Meddwl Creadigol mewn Dysgu Gweithredol

Ydych chi erioed wedi meddwl sut y gall meddwl creadigol drawsnewid arweinyddiaeth ysgolion?  

Mae arweinyddiaeth wych yn llewyrchu trwy feddwl creadigol, ymholi dwys a gweithredu eofn. Yr wythnos ddiwethaf, rhoesom hyn ar waith trwy dynnu tri arweinydd ysgol creadigol a chydweithiwr o’r cyfnod cynradd ynghyd am sesiwn Dysgu Gweithredol - proses ddeinamig o fyfyrio, cwestiynu a thaclo rhwystredigaethau o’r byd go iawn ynghylch sefydlu creadigrwydd mewn ysgolion gyda’n gilydd.

“Ni all dysgu digwydd heb weithredu, ac ni all gweithredu ddigwydd heb ddysgu.”

Reginald Revans

Beth yw Dysgu Gweithredol?

Dull strwythuredig yn seiliedig ar ymholi yw Dysgu Gweithredol, lle mae unigolion yn cydweithio mewn grwpiau bychain (Setiau Dysgu Gweithredol) i fynd i’r afael â sialensiau dybryd. Trwy gylchoedd o gwestiynu, myfyrio a gweithredu, mae’r cyfranogwyr yn datblygu atebion wrth fireinio eu sgiliau arwain eu hunain.

Mae’r dull yma’n cyd-fynd yn naturiol â model ein pump Arfer Creadigol, gan feithrin diwylliant o greadigrwydd, arloesi, a dysgu parhaus. O’u cyfuno, mae Dysgu Gweithredol a’r Arferion Creadigol yn eu cydategu ei gilydd – mae’r fframwaith Dysgu Gweithredol yn caniatáu i’r arferion hyn gael eu modelu a’u hymarfer, ac mae’r arferion yn sicrhau meddwl agored, ymholi dwys, a ffordd arloesol o feddwl yn y broses ddysgu.

Amodau a Chydweithio

Mae Dysgu Gweithredol yn creu lle diogel ac agored ar gyfer dialog, lle gall arweinwyr ysgolion ac athrawon fyfyrio’n ddwfn, manteisio ar ddeallusrwydd cyfunol, a thaclo sialensiau gyda’i gilydd. Mae’r peth wedi ei adeiladu ar ymddiriedaeth a chydweithio, lle mae arweinwyr yn eu cefnogi ei gilydd, yn gwrando’n ymarferol, ac yn herio ffyrdd o feddwl mewn ffordd adeiladol.

Mae’r broses yma’n chwalu rhwystrau, yn meithrin ymddiriedaeth ac mae’r safbwyntiau amrywiol yn sbarduno gweithredu, gan yrru newid effeithiol a pharhaus mewn ysgolion.

Chwilfrydig a Dychmygus

Wrth galon Dysgu Gweithredol mae ymholi - sef y grefft o ofyn cwestiynau agored a mwy dwys, herio rhagdybiaethau a datgloi syniadau newydd. Yn ein sesiwn, fe weithion ni fel cyfeillion chwilfrydig, gan wthio’r tu hwnt i’r arwynebol ac archwilio’r pam a’r cyd-destun y tu ôl i’r rhwystredigaeth.

Mae’r dull yma o weithredu’n meithrin y dychymyg, gan ymbweru’r cyfranogwyr i fynd y tu hwnt i feddwl confensiynol, a chwarae gyda phosibiliadau newydd, gyda chyfloed i weld y byd mewn ffordd wahanol a sbarduno atebion creadigol.

Dyfalbarhaus

Proses o fyfyrio, ailadrodd a thyfu’n barhaus yw Dysgu Gweithredol. Mae’n cofleidio ansicrwydd a rhwystrau fel cyfleoedd dysgu gwerthfawr. Yn yr un modd ag Arfer Creadigol dyfalbarhad, mae’r dull yma’n annog arweinwyr i ddal ati i fireinio syniadau, profi atebion, a datblygu gwytnwch – sef nodweddion allweddol arweinyddiaeth greadigol. 

Disgybledig

Mae Dysgu Gweithredol yn pwysleisio ac yn hyrwyddo cwestiynu strwythuredig a’r arfer greadigol o fyfyrio’n feirniadol, wrth i weithredoedd gael eu dadansoddi, eu mireinio a’u gwella yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd o’u rhoi ar waith. Mae’r cylch gweithredu-myfyrio strwythuredig yma’n gofyn am ymdrech barhaus, gwerthuso beirniadol, a rhoi syniadau ar waith mewn ffordd ystyrlon – sy’n elfennau hanfodol wrth wneud gwelliannau cynaliadwy a sefydlu creadigrwydd mewn ysgolion.

 

Sut gallech chi roi’r dull yma o weithredu ar waith?

  • Meddyliwch am sialens gyfredol yn eich ysgol - sut gallai meddwl creadigol trwy ddysgu gweithredol gyda chydweithwyr rydych chi'n ymddiried ynddynt droi'r sialens yma'n gyfle i arloesi?
  • Dychmygwch petai pob adran yn eich ysgol yn defnyddio egwyddorion meddwl creadigol a Dysgu Gweithredol - pa bosibiliadau a newidiadau diwylliannol fyddech chi’n eu rhagweld yn deillio o hynny?

Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn Dysgu Gweithredol nesaf!

Ydych chi’n arweinydd ysgol neu athrawon yn y cyfnod uwchradd sydd am archwilio a phrofi sut y gall Dysgu Gweithredol gynorthwyo meddwl creadigol mewn ysgolion? Ymunwch yn y sesiwn Dysgu Gweithredol ar lein nesaf y mis Ebrill yma!

  • Ebostiwch: andrea.mercer@cceengland.org i gofrestru eich diddordeb.
  • Neu: Cofrestrwch ar gyfer ein newyddlen i fod gyda’r cyntaf i wybod pryd y bydd y sesiwn yn mynd yn fyw.

Cadwch eich lle ac ymunwch â chymuned o arweinwyr ysgol blaengar sydd wedi ymrwymo i yrru newid creadigol.

Tanysgrifiwch nawr i ddatgloi dirnadaeth ac ysbrydoliaeth newydd.

Cofrestrwch i gael ein newyddlenni misol ac i fod gyda’r cyntaf i glywed am y gwaith ymchwil, digwyddiadau ac erthyglau diweddaraf i’ch cynorthwyo chi i arwain ar gyfer dysgu creadigol.

* gwybodaeth hanfodol