Dysgu proffesiynol i arweinwyr

“Mae mwy a mwy o dystiolaeth ryngwladol am bwysigrwydd meddwl creadigol wedi arwain at sefyllfa lle nad a ddylid canolbwyntio ar feddwl creadigol yw’r her i arweinwyr ysgol, ond sut.” 

- Yr Athro Bill Lucas

collage illustration of hands and paper objects

Ydych chi’n edrych ar sut i ddatblygu meddwl creadigol ym mhob agwedd ar fywyd eich ysgol?

Byddwn ni’n helpu arweinwyr sy’n gweithio yn y byd addysg i ddatblygu a meithrin meddwl creadigol a gyrru newid ystyrlon. Trwy ddatblygu diwylliannau, strwythurau ac arferion, rydyn ni wedi ymrwymo i greu amodau lle gall pob dysgwr, ysgol ac arweinydd systemau ddatblygu eu capasiti creadigol, a chael y lle a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i lewyrchu.

Dylunnir ein rhaglenni dysgu proffesiynol i ddatblygu’r wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau angenrheidiol i roi newidiadau ystyrlon a helaeth ar waith yn eich ysgol, gyda ffocws ar feysydd allweddol sy’n cynnwys:

Arwain Newid: Deall a llywio’r broses o newid.
Datblygu Arweinwyr: Modelu dull creadigol o arwain ac ymbweru eich tîm arwain i lywio creadigrwydd a meddwl creadigol.
Trawsnewid Diwylliant: Meithrin diwylliant sy’n gwerthfawrogi ac yn cynnal creadigrwydd a meddwl creadigol.
Ailfeddwl Strwythurau: Addasu systemau a phrosesau i sefydlu creadigrwydd a meddwl creadigol.
Datblygu Cwricwlwm Creadigol: Dylunio cwricwlwm sy’n ysbrydoli meddwl creadigol.
Ailfeddwl Addysgeg: Rhoi dulliau o addysgu ar waith sy’n meithrin creadigrwydd a meddwl creadigol, gan ddefnyddio arferion sy’n cael eu llywio gan dystiolaeth.
Tracio Cynnydd: Mesur a monitro twf creadigrwydd a meddwl creadigol.
Sicrhau Dysgu Proffesiynol: Darparu cyfleoedd parhaus ar gyfer datblygiad proffesiynol a chreu sefydliad dysgu lle mae pawb yn llewyrchu.
Cydweithio â Phartneriaid: Meithrin perthnasau sy’n fuddiol i bawb gyda sefydliadau allanol, a datblygu rhwydweithiau allanol o ysgolion.
Myfyrio ar Ddeilliannau: Gwerthuso effaith eich dysgu.

Rydyn ni wrthi’n dylunio rhaglen dysgu broffesiynol ar gyfer arweinwyr ysgolion ac athrawon yn y DU sydd eisoes wedi dechrau sefydlu meddwl creadigol yn eu lleoliadau. Nod y rhaglen hon, a fydd yn rhedeg rhwng Ionawr - Rhagfyr 2025, yw darparu’r cymorth a’r arweiniad sydd ei angen arnoch i ehangu cwmpas a dyfnhau’r effaith ar draws eich ysgol neu’ch ymddiriedolaeth. Os oes diddordeb gennych chi ymuno yn y cynllun peilot, cysylltwch ag andrea.mercer@cceengland.org am fanylion y rhaglen, y broses gofrestru a’r gost.

Gadewch i ni archwilio sut y gall ‘arwain ar gyfer meddwl creadigol’ drawsnewid eich ysgol a helpu eich athrawon, plant a phobl ifanc i lewyrchu!

Mae ein tîm ar gael hefyd i gynorthwyo eich anghenion, waeth ymhle’r ydych chi ar eich siwrnai meddwl creadigol - boed hynny trwy hyfforddiant fesul un, dylunio a hwyluso dysgu proffesiynol pwrpasol, neu ymgynghoraeth. Cysylltwch os ydych chi am i ni eich helpu chi, eich ysgol neu’ch Ymddiriedolaeth: andrea.mercer@cceengland.org

Tanysgrifiwch nawr i ddatgloi dirnadaeth ac ysbrydoliaeth newydd.

Cofrestrwch i gael ein newyddlenni misol ac i fod gyda’r cyntaf i glywed am y gwaith ymchwil, digwyddiadau ac erthyglau diweddaraf i’ch cynorthwyo chi i arwain ar gyfer dysgu creadigol.

* gwybodaeth hanfodol