Ail-fywiocau athrawon trwy ddysgu proffesiynol ar gyfer creadigrwydd

Ail-fywiocau’r awydd i addysgu: Datblygiad proffesiynol i athrawon am greadigrwydd, effaith, lleihau straen a llesiant

Anderson, R., Katz-Buonincontro, J., Livie, M., Land, J., Beard, N., Bousselot, T. a Schuhe, G. (2022). Ail-fywiocau’r awydd i addysgu: Datblygiad proffesiynol athrawon am greadigrwydd, effaith, lleihau straen a llesiant Frontiers in Education, 7, 1-16. 

Darllenwch yr erthygl gyfan yma.

Crynodeb

Mae gwaith ymchwil yn awgrymu y gall datblygiad creadigol arwain at fwy o wytnwch a llawenydd, a llai o straen, ond ychydig iawn o sylw sydd wedi cael ei roi i’r cysylltiadau hyn. Mae’r astudiaeth hon yn archwilio pa mor effeithiol oedd model datblygu proffesiynol hybrid oedd yn canolbwyntio ar effaith greadigol athrawon yn ystod y pandemig COVID-19, sef cyfnod pan oedd mwy o straen, pryder a datgysylltiad. Roedd y canlyniadau’n dangos bod y profiad o ddysgu proffesiynol (DP) wedi sbarduno gwelliant yn effaith greadigol, empathi, llawenydd ac ysbryd athrawon. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod effaith greadigol a llesiant athrawon yn gallu datblygu trwy broses gydategol sydd wedi ei gwreiddio mewn creadigrwydd.

Mae athrawon yn aml yn profi straen yn eu bywyd proffesiynol. Yn wir, gallai’r sialensiau sydd ynghlwm wrth recriwtio a chadw athrawon ar draws y byd awgrymu bod yna broblem gyffredinol o orweithio o fewn y proffesiwn addysgu ar draws y byd i gyd. Ond beth os gallai rhai mathau o ddysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar greadigrwydd liniaru ffactorau negyddol o’r fath? Cwestiwn yw hwn sy’n cael ei archwilio yn y gwaith ymchwil.

 

Theoretical Framework connecting teacher professional development to the cultivation of creative agency for teaching and teacher wellbeing

Gan ddefnyddio’r fframwaith yn Ffigur 1, damcaniaeth y tîm ymchwil oedd y gallai math penodol o ddysgu proffesiynol arwain at fwy o effaith greadigol ar gyfer addysgu gan arwain at fwy o lawenydd, effaith gadarnhaol a gwytnwch, ac y gallai hyn, yn ei dro helpu i wrthbwyso effeithiau straen.

Roedd ffocws y cwestiynau ymchwil oedd wrth wraidd yr astudiaeth ar straen cyfnod COVID yn benodol. Ond gellir eu gwneud yn llai penodol i COVID, roedden nhw’n cynnwys:

  • I ba raddau newidiodd meddylfryd creadigol, hunan-effeithiolrwydd, empathi a phryder athrawon cyn ac ar ôl y profiad DP?
  • Sut mae athrawon yn disgrifio effaith y profiad DP wrth eu paratoi i ddelio â straen?
  • Sut mae athrawon yn disgrifio eu cryfderau creadigol fel athrawon?

Yn yr astudiaeth, cymerodd athrawon ran mewn tua 18 awr o DP ar lein oedd yn cynnwys pecynnau hyfforddi rhyngweithiol oedd yn cynnwys fideo, sioeau sleidiau â lleisio disgrifiadol, tudalennau rhyngweithiol, ymarferion creadigol, prosesau myfyrgar, ac aseiniadau creadigol cryno. Dyluniwyd y cwrs i gynorthwyo athrawon â modelau meddwl, iaith, esiamplau, ac arferion defnyddiol i archwilio’r broses greadigol wrth addysgu a dysgu. Er enghraifft, archwiliodd athrawon eu hadnoddau creadigol personol eu hunain - fel agweddau creadigol, meddwl creadigol, ac ymddygiad creadigol, gan ymateb i’r cwestiwn - Sut ydw i’n greadigol? Fe gymeron nhw ran mewn arolwg cyn ac ar ôl eu DP i ddeall yr agweddau oedd ganddynt cyn yr ymyrraeth, a chanfod a oedd  unrhyw newid wedyn.

I bob pwrpas, roedd y canlyniadau drwyddi draw yn cefnogi’r rhagdybiaethau sydd wrth wraidd y fframwaith damcaniaethol oedd yn cysylltu llai o straen a gwell llesiant â mwy o effaith greadigol o ganlyniad i’r DP. Ni chanfuwyd unrhyw newid rhwng cyn ac ar ôl yr arolwg o ran effaith gadarnhaol neu negyddol gyffredinol a phryder creadigol. Canfuwyd newid ym mhob agwedd arall ar effaith greadigol a llesiant. Ymatebodd 51 o’r 53 athro â sylwadau cadarnhaol ynghylch sut roedd y profiad PD wedi cyfoethogi eu capasiti i reoli sialensiau’r pandemig.

Roedd y canfyddiadau mwy penodol yn cynnwys:

  • Nodwyd bod dysgu o gamgymeriadau a bod yn “agored i drio pethau newydd” yn ffordd o fentro a thyfu, sy’n sylfaen ar gyfer creadigrwydd athrawon.
  • Roedd meithrin cysylltiadau cadarnach â myfyrwyr yn hanfodol hefyd, gyda llawer o athrawon yn dweud bod y cyfuniad o drawsnewid eu cwricwlwm a meithrin gwell perthnasau â myfyrwyr wedi ail-fywiocau eu harferion addysgu.
  • Pwysleisiodd gwahanol athrawon wahanol fuddion; roedd rhai yn canolbwyntio ar eu datblygiad creadigol eu hunain, ac eraill yn myfyrio ar lai o straen a mwy o fwynhad, neu ar fuddion dysgu creadigol i’w myfyrwyr.
  • Mewn ymateb i’r cwestiwn “Beth ydych chi’n credu yw’ch cryfderau creadigol mwyaf fel athro?” trafododd athrawon nifer o bynciau fel eu hunan-effeithiolrwydd creadigol eu hunain, eu meddylfryd o dwf creadigol, gwerth creadigrwydd, creu amgylchedd i gynorthwyo creadigrwydd, a defnyddio empathi’n ymarferol gydag eraill.

Roedd y canlyniadau cyffredinol yn dangos bod profiad DP ar lein yn gallu cynorthwyo datblygiad effaith greadigol athrawon yn y dosbarth, oedd yn ategu canfyddiadau astudiaeth gynharach a gyflawnwyd cyn y pandemig.

Cyd-fyfyrio

1. A yw’r rhagdybiaethau yn y fframwaith damcaniaethol, Ffigur 1 - bod DP wedi ei wreiddio mewn creadigrwydd yn gallu gwella effaith greadigol athrawon a gwella eu llesiant - yn taro tant gyda chi?

2. Sut fyddech chi’n ateb y cwestiwn “Beth ydych chi’n credu yw’ch cryfderau creadigol mwyaf fel athro?

3. Ar ôl darllen yr erthygl yn ei chyfanrwydd, pa agweddau ar DP ydych chi’n credu sydd wedi bod bwysicaf wrth feithrin llesiant athrawon?

4. Beth yw’r DP addysgu neu arwain ar gyfer creadigrwydd gorau i chi ei gael? Beth oeddech chi’n ei hoffi amdano’n benodol? Pa effaith gafodd hyn arnoch chi?

PDF

Ail-fywiocau’r awydd i addysgu: Datblygiad proffesiynol i athrawon am greadigrwydd, effaith, lleihau straen a llesiant

Tanysgrifiwch nawr i ddatgloi dirnadaeth ac ysbrydoliaeth newydd.

Cofrestrwch i gael ein newyddlenni misol ac i fod gyda’r cyntaf i glywed am y gwaith ymchwil, digwyddiadau ac erthyglau diweddaraf i’ch cynorthwyo chi i arwain ar gyfer dysgu creadigol.

* gwybodaeth hanfodol