Arwain ar gyfer Creadigrwydd: I ysbrydoli addysgu a dysgu ar gyfer creadigrwydd ar draws y cwricwlwm

Mae Sarah Childs, Arweinydd ac Ymarferydd Arweiniol Cydweithfa Creadigrwydd Penryn (PCC), yn myfyrio ar siwrnai arweinyddiaeth Coleg Penryn dros y tair blynedd diwethaf. 

@schildsmusic

Y darlun mawr

O’r cychwyn cyntaf, ein huchelgais yng Ngholeg Penryn oedd ysbrydoli Addysgu a Dysgu ar gyfer cwricwlwm y dyfodol, gan sicrhau bod dysgu ar gyfer creadigrwydd yn cael ei feithrin ar draws yr ysgol gyfan

Roedden ni’n gwybod bod hyn yn golygu:

  • Y byddai angen i arweinwyr ac athrawon hybu newid ar gyfer addysgu creadigrwydd a’i rhoi ar waith.
  • Cynyddu cymhwysedd staff o ran dysgu ar gyfer creadigrwydd.

I gynorthwyo hyn, roeddem ni’n gwybod bod angen i ni:

  • Ddatblygu model i ddatblygu addysgeg ar draws yr ysgol 
  • Creu fframwaith sy’n nodi sut i baratoi pobl ifanc ar gyfer gweithlu sy’n newid
  • Datblygu model ar gyfer datblygu sgiliau creadigol ar draws cwricwlwm yr ysgol.

Beth ddysgon ni ym Mlwyddyn 1 wrth baratoi ar gyfer arwain newid

Ym Mlwyddyn 1, ein nod oedd ‘Cwestiynu, Herio ac Archwilio’, gan gymryd yr amser i adolygu’r deunyddiau a’r arferion cyfredol. Fe ddysgon ni’n gyflym ei bod hi’n anodd diffinio creadigrwydd mewn ysgolion. Clywsom gan athrawon a myfyrwyr fod creadigrwydd yn gysylltiedig â’r celfyddydau’n aml, a’u bod nhw’n teimlo bod angen gwybodaeth a sgiliau pynciol cadarn er mwyn i feddwl creadigol ddigwydd. Awgrymodd arweinwyr hefyd fod angen esiamplau o ddysgu ar gyfer creadigrwydd ar draws y cwricwlwm arnom i gynorthwyo newid wrth edrych tua’r dyfodol. 

Er mwyn gweithredu newid o ran dysgu creadigrwydd, roedd angen i ni sefydlu iaith gyffredin. Roedd Model Sgiliau Creadigol Cydweithfa Creadigrwydd Penryn (PCC), a grëwyd gyda Phrifysgol Caerwysg (UoE), yn tynnu ar ddirnadaeth o Gomisiwn Durham, Adroddiad NACCE, theorïau allweddol ar greadigrwydd (Meddwl am Bosibiliadau, Dyneiddio Creadigrwydd yn Ddoeth, Ôl-ddyneiddio Creadigrwydd, y Model Pum Dimensiwn o Greadigrwydd, model Cwricwlwm Awstralia, Fframwaith Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm y DU). Datblygwyd ein hieithwedd ar y cyd ag arweinwyr, athrawon, myfyrwyr a phartneriaid o’r byd diwydiannol a diwylliannol yn lleol er mwyn sicrhau ein bod ni’n cynrychioli ein cyd-destun lleol.

Hexagon with 5 segments depicting creative skills

Ein dull syml o weithredu

Yng Ngholeg Penryn, fe benderfynon ni weithio o fewn strwythurau a systemau ar gyfer addysgu a dysgu sy’n bodoli eisoes ar draws yr ysgol. Archwiliwyd addysgu ar gyfer creadigrwydd fel cyfle i sbarduno a bywiogi arferion dosbarth cyfredol, gan ddefnyddio’r camau rydyn ni eisoes yn eu defnyddio er mwyn gwella’r ysgol. Ein nod oedd ehangu lle addysgu ar gyfer creadigrwydd o fewn diwylliant ein hysgol bob blwyddyn o ran arweinyddiaeth a rheolaeth, ansawdd addysg a datblygiad personol. Cafodd hyn ei gofleidio trwy ein strwythur arweinyddiaeth gyfredol i feithrin addysgu a dysgu sy’n cynnwys; y Tîm Arwain Uwch (TAU), y tîm addysgu a dysgu, Penaethiaid Adran (arweinwyr canol) a’n Rhaglen Hyfforddwyr Addysg.

Ym Mlwyddyn 2, arweiniodd UoE ni trwy fodel Ymchwil i Weithredu i ddatblygu addysgeg a sgiliau creadigol wrth dystiolaethu’r effaith gyda thîm craidd o athrawon dosbarth. Wedyn plethwyd datblygiad addysgu ar gyfer creadigrwydd i holl flaenoriaethau ein hysgol gan ddefnyddio ein hieithwedd gyffredin ar gyfer addysgeg ar draws yr ysgol ynghyd â’n sgiliau creadigol. Pwyswyd ar ein cyfleoedd DPP cyfredol, gan gynnwys hyfforddiant fesul un, sesiynau DPP gyda’r hwyr, diwrnodau HMS, adolygiadau proffesiynol, sesiynau briffio boreol, a bwletinau addysgu a dysgu. Roedd yr arweinwyr, gan gynnwys y Llywodraethwyr, yn chwarae rôl strategol, gan feithrin cyfleoedd i herio a chynnal sgyrsiau oedd yn peri i bobl feddwl. Ac yn olaf, roeddem ni’n llewyrchu o weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cymuned ddysgu ehangach. Trwy weithio ochr yn ochr â phartneriaid lleol o’r byd diwydiant a’r byd diwylliannol, cawsom gyfoeth o wybodaeth, arbenigedd a dyfnder ynghylch ffyrdd o fynd ati i baratoi pobl ifanc ar gyfer gweithlu modern yn well.

Ein dadansoddiad SWOT

Myfyrio ar ein dulliau o weithredu wrth ddatblygu addysgu ar gyfer creadigrwydd - gallai fod yn ddefnyddiol i arweinwyr ysgol eraill ystyried ein hunanwerthusiad.

Y gwersi a ddysgwyd (hyd yn hyn)

Dyma ambell i awgrym ar sail ein siwrnai am ffyrdd o ddatblygu addysgu ar gyfer creadigrwydd ar draws y cwricwlwm a allai fod yn ddefnyddiol i bobl eraill:

  • Adeiladu ieithwedd gyffredin ar gyfer addysgu a dysgu, cadwch bethau’n syml ac o fewn dulliau arferol eich ysgol o weithredu wrth drafod addysgeg. Rhannwch brofiadau a dulliau o weithredu gan ysgolion ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, fel y gall arweinwyr ac athrawon ddelweddu’r cyfleoedd a’r effeithiau posibl wrth roi unrhyw newid ar waith. 
  • Ystyried y potensial i gydweithiwr arwain ar ddatblygu addysgu ar gyfer creadigrwydd, boed hynny’ yn rôl yn yr Uwch Dîm Arwain (UDA), yn rôl ymarferydd arweiniol neu’n arweinydd canol sy’n gweithio o fewn addysgu a dysgu ysgol gyfan.
  • Datblygu model hyfforddi i gynorthwyo cydweithwyr i weithio ar draws yr ysgol gan ddatblygu addysgeg trwy ddialog proffesiynol. Adeiladwch dîm o hyfforddwyr profiadol sy’n dibynnu ar ddulliau o weithredu sy’n cael eu llywio gan waith ymchwil, a defnyddio ymchwil i weithredu er mwyn gweithio gydag athrawon i ddatblygu eu haddysgeg. Am ragor o fanylion, darllenwch ein hadnodd ‘Datblygu Ymchwil i Weithredu’ ym mhecyn PCC Toolkit - Penryn College (penryn-college.cornwall.sch.uk) 

Crickmay, U. Childs, S. Chappell, K (2023)

Preparing for a Creative Future: Year One Report Question, Challenge and Explore.

Preparing for a Creative Future: Year Two Report Build and Test

https://penryn-college.cornwall.sch.uk/creativity-collaboratives/

Cyd-fyfyrio

  • Beth fyddai’ch ieithwedd gyffredin chi o ran arwain ar gyfer creadigrwydd? 
  • Pa gyfleoedd sydd gennych o fewn eich strwythurau cyfredol i ddatblygu addysgu a dysgu?
  • Pa gyfleoedd y gall datblygu addysgu ar gyfer creadigol eu cynnig o ran eich blaenoriaethau dysgu ac addysgu? Pa gyfleoedd sydd gennych yn eich calendr DPP i rannu dulliau dysgu ar gyfer creadigrwydd?
  • Ble a phryd y gallai fod yn ddefnyddiol i chi dynnu ar arbenigedd partneriaid wrth gyflunio’r gwaith yma?