd teuluoedd, llywodraethwyr a myfyrwyr oll eu hannog i ddod yn rhan o’r sgwrs hefyd, gan wneud creadigrwydd yn iaith i bawb ac yn rhywbeth y gallai’r gymuned ysgol i gyd ei deall, ei llywio a’i chefnogi. Creadigrwydd bwriadol oedd hyn, gyda map ffordd Theori Newid yn rhoi eglurder, pwrpas a chyfeiriad i’r siwrnai.
…[N]id mater o gyflawni deilliant o fewn blwyddyn yn unig mo hyn. Ond mater o arferion gwirioneddol bwysig sydd wedi bwrw gwreiddiau cadarn mewn unigolion sy’n gallu parhau â nhw ble bynnag maen nhw’n mynd…
Becky Jackson, Prifathro, Ysgol Gynradd Cragside
Mae ymroddiad Cragside i addysgu ac arweinyddiaeth o safon uchel wedi cael ei gydnabod gan Ofsted yn ddiweddar, gyda’r adroddiad yn pwysleisio effaith ei ddull creadigol ac allblyg o weithredu.
Mae siwrnai creadigrwydd Cragside yn ein hatgoffa ni nad mater o wneud mwy, ond gwneud pethau’n wahanol, yw trawsnewid. Pan ddaw creadigrwydd yn ‘ffordd o wneud pethau’, mae popeth yn dechrau newid, a dysgu’n troi’n antur gyffrous i bawb.
*Os hoffech chi ddarllen rhagor am waith Cydweithfa Creadigrwydd Gogledd-ddwyrain Lloegr, mae’r portffolio cyfan o fyfyrdodau, profiadau a syniadau yma.
….[I] fi, arfer gorau yw hyn. Ac mae pawb ar eu hennill o arferion gorau, ond ein plant mwyaf bregus yn benodol….
Becky Jackson, Prifathro, Ysgol Gynradd Cragside
Cyd-fyfyrio
- Pa ddau syniad ydych chi wedi eu cymryd o’r stori yma a’r astudiaeth achos cysylltiedig i gysylltu creadigrwydd â dysgu effeithiol, ac â strategaeth gyfredol eich ysgol chi?
- Sut mae creadigrwydd yn cael ei weld a’i ddeall ar draws eich ysgol ar hyn o bryd?
- Sut gallech chi fframio arferion dysgu a dysgu proffesiynol cyfredol o’r newydd trwy lens fwy creadigol?
- Pwy yw’r arloeswyr creadigol yn eich ysgol a sut ydych chi’n/gallech chi eu hymbweru a dysgu ganddynt?