Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol: digwyddiad cymunedol #11

Arwain â greddf gyda Jessica Pryce-Jones

Lleoliad:

Online

Dyddiad:

Dydd Llun, 19 Mai 2025 19:00 - 20:00 BST

Hyd:

1 awr

Photo of Jessica and event details

Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol: digwyddiad cymunedol #11 

Arwain â greddf 
Sut mae greddf yn llywio ein harweinyddiaeth greadigol? 

Sut mae greddf yn llywio ein harweinyddiaeth greadigol? Yn rhan o’r Arfer Greadigol o Fod yn Ddychmygus, mae greddf yn chwarae rhan bwerus yn ein dulliau o wneud penderfyniadau, sbarduno syniadau, ac arwain â hyder. Ymunwch â Jessica Pryce-Jones, hyfforddwraig weithredol, hwylusydd, siaradwraig ac awdur Intuition at Work: Using Your Gut Feelings to get Ahead yn ein digwyddiad cymunedol nesaf.  Bydd Jessica’n archwilio grym greddf, sut rydyn ni ei phrofi yn ein harferion, a sut y gallwn ei ffrwyno yn rhan o’n siwrnai arweinyddiaeth greadigol. 

Byddwch yn barod i ddefnyddio’ch greddf yn rhan o’r sesiwn ryngweithiol yma a fydd yn cynnig dirnadaeth werthfawr, trafodaethau difyr a’r cyfle i ddwysáu eich hunanymwybyddiaeth trwy arferion greddfol.

Mae’r sesiwn yma’n rhan o gyfres o ddigwyddiadau misol, sydd â’r nod o feithrin cymuned gefnogol o addysgwyr arloesol â ffocws ar weithredu sy‘n Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol.

Tanysgrifiwch nawr i ddatgloi dirnadaeth ac ysbrydoliaeth newydd.

Cofrestrwch i gael ein newyddlenni misol ac i fod gyda’r cyntaf i glywed am y gwaith ymchwil, digwyddiadau ac erthyglau diweddaraf i’ch cynorthwyo chi i arwain ar gyfer dysgu creadigol.

* gwybodaeth hanfodol