Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol: digwyddiad cymunedol #10
Cofleidio Ansicrwydd gyda Margaret Heffernan

Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol: digwyddiad cymunedol #10
Cofleidio Ansicrwydd gyda Margaret Heffernan
Mewn byd sy’n erfyn sicrwydd, sut mae mynd ati i arwain pan fo’r dyfodol mor simsan?
Ymunwch â ni am gyfarfod cyfranogol o’r gymuned Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol, lle bydd yr awdures a’r arweinydd meddwl adnabyddus Margaret Heffernan yn ein herio ni i feddwl eto am ein perthynas ag ansicrwydd. Mae ei llyfr diweddaraf, Embracing Uncertainty, yn dadlau nad rhywbeth i’w ofni yw’r anniddigrwydd o beidio â gwybod - ond yn hytrach, gwahoddiad i greu, addasu ac arwain ag effaith.
Nid sgwrs yn unig yw hyn - ond sesiwn gwneud. Ar ôl clywed gan Margaret, fe gymerwch chi ran mewn gweithgaredd rhyngweithiol â’r nod o ehangu’ch ffordd o feddwl, gan dynnu ar arferion artistiaid sy’n llewyrchu ar yr anhysbys. Gan weithio mewn grwpiau bychain, fe ffeindiwch chi’ch ffordd trwy senario addysg annarogan, gan ddefnyddio cyfyngiadau creadigol wedi eu hysbrydoli gan arferion artistig i ymateb iddo. Disgwyliwch arbrofi, cydweithio ac edrych o’r newydd ar sut rydych chi’n arwain trwy ansicrwydd.
Dim ots a ydych chi’n arweinydd ysgol neu athrawon, neu’n rhywun sy’n chwildroi’r byd dysgu, dyma’ch cyfle chi i gysylltu ag eraill sy’n cofleidio cymhlethdodau. Dewch yn barod i ymgysylltu, creu, ac arwain mewn ffordd wahanol - am fod y dyfodol yn eiddo i’r rhai sy’n gallu ei lywio.
Mae’r sesiwn yma’n rhan o gyfres fisol, sydd â’r nod o feithrin cymuned gefnogol o addysgwyr arloesol â ffocws ar weithredu sy’n Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol.