Ynghylch

Ein cenhadaeth yn Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yw tynnu arweinwyr addysg ynghyd a’u galluogi i feithrin diwylliant pwrpasol i ddatblygu creadigrwydd staff a myfyrwyr fel ei gilydd.

Mae creadigrwydd yn hanfodol. Mae meithrin sgiliau meddwl creadigol yn taclu arweinwyr i fod yn ystwyth, athrawon i lewyrchu, a disgyblion i ffynnu mewn byd sy’n newid yn barhaus. 

Er mwyn gwneud hyn yn dda, mae arweinyddiaeth greadigol ymroddedig yn hanfodol.

alt

Mae’r ffordd yma o arwain yn pennu agenda ar gyfer newid ac yn ceisio galluogi arweinwyr systemau, ysgolion ac athrawon i feithrin ffordd greadigol o feddwl trwy ddatblygu diwylliannau, strwythurau ac arferion, ac ymgorffori’r ‘arferion meddwl creadigol’.

Darganfyddwch botensial cudd yn eich ysgol a’ch dosbarth.

Arferion Creadigol y Meddwl 

Mae’r model creadigrwydd a meddwl creadigol sy’n sail i Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yn canolbwyntio ar bum arfer meddwl creadigol, sef – cydweithrediad, disgyblaeth, dychymyg, chwilfrydedd a dyfalbarhad. 

Mae'r fframwaith yn eich cynorthwyo chi i ddeall pa arferion i ganolbwyntio arnynt wrth geisio datblygu creadigrwydd eich disgyblion a’ch staff. 

Adnodd Templed Arferion Meddwl Creadigol 

10 Cam Allweddol

O’r gwaith ymchwil a gyflawnwyd, rydyn ni’n deall fod yna ddeg peth allweddol y mae arweinwyr creadigol effeithiol yn eu cyflawni. Mae’r holl weithgareddau ar y wefan ac yn y chwaraelyfr yn ymwneud ag un o’r deg yma. Dyma nhw:

1. Y Broses Newid 

2. Datblygu Arweinwyr 

3. Newid y Diwylliant 

4. Ailfeddwl Strwythurau 

5. Datblygu Cwricwlwm Creadigol 

6. Ailfeddwl am Addysgeg 

7. Tracio Datblygiad Meddwl Creadigol

8. Sicrhau Dysgu Proffesiynol 

9. Cydweithio â Phartneriaid Allanol 

10. Myfyrio a Gwerthuso

Y Bartneriaeth Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol 

Mae Creadigrwydd, Diwylliant ac Addysg (CCE) yn sefydliad rhyngwladol arobryn sy’n ymroddedig i ddatgloi potensial creadigol addysgwyr, pobl ifanc a phlant trwy newid cynaliadwy mewn addysgu a dysgu. Ar hyn o bryd mae CCE yn cefnogi rhaglenni yn Lloegr, Iwerddon, Norwy, Hwngari, Pacistan a Gwlad Thai ac mae ganddynt rwydwaith rhyngwladol a ffurfiwyd o brosiectau blaenorol yn Awstralia, yr Alban, Cymru, Rwmania, y Weriniaeth Tsiec, Chile a mannau eraill.  Arweinir CCE gan Nia Richards sydd wedi bod yn cefnogi dysgu proffesiynol mewn creadigrwydd ers 2015. Yn athrawes ddosbarth am 13 mlynedd mewn addysg uwchradd ac addysg bellach, oedd Nia yn Arweinydd Rhanbarthol ar gyfer rhaglen Dysgu Greadigol genedlaethol Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ac mae ganddi MA mewn Ymchwil Ymarferwyr.  

Lansiodd Cyngor Celfyddydau Cymru raglen Dysgu creadigol drwy’r celfyddydau yn 2015. Maent wedi defnyddio’r model pum Arfer Creadigol y Meddwl i osod creadigrwydd wrth galon y cwricwlwm drwy’r llinyn Ysgolion Creadigol Arweiniol, gan gyrraedd dros saith cant o ysgolion hyd yma. Mae Sian James yn rheoli rhaglen Dysgu Greadigol genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru gan gefnogi dros 700 o ysgolion a’u hathrawon i archwilio addysgeg arloesol a pharatoi ar gyfer cyflwyno cwricwlwm eang newydd.

Mae'r Ganolfan Dysgu Byd Go Iawn (CDBGI) ym Mhrifysgol Winchester yn grŵp ymchwil cymhwysol clodwiw sy'n canolbwyntio ar ddeall y tueddiadau ar gyfer dysgu sy'n galluogi pobl i ffynnu mewn bywyd. Mae’r model dysgu pum Arfer Creadigol a ddatblygwyd ganddynt yn cael ei ddefnyddio’n eang mewn ysgolion uwchradd a chynradd ar draws y byd.  Arweinir CDBGI gan yr Athro Bill Lucas. Ymchwilydd toreithiog, awdur ac arweinydd meddwl addysgol, mae Bill yn gyd-sylfaenydd Rethinking Assessment, cadeirydd bwrdd cynghori Sefydliad Byd-eang Meddwl Creadigol, cyd-gadeirydd bwrdd cynghori Prawf Meddwl Creadigol PISA 2022 a chydawdur adroddiad cyntaf Comisiwn Durham ar Greadigrwydd ac Addysg. Mae Dr Ellen Spencer wedi treulio dros ddegawd yn ymchwilio creadigrwydd ac arweinyddiaeth greadigol, yn cyd-ysgrifennu llyfrau ac adroddiadau gyda Bill sy'n cyfuno datblygiad cysyniadol â ffocws ymarferol cryf gyda'r nod o hyrwyddo arfer mewn ystafelloedd dosbarth ac yn ehangach.

Rydym hefyd yn elwa ar arbenigedd yr Athro Louise Stoll, ymgynghorydd rhyngwladol a chyn hynny'n Athro mewn Dysgu Proffesiynol yng Nghanolfan Arweinyddiaeth Addysgol UCL. Mae gweithgaredd ymchwil a datblygu Louise yn canolbwyntio ar sut mae ysgolion a systemau yn creu capasiti ar gyfer dysgu ac mae hi wedi cydweithio â’r OECD ar sawl menter, gan gynnwys canolbwyntio ar arweinyddiaeth Amgylcheddau Dysgu Arloesol, ac Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu. 

Yn olaf, hoffai'r Tîm gydnabod cefnogaeth The Mercers Company

Ein partneriaeth

Dan arweiniad Creadigrwydd, Diwylliant ac Addysg – y sylfaen dysgu creadigol rhyngwladol.

  • Creativity Culture & Education logo (CCE)
Mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan Dysgu’r Byd Go Iawn.
  • Cyngor Celfydddydau Cymru
  • Centre for real-world learning in University of Winchester

Tanysgrifiwch nawr i ddatgloi dirnadaeth ac ysbrydoliaeth newydd.

Cofrestrwch i gael ein newyddlenni misol ac i fod gyda’r cyntaf i glywed am y gwaith ymchwil, digwyddiadau ac erthyglau diweddaraf i’ch cynorthwyo chi i arwain ar gyfer dysgu creadigol.

* gwybodaeth hanfodol