Datblygiad naturiol - Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol ym Mhacistan
Hwyluso Datblygiad Arweinyddiaeth Greadigol
Dee Keane Arweinydd Prosiect a Hwylusydd CCE, Di Fisher-Naylor Cydymaith a Hwylusydd CCE.
Mae partneriaeth degawd o hyd CCE gyda Sefydliad CARE ac Alif Laila ym Mhacistan wedi adeiladu rhwydwaith cryf o arweinwyr ysgolion creadigol. Yn 2024, aeth y gwaith hwn i mewn i gyfnod newydd, gan ganolbwyntio ar arweinyddiaeth fel sbardun newid parhaol trwy Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol a chyfieithiad Wrdw o'r Llyfr Chwarae Arweinyddiaeth, gan gefnogi cymuned fyd-eang sy'n tyfu.
Crynodeb
Ers dros ddegawd, mae CCE wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth agos â Sefydliad CARE a Chymdeithas Bws Llyfrau Alif Laila ym Mhacistan i ddatblygu a chyflawni rhaglenni dysgu creadigol pwrpasol a’r datblygiad proffesiynol cysylltiedig ar gyfer addysgwyr. Mae’r cydweithio hirsefydlog yma wedi meithrin rhwydwaith cadarn o arweinwyr lleol, sydd bellach yn addasu ac yn sefydlu arferion creadigol annibynnol i feithrin creadigrwydd a hyder plant a phobl ifanc a’r athrawon sy’n gweithio gyda nhw.
Gyda chreadigrwydd yn bwrw gwreiddiau cadarn yng ngwaith y ddau bartner, symudodd rôl CCE i fod yn gyfaill cefnogol a chwilfrydig sy’n rhannu dirnadaeth a dysg o’n rhwydwaith rhyngwladol ehangach. Yn 2024, cyrhaeddodd y bartneriaeth hon gam newydd cyffrous yn naturiol trwy sefydlu cyd-ddealltwriaeth fod trawsnewid parhaus yn dibynnu ar ddatblygu arweinwyr – a bod newid go iawn a pharhaus yn digwydd pan fo gan yr arweinwyr hynny’r hyder, yr ymroddiad a’r sgiliau i dynnu pobl eraill ar y siwrnai gyda nhw. Trwy waith CCE i ddatblygu Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol fe gyd-ddatblygon ni raglen dysgu proffesiynol, a chynorthwywyd gan y cyfieithiad Wrdw o Meddwl Creadigol mewn Ysgolion - Chwaraelyfr i Arweinwyr, ac rydyn ni’n parhau i ddatblygu cysylltiadau a darparu adnoddau, tystiolaeth, ysbrydoliaeth a dirnadaeth trwy gymuned fyd-eang a gwefan LfCT, sy’n gam pwysig arall tuag at feithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr creadigol.
Mae’r stori yma’n rhannu proses CCE, y profiadau cynnar, a phwysigrwydd datblygu arweinwyr creadigol wrth sefydlu creadigrwydd, gan wahodd eraill i ymuno ar siwrnai debyg i gysylltu a thyfu.
Y Cyfnod Datblygu
Ar ôl cyfod penodol o gyfarfod, cydweithio, meddwl, cynllunio, drafftio, myfyrio, goresgyn ansicrwydd ac ymchwilio, o’r diwedd, daeth rhaglen deuddydd, wyneb yn wyneb Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol (LfCT) i fodolaeth. Er bod ei sylfeini yn y Chwaraelyfr Arweinyddiaeth, aethom ni ati’n fwriadol i gyflwyno gweithgareddau newydd er mwyn ehangu pecyn cymorth y cyfranogwyr. Er bod gennym obeithion helaeth, un o’r gwersi mwyaf gwerthfawr a ddysgwyd o’r cyfnod hwn oedd pwysigrwydd cyfarfod â’r cyfranogwyr ble roedden nhw. Roedd angen i ni fod yn ddisgybledig o ran ein dyluniad – gan glustnodi amser i gysylltu, hyrwyddo bod yn chwareus, a sefydlu “hwyl galed” trwy amryw o brofiadau creadigol a fyddai’n archwilio rhai o themâu allweddol LfCT (ond nid pob un o bell ffordd!)
Fel hwyluswyr, fe wnaethom ni ddewis ymwybodol i fodelu ein harweinyddiaeth greadigol ein hunain hefyd – gan ymgorffori gweithgareddau twymo a rhai oedd yn newydd i ni hyd yn oed, a chan gofleidio breguster a mentro ochr yn ochr â’r grŵp. Erbyn diwedd y cyfnod cychwynnol yma, roeddem ni’n teimlo ein bod ni wedi creu naratif clir – llinyn euraid a fyddai’n rhedeg trwy’r ddau ddiwrnod ac a fyddai’n creu’r amodau er mwyn i arweinyddiaeth greadigol lewyrchu trwy hwyluso profiad lle byddai’r cyfranogwyr:
- o’r naill sefydliad partner a’r llall yn cael yr amser a’r lle i ddod i’w hadnabod ei gilydd fel sylfaen ar gyfer meithrin cymuned dysgu proffesiynol parhaus (PLC)
- yn gallu archwilio a chytuno ar yr amodau oedd eu hangen i gynorthwyo dysgu llwyddiannus
- yn gallu bod yn chwareus, yn fyfyrgar ac yn gydweithredol
- yn archwilio eu creadigrwydd eu hunain, eu profiadau a’u syniadau, eu cryfderau fel arweinwyr a’u hanghenion datblygu
- yn archwilio’n greadigol y cysyniad o arwain ar gyfer creadigrwydd gan dynnu ar ddysg a phrofiadau CCE a’i bartneriaid
- yn cael eu herio i arwain dysg cyfranogwyr eraill trwy ddatblygu a hwyluso gweithgareddau dysgu creadigol
- yn cael eu gofyn i ymrwymo i arbrofi, mentro, rhannu a dysgu gan gyda’n gilydd fel PLC.
Cartref oddi Cartref
Ym mis Rhagfyr 2024, fe deithion ni i Lahore i gyd-hwyluso’r rhaglen Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol ochr yn ochr â Muhammad Umair o Sefydliad CARE ac Amna Hassan Kazmi o Alif Laila.
Cyn y pandemig, roedd CCE wedi bod yn bresenoldeb rheolaidd ym Mhacistan, ond dyma oedd ein hymweliad cyntaf ers bron i bum mlynedd. Er bod yna ychydig o nerfusrwydd wrth gyrraedd, trodd hyn yn gyffro cyn pen dim wrth i ni dreulio diwrnod cyfan yn paratoi – yn sefydlu ein “cartref oddi cartref” yn ystafelloedd cynadledda Sefydliad CARE ac yn ymgyfarwyddo â’r tîm hwyluso cyn dechrau’r rhaglen deuddydd a chyrhaeddiad y 25 arweinydd.
Mae ein gwaith rhyngwladol wedi ein dysgu ni pa mor werthfawr yw cyfieithwyr â dealltwriaeth ddofn am ddysgu creadigol. Yn y rhaglen hon, cafodd cyfarwyddiadau’r holl weithgareddau eu cyfieithu’n ystyriol i Wrdw gan Umair ac Amna, ynghyd â myfyrdodau, cwestiynau ac ymatebion y cyfranogwyr trwy gydol y sesiynau. Bu’r dull gofalus a bwriadol yma o weithredu’n hanfodol - nid yn unig yn nhermau helpu’r tîm hwyluso i gael dirnadaeth ddyfnach am syniadau, profiadau, pryderon ac anghenion dysgu’r cyfranogwyr, ond hefyd wrth sicrhau bod pob llais wir yn cael eu clywed a’u deall.
A dyna ni’n dechrau…
Diwrnod 1
Fe ddechreuon ni Ddiwrnod 1 gyda chroeso byr gan y tîm. Yn awyddus i gael pawb yn symud, fe symudon ni’n gyflym i sesiwn twymo chwareus i ddod i nabod ein gilydd. Gweithiodd pawb mewn nifer o wahanol grwpiau bychain gan rannu pethau oedd yn gyffredin rhyngddynt, cryfder arwain a sialens allweddol wrth arwain ar gyfer creadigrwydd. Fel grŵp cyfan, fe gyflwynon nhw ei gilydd gan rannu beth roedden nhw wedi ei ddysgu am eu cydweithwyr, ac roedd hi’n amlwg bod rhai eisoes yn agored ac yn rhannu eu sialensiau a’u gwendidau personol. Cafodd ein nerfusrwydd am barodrwydd y cyfranogwyr i wneud hyn ac i fod yn chwareus ei leddfu wrth iddynt gymryd rhan â gonestrwydd ac egni, ac ar adegau roedd y lle’n llawn chwerthin braf. Roedd hyn yn eu hatgoffa am bwysigrwydd cymryd amser i ddod i nabod pobl, hyd yn oed y rhai rydyn ni’n cydweithio â nhw’n rheolaidd.
Aeth y cyfranogwyr ati wedyn i archwilio eu safbwyntiau personol am yr amodau sy’n angenrheidiol i greu cymuned dysgu proffesiynol effeithiol. Creodd y gweithgaredd yma le i’r grŵp gytuno, gyda’i gilydd, beth y dylid ei flaenoriaethu - a beth i’w osgoi - dros gwrs y ddau ddiwrnod. Fe nodon nhw hefyd beth roedd ei angen arnynt gan y tîm hwyluso er mwyn cynorthwyo eu dysg gymaint â phosibl. Daeth y rhestrau a ddeilliodd o hyn yn faen prawf gwerthfawr yn ystod y rhaglen, gan helpu i fynd i’r afael â’r materion a gododd, fel rhannu arweinyddiaeth yn ystod gweithgareddau a gwrando’n weithredol ar ein gilydd. Yr un pryd, fe ganiataon nhw’r hwyluswyr i dynnu sylw at esiamplau o gryfderau o ran arweinyddiaeth - fel gwahodd eraill i gyfrannu, dangos dewrder a mentro. Roedd y gweithgaredd yma’n sicr werth yr amser a roddwyd iddo, a dywedodd y cyfranogwyr y byddai’n hawdd addasu hyn ar gyfer eu cymunedau dysgu eu hunain.
Ar Ddiwrnod 1, roeddem ni’n credu ei bod hi’n bwysig archwilio safbwyntiau’r cyfranogwyr eu hunain am bwrpas ysgol (nodyn: un o weithgareddau’r Chwaraelyfr yw hwn). Diddorol oedd gweld blaenoriaethau allweddol y sefydliadau partner, fel gwella cyfleoedd bywyd plant a’r arferion creadigol yn codi fel dibenion a gwerthoedd oedd yn bwysig iddyn nhw fel arweinwyr.
Mae rhannu dirnadaeth a phrofiadau arweinwyr creadigol eraill yn allweddol i’n harferion yn CCE. Rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i gydweithio â Lisa Hall, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gynradd Cragside yn Newcastle upon Tyne, trwy ein partneriaeth â Chydweithfa Creadigrwydd Gogledd-ddwyrain Lloegr dros y tair blynedd diwethaf. Ymunodd Lisa â’r sesiwn yn ddigidol i rannu ei phrofiadau o sefydlu meddwl creadigol ym mhob agwedd ar fywyd ysgol. Roedd ei phwyslais ar ddatblygu iaith gyffredin, gwneud creadigrwydd yn weladwy (gweler y sleid isod), a strategaethau cyfathrebu effeithiol yn taro tant gyda’r grŵp. Roedd y cwestiynau a’r sylwadau ystyriol a ddilynodd yn adlewyrchu sut roedd ei chyfraniad yn ategu hyder y cyfranogwyr yn eu capasiti eu hunain i arwain newid cadarnhaol. Parhaodd y cyfoeth y syniadau a rannodd Lisa i fod yn ffocws cadarn yn ein sgyrsiau myfyrgar pellach, ac roeddent o gymorth hefyd wrth ddatgelu ambell i faes allweddol roedd angen i’r tîm hwyluso fynd i’r afael â nhw - naill ai ar Ddiwrnod 2 neu yn rhan o waith y cyfranogwyr fel cymuned dysgu proffesiynol yn y dyfodol.
Dulliau o wneud creadigrwydd yn weladwy: Lisa Hall, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Cragside, Newcastle upon Tyne, y DU
Fe symudon ni ymlaen wedyn i “Ffeindio’r Chi Creadigol”, sef gweithgaredd oedd yn annog pawb i fyfyrio ar eu capasiti eu hunain i fod yn greadigol, i sylwi, amlygu, gwerthfawrogi hyn, a chlustnod pa arferion creadigol yr oedd eu hangen i’r cyfranogwyr ganolbwyntio arnynt yn rhan o’u datblygiad eu hunain. Fe wnaethom ni hyn gan wybod bod credu yn eich capasiti eich hun i fod yn greadigol yn allweddol wrth arwain creadigrwydd pobl eraill a’u cynorthwyo i ddatblygu addysgeg greadigol.
Fe barhaon ni â chyfle i archwilio’r gweithredoedd allweddol y mae arweinwyr creadigol yn eu cyflawni (gweler y sleid isod). Mewn grwpiau bychain, creodd y cyfranogwyr ‘ddisgrifiad swydd’ ar gyfer y rôl yma – gan glustnodi’r sgiliau a’r nodweddion ychwanegol y gallai fod eu hangen arnynt, a gwahaniaethu rhwng y rhai oedd yn hanfodol a’r rhai oedd yn ddymunol. Dyluniwyd y gweithgaredd yn ofalus i ddatblygu fesul haen, gan ganiatáu i bawb gyfrannu eu meddyliau a’u syniadau am y sgiliau a’r nodweddion cyn symud ymlaen i hunan-fyfyrdod. Wedyn cyflawnodd y cyfranogwyr hunanasesiad o’u galluoedd cyfredol a’u potensial fel arweinwyr creadigol. Yn olaf, gan weithio mewn parau, trafododd y cyfranogwyr sut i adeiladu ar eu mannau cychwyn unigol, a chlustnodi pa gamau y gallent eu cymryd i feithrin eu nodweddion eu hunain fel arweinwyr a rhai’r bobl y maent yn eu cynorthwyo – a byddem yn dychwelyd at hyn ar Ddiwrnod 2.
10 gweithred allweddol Arweinwyr Creadigol.
Yn ôl yr addewid, daeth diwrnod hir ond cynhyrchiol i ben yn brydlon, gan gloi â myfyrdod byr i grynhoi beth roedd y cyfranogwyr wedi sylwi arni, wedi ei hoffi a beth y byddent yn ei awgrymu ar gyfer Diwrnod 2 ochr yn ochr ag arolwg barn er mwyn codi cwestiynau pwysig, unrhyw bethau nad oedden nhw’n ei ddeall a beth yr hoffent ddysgu rhagor yn ei gylch. Adolygodd y tîm hwyluso’r adborth yma’n fanwl gan ddatgelu bod angen rhywfaint o waith ailgynllunio ar gyfer Diwrnod 2 dros nos er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni.
Diwrnod 2
Dechreuodd Umair ac Amna Ddiwrnod 2 â myfyrdod ar ddysg y diwrnod blaenorol. Rhoddwyd cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad i’r cyfraniadau gwerthfawr a’r cynnydd a wnaed yn ystod Diwrnod 1, a thrafodwyd y cwestiynau oedd yn weddill, gan gynnwys y rhai o gylch dysgu â “sgrin mewn dwy ran” ac addysgeg greadigol allweddol. Fe amlygwyd rhai o’r sialensiau hefyd, oedd yn gofyn i ni edrych eto ar y rhestr o amodau ar gyfer dysgu llwyddiannus roeddem ni wedi eu cyd-greu. Roeddem ni wedi sylwi bod yna dueddiad mewn rhai gweithgareddau grŵp bach i bobl siarad ar draws ei gilydd, i edych ar y cyfranogwyr mwy hyderus ac allblyg i arwain, a’r bobl hyn hefyd oedd y rhai mwyaf brwd i rannu eu meddyliau, eu syniadau a’u cwestiynau yn ystod myfyrdodau grŵp cyfan. I hwyluso cyfranogaeth fwy cytbwys, fe gyflwynon ni strategaethau hwyluso syml ar sail dulliau dysgu trwy ddialog – fel “dim dwylo i fyny” a dewis enwau ar hap. Atgoffwyd pawb fod hwn yn ofod i fod yn ddewr, mentro a rhannu arweinyddiaeth – bod arwain yn gofyn am ymarfer, a rhan o’r arfer hwnnw yw gwahodd eraill i arwain a chaniatáu i bobl ein harwain ni, wrth fwynhau’r broses ar hyd y ffordd.
Wedyn cafodd gweithgaredd twymo egnïol o’r enw “Unrhyw Un Sydd” pawb yn symud, ac fel yr un y bore blaenorol, roedd hyn yn canolbwyntio ar ddysgu rhagor am ein gilydd. Sbardunodd y myfyrdod a ddilynodd syniadau gwych am sut y gellid addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer dysgu proffesiynol a gyda phlant.
Fe symudon ni ymlaen wedyn at sesiwn greiddiol y bore, sef archwilio a datblygu Theori Newid. Roedd y sesiwn yma’n canolbwyntio ar un o 10 Gweithgaredd Arweinwyr Creadigol (Y Broses Newid) i gynorthwyo cyfranogwyr i gynllunio’r newidiadau yr oedden nhw’n gobeithio eu gweld yn eu hysgolion neu eu rhwydweithiau dros y 18 mis nesaf yn ymarferol, ac yn arbennig o gylch datblygu’r Arferion Creadigol. Am taw cysyniad newydd sbon oedd hwn i bawb, ac am ei bod yn gydran hanfodol o uchelgais cyffredinol y rhaglen, fe ganiataon ni fwy o amser o lawer i ganolbwyntio ar hyn. Datgelodd y myfyrdodau cychwynnol rywfaint o ddryswch rhwng nodau ac ymyraethau, felly addaswyd y cyflymdra er mwyn rhoi amser i’r cyfranogwyr fireinio a gwella eu syniadau gwreiddiol. Fe fyfyrion ni ar sut roedd Arferion Creadigol Dyfalbarhad (goddef ansicrwydd) a Disgyblaeth (myfyrio’n feirniadol, mireinio a gwella) yn allweddol yn eu cynnydd o ran y dasg ymestynnol yma.
Yn sgil hyn, fe ganolbwyntion ni ar fagu hyder y cyfranogwyr trwy hwyluso ymarfer oedd yn eu gwahodd i fyfyrio ar beth oedd eisoes yn mynd yn dda yn eu rolau fel darpar-arweinwyr creadigrwydd – a’r rôl roedden nhw’n ei chwarae wrth hwyluso newid cadarnhaol. Roedd hi’n bwysig cydnabod y momentwm roedden nhw wedi ei greu, ac adeiladu arno. Fe edrychon ni eto ar y Theori Newid, y tro yma gyda ffocws ar y strwythurau a’r ymyraethau oedd eisoes wedi ymsefydlu yn eu hysgolion. Cododd pryder cyffredin ynghylch gorlethu athrawon â thasgau ychwanegol, felly symudodd y sgwrs yn naturiol i gyfeiriad integreiddio yn hytrach nac ychwanegu. Un syniad arbennig o gryf a gododd oedd y potensial ar gyfer dysgu proffesiynol yn seiliedig ar ymgorffori Sgrin mewn Dwy Ran (cynnwys y pwnc ochr yn ochr â’r arferion creadigol) i brosesau rhannu gwersi.
Prynhawn y diwrnod olaf oedd yr amser i ‘roi cynnig arni’ - gan weithio mewn grwpiau bychain, gofynnwyd i’r cyfranogwyr ddylunio a hwyluso gweithgaredd dysgu creadigol proffesiynol byr, a phrofi’r gweithgareddau a ddyluniwyd gan eraill. Er mwyn cynorthwyo cynllunio â ffocws, fe gynigion ni fframwaith ysgafn ar gyfer hyn – ar sail ein profiad ein hunain er mwyn sicrhau nad oedd y grwpiau’n treulio gormod o amser yn dewis pwnc.
Wedyn arweiniodd pob grŵp 8 o’u cymheiriaid trwy eu gweithgaredd dysgu creadigol proffesiynol byr. Er bod rhai yn fwy hyderus eu cyflwyniad nac eraill, roedden nhw i gyd yn dangos nodweddion sylweddol a chyson, gan gynnwys grwpiau’n rhannu’r gwaith arwain/hwyluso, defnyddio addysgeg greadigol, dysgu gweithredol a chreu lle i fyfyrio. Daeth y sesiwn i ben gyda myfyrdod mewn grwpiau bach oedd yn gwahodd y cyfranogwyr i gynnig adborth cadarnhaol i’w gilydd a chlustnodi meysydd i adeiladu arnynt fel arweinwyr creadigol.
Nod ein gweithgaredd myfyrio olaf oedd tynnu’r ddysg ynghyd, er mwyn cynorthwyo pawb i glustnodi eu hanghenion eu hunain o ran datblygiad proffesiynol a gwneud addewid personol i barhau i weithredu fel arweinwyr creadigrwydd. Rhannodd pob person eu haddewid â’r grŵp cyfan gan greu ymdeimlad o gyd-ddatgan ac ymrwymo. Daeth y diwrnod i ben â myfyrdod olaf am sut, fel Cymuned Dysgu Proffesiynol (PLC), y gall y grŵp eu cynorthwyo ei gilydd a’u cadw ei gilydd yn atebol - gan bwysleisio gwefan a chymuned fyd-eang LfCT gydag adnoddau, tystiolaeth, digwyddiadau ysbrydoledig a dirnadaethau er mwyn cynnal momentwm, pwrpas a chysylltiad y tu hwnt i’r rhaglen.
A’r gair olaf…gan ein partneriaid ym Mhacistan
Yn CARE, roedden ni’n cydnabod bod angen datblygu ein capasiti o ran arweinyddiaeth er mwyn gyrru newid trawsnewidiol, ac mae rhaglen dysgu proffesiynol LfCT wedi bod yn allweddol wrth ein cynorthwyo ni i gyflawni’r nod yma.
Trwy’r rhaglen, mae ein tîm wedi cael dirnadaeth werthfawr am arferion effeithiol o ran arweinyddiaeth, cynllunio strategol a rhannu problemau mewn ffordd gydweithredol. Rydyn ni wedi cael gwerth sylweddol o’r rhaglen, yn arbennig ym meysydd:
- Gwella hyder a hyfedredd o ran arweinyddiaeth
- Gwella cydweithio a chyfathrebu fel tîm
- Cynyddu’r gallu i ddadansoddi problemau cymhleth a datblygu atebion arloesol
-Cryfhau’r capasiti i yrru newid a thrawsnewid o fewn ein sefydliad
Rydyn ni’n llawn cyffro i barhau i ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth a gafwyd o’r rhaglen LfCT i yrru effaith ystyrlon yn ein gwaith.
Muhammed Umair, Arweinydd Tîm, Rhaglenni Datblygu, Sefydliad CARE
Fe gychwynnon ni raglen dysgu proffesiynol Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol (LfCT) CCE ym Mhacistan am fod gennym ddealltwriaeth ddofn o bwysigrwydd datblygu arweinwyr fel yr allwedd i drawsnewid addysg ac ehangu effaith ein gwaith. O’n cysylltiad â rhwydwaith rhyngwladol CCE, fe welsom ni bŵer trawsnewidiol y ffocws yma ar arweinwyr a sut y gallai hynny ymestyn ein cwmpas a gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu mewn ysgolion ar draws Pacistan â’n llygaid ein hunain.
Fel hwylusydd, rwy’n credu’n gryf fod meithrin arloesi, hyblygrwydd a datrys problemau gan ddefnyddio dulliau dychmygus yn hanfodol i daclu arweinwyr, addysgwyr a myfyrwyr i lewyrchu mewn byd sy’n esblygu’n barhaus. Ers y cychwyn cyntaf, mae’r rhaglen LfCT wedi archwilio profiadau dwfn o ran sut y gall arweinwyr hyrwyddo mentro, cydweithio ac arferion myfyrgar o fewn eu timau. Rydw i wedi gweld effaith y gwaith yma â’m llygaid fy hun – sut y gall mynd i’r afael â bylchau systemig ymbweru arweinwyr ac addysgwyr â’r sgiliau a’r hyder angenrheidiol i archwilio dulliau newydd o addysgu, a rhannu eu canfyddiadau ar draws amryw o gyd-destunau.
Dim ond ar ddechrau ein siwrnai ydyn ni, ond rydyn ni’n llawn cyffro i barhau i ddysgu gyda’n gilydd, gan feithrin cymuned dysgu proffesiynol LfCT gadarn ym Mhacistan, a rhannu ein profiadau’n rhyngwladol.
Amna Hassan Kazmi, Prif Weithredwr, Cymdeithas Bws Llyfrau Alif Laila
Ein dysg
Fel hwyluswyr, rydyn ni’n myfyrio yn ystod ac ar ôl unrhyw raglen dysgu proffesiynol a’r pethau mwyaf pwerus a gododd o’n hamser ym Mhacistan oedd:
- Pwysigrwydd datgelu ein harferion a’n prosesau ein hunain – darparodd democrateiddio beth roeddem ni’n ei wneud fel hwyluswyr, a pham, offer newydd i’r cyfranogwyr fel arweinwyr neu ddysg
- Darparu lle i ddysgu gan arweinwyr creadigrwydd arall sy’n agored i rannu eu siwrnai a’r camau ar hyd y ffordd – bu sesiwn Lisa Hall yn bwerus, yn bryfoclyd ac yn ffocws ar gyfer llawer o fyfyrio a thrafod
- Bodlonrwydd i addasu yn y fan a’r lle er mwyn diwallu anghenion y cyfranogwyr – mynd yn araf bach
- Modelu parodrwydd i fod yn fregus, i fentro ac arbrofi. Fe wnaethom ni hyn ein hunain trwy gynnwys nifer o weithgareddau newydd, ond fe anogon ni rai cyfranogwyr i arwain gweithgareddau a myfyrdodau hefyd (hyn oedd y mwyaf pwerus o bell ffordd!)
- Bod yn eofn wrth ddychwelyd yn aml ar y theorïau/modelau allweddol, yn arbennig yn ystod myfyrdodau, gan amlygu/sylwi a gwerthuso ymhle roedd yr Arferion Creadigol a’r 10 Gweithred Allweddol i Arweinwyr Creadigol yn cael eu hymarfer gan y cyfranogwyr
- Bod yn glir am y camau nesaf: yn yr achos hwn, mae hi’n bwysig ein bod ni fel PLC yn archwilio’n ddyfnach sut i roi meddylfryd y sgrin mewn dwy ran ar waith, a sut y gallwn ni fel arweinwyr gynorthwyo athrawon i ddatblygu amrywiaeth o ddulliau creadigol o weithredu o ran addysgeg.
Cyd-fyfyrio
- Beth oedd y prif bethau sylwch chi am hwyluso’r rhaglen Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yma?
- Wrth gynllunio diwrnod neu weithdy dysgu proffesiynol, beth yw’ch mannau cychwyn?
- Sut mae’r stori yma wedi dylanwadu ar eich meddylfryd, a pha ddirnadaeth ydych chi’n ei chymryd ohoni?
- Pa syniadau fyddech chi’n awyddus i fynd ar eu trywydd – ar eich pen eich hun neu gydag eraill?
Os hoffech chi gael ein cymorth i ddatblygu arweinwyr meddwl creadigol yn eich ysgolion, neu ein cyngor a’n harweiniad ar ddylunio eich rhaglen dysgu proffesiynol eich hun, cysylltwch â ni yn hello@cceengland.org