Arwain ar gyfer Creadigrwydd – Nid Boddi ond Chwifio

Naomi Lord yw Cyfarwyddwr Dysgu Creadigol a Phartneriaethau Sefydliad Ysgol Bolton, Manceinion Fwyaf. 

Mae Ysgol Bolton wrthi’n rhoi rhaglen ar waith i sefydlu llwybrau dysgu creadigol yr holl ffordd o Gyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar i’r Chweched Dosbarth, gan integreiddio gweithgareddau cwricwlaidd, gyd-gwricwlaidd a chymunedol er mwyn darparu addysg gynhwysfawr ac eangfrydig.

@_NaomiLord

‘Os ewch ychydig bach y tu hwnt i’ch dyfnder, fel nad yw’ch traed cweit yn cyffwrdd â’r gwaelod mwyach, fyddwch chi yn y lle cywir fwy neu lai i wneud rhywbeth cyffrous.’ — David Bowie

Sut gall arweinwyr addysgol gydbwyso’r angen am enillion cyflym ag ymrwymiad i wireddu newid systemaidd hirdymor sy’n cofleidio creadigrwydd a hyblygrwydd?

 

Nid Gollwng Craig i Bwll yw’r Ateb

Mae gafael dysgwyr yn esblygu wrth ddefnyddio meddwl beirniadol, sgiliau ymarferol, gan gynnwys medrau digidol, a meddylfryd addasol wrth fynd i’r afael â sialensiau cyfoes, sy’n cael crynhoi fel cymwyseddau creadigol.

Fodd bynnag, nid taflu band achub addysgeg dan label ‘creadigrwydd’ i’r pwll busnes-fel-arfer yw’r ateb. Rhaid i ni gydnabod bod siâp y dyfroedd addysgol yn newid, a bod angen i ddulliau gweithredu o ran dysgu proffesiynol, rheoli dysgu, dulliau o asesu, a pherthnasau ysgolion newid hefyd.

Mae hi’n hanfodol aros, cydnabod cyfyngiadau a dyfroedd bas y pwll cyfredol, camu allan o’r pwll, wedyn archwilio sut y gallwn gychwyn rhywbeth mwy gyda’n gilydd gyda hyder a phwrpas cyffredin.

Sut gallwn greu proses o newid addysgol uchelgeisiol gyda’n gilydd?

  • Trwy anadlu bywyd newydd i bwrpas addysg.
  • Creu lle i gydweithwyr a dysgwyr feithrin syniadau, darganfod a dylunio.
  • Newid o reoli cwricwla o’r top i lawr i ddylunio a siwrneiau dysgu cydweithredol ar gyfer cydweithwyr a myfyrwyr.
  • Defnyddio prosesau aml-ddull o gymhwyso a thystiolaethu sgiliau. Gallwch liniaru dulliau traddodiadol o ddysgu ac arloeseddau newydd trwy wneud hyn.
  • Cyfuno dysgu yn y dosbarth â chyfleoedd dinesig. Mae perthnasau ysgolion â’u milltir sgwâr yn cynnig y cyfle i hybu hunan-effeithiolrwydd trwy ddinasyddiaeth weithredol.

 

Gweledigaeth: Siâp y Dŵr 

Mae camu allan o’r pwll yn hanfodol, ac felly hefyd mae cofio sut brofiad oedd dysgu sut i nofio am y tro cyntaf. Sut gallwn ni ddysgu i nofio mewn dyfroedd dyfnach eto, a pham ydyn ni’n bwrw allan tuag atyn nhw?

1. Diffinio ac Ailddiffinio’r Pwrpas - Beth yw pwrpas addysg?

Ambell i gwestiwn pwysig:

  • Beth ydyn ni’n ceisio ei arnofio ar y dŵr? Heb weledigaeth gyffredin am siâp y dŵr, mae mordwyo’n sialens, ac yn gadael y rhai sy’n hwylio gyda ni ar goll.
  • A yw ein dulliau’n blaenoriaethu dilysrwydd neu effeithlonrwydd? Ydyn ni’n gwerthfawrogi perthnasedd dysgu neu ddibynadwyedd canlyniadau profion?
  • Ai ticio’r atebion cywir yw ein ffocws, neu ddatrys problemau o ran y dulliau a ddefnyddiwyd?
  • A yw ein dulliau’n hyblyg ac yn gallu addasu at amgylchiadau newidiol?

Gallwn ddewis y ddau ac ystyried y continwwm o safbwyntiau rhwng y ddau.

Darllenwch beth sydd gan Andreas Schleicher i’w ddweud am siâp asesu yn y dyfodol: https://royalsociety.org/blog/2022/06/envision-andreas-schleicher/

2. Diffinio Creadigrwydd ac Archwilio ei Ddefnydd

  • Sefydlu iaith gyffredin ar gyfer creadigrwydd a chlustnodi’r amodau sy’n meithrin ei dwf.
  • Gosod hyfedredd creadigol yn y blaendir wrth rannu’r sgrin ddysgu, hyrwyddo’r gallu i addasu trwy ddysg benagored sy’n seiliedig ar brosiectau, meithrin meddylfryd dechreuwr, a chofleidio camgymeriadau fel pethau sy’n cyflymu dysgu.
  • Cydnabod bod darganfod a datrys problemau’n beth creiddiol ar draws pob disgyblaeth.
  • Dod o hyd i ganllaw maes i addysgu ac asesu creadigrwydd yma: https://www.researchgate.net/publication/359314332_A_field_guide_to_assessing_creative_thinking_in_schools

 

image of a wavy line

Darparu Hynofedd trwy Ddangos Arweinyddiaeth Fregus

1. Arweinyddiaeth Wybodus

  • Mae ar arweinwyr addysgol ac athrawon angen adfywio eu sgiliau er mwyn llywio o gwmpas ansicrwydd, meddwl yn arloesol, ac ysbrydoli gweledigaeth y tu hwnt i nodau profi safonedig.
  • Ymgyfarwyddwch â’r dyfroedd. Chwaraewch ran mewn rhwydweithiau dysgu proffesiynol er mwyn cynnal cyfrededd o ran pwrpas a gweithred. Ymgynghorwch ag arbenigwyr.
  • Rhaid i arweinwyr ymgorffori brwdfrydedd dros y siwrnai. Gall awch fel dysgwr arweiniol ddod o ddysgu sgiliau newydd, cysylltu a rhoi i eraill, a bod yn gynorthwyydd presennol a gweithredol yn nysg pobl eraill.

2. Arweinyddiaeth Hael, Bregus a Chydweithredol

  • Gadewch i ni roi ein geiriau ar waith. Dim ond os yw arweinwyr ysgolion ac athrawon dosbarth yn mabwysiadu’r arferion creadigol eu hunain wrth ffeindio’u ffordd trwy ddyluniad y cwricwlwm y gall dysgu creadigol ddigwydd. Mae strategaeth ond yn ystyrlon os yw’n cael ei deall a’i chofleidio; fel arall, rhethreg yn unig yw hi.
  • I gyflunio strategaeth, rhaid cysylltu’r drafodaeth â rheng flaen yr ystafell ddosbarth. Crëwch ddialog dylunio gyda’r ystafell ddosbarth er mwyn gweithredu a chywreinio arferion o’r gwaelod i fyny.
  • Archwiliwch ‘Meddwl Creadigol mewn Ysgolion: Chwarelyfr i Arweinwyr’: https://leadingforcreativethinking.org/buy-playbook

Er mwyn sicrhau newid trawsnewidiol o’r model dysgu confensiynol, mae hi’n hanfodol cyd-ddylunio prosesau dysgu mewn ffordd gydweithredol. Mae’r model yma’n ymgysylltu dysgu proffesiynol sydd wedi ei ddylunio’n dda sy’n ymbweru athrawon i addasu eu harferion yng nghyd-destun unigryw eu lleoliad.

Mae tryloywder o ran profiadau datblygu creadigol arweinwyr – gan rannu trafferthion, y broses o ddyfalbarhau, mwynhad, a chyflawniad – yn eu gwneud nhw’n ddysgwyr parhaus. Mae hyn yn gyson â rôl yr athro fel dysgwr arweiniol yn y dosbarth. Fel athrawon arweiniol, gadewch i ni osod yr un esiampl a darparu’r un anogaeth gefnogol ag y gwnawn ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc.

 

Troi a Wynebu’r Dieithr gyda’n Gilydd

1. Rhannu Theori Newid Gweladwy

  • Pennu’r ‘pam’ yn glir gyda’n gilydd - beth yw ein gweledigaeth gyffredin a’i phwrpas?
  • Ble mae’r meysydd disglair o dalent a brwdfrydedd? Pwy sydd angen cymorth?
  • Beth yw’r camau datblygu yn hyn o beth?
  • Beth yw’r deilliannau disgwyliedig ar gyfer holl aelodau cymuned yr ysgol a pham mae’r rhain yn bwysig?

2. Doethineb yn Hwylio gyda’r Gwynt ac Amser

Sut gallwn ni sefydlu system o ddysgu sy’n addasu wrth i arfer cymunedol lleoliad ddatblygu, wrth i’r dirwedd addysgol droi ac wrth i’r byd newid?

  • Yn ogystal ag anrhydeddu hunaniaeth yr holl randdeiliaid mewn proses addysgol, mae osgoi cwricwlwm o orchymyn a rheoli o’r top i lawr yn creu’r lle sydd ei angen i ddatblygu creadigrwydd hyblyg ar garlam hefyd.
  • Mae Laura Bain o Sefydliad Dylunio Hasso Plattner yn Stanford a Chyd-gyfarwyddwr K12 Lab yn cyflwyno’r matrics yma i blotio enillion cyflym ochr yn ochr â thwf tymor hir.

  • Dyma un esiampl o sut y gallem drefnu datblygiad lleoliad-eang ar gyfer creadigrwydd er mwyn dysgu trwy ddulliau gweithredu sy’n sicrhau enillion cyflym a llwyddiannau graddol: <https://rethinkingassessment.com/rethinking-blogs/rethinking-assessment-a-holistic-creative-thinking-journey-from-ks1-5/>.

3. Cydbwyso Gweithredu a Gweledigaeth

Mae enillion cyflym yn gerrig sarn gwerthfawr mewn arferion dosbarth arbrofol, gan feithrin ymdeimlad cyffredin o newid ymarferol.

  • Mae map ffordd sydd ond cynnwys gweithredoedd pendant mewn perygl o droi’n ddull peintio ar sail rifau.
  • Y rhai sy’n cael y lle i ddatblygu’n greadigol ar y cyd, ac sydd, yn eu tro, yn sbarduno newid cadarnhaol iawn mewn diwylliant sefydliadol sy’n cynhyrchu dysg ar sail risg.

Fel y dywedodd Hilary Cremin yng Nghynhadledd Creadigrwydd mewn Addysg GIoCT ym mis Tachwedd 2023: ‘Allwn ni ddim â gweithio i greu byd gwell nes y gallwn ei ddychmygu. Mae monoddiwylliant, sef gweithio ar sail syniad sefydlog sy’n gwneud y tro ar gyfer pob ateb, yn ein gwneud ni’n sâl.'

Cyd-fyfyrio

  • Sut gallai eich dull o arwain gysoni llwyddiannau yn y fan a’r lle â gweledigaeth ehangach ar gyfer addysg drawsnewidiol a chreadigol yn y tymor hir?
  • Pa gamau y gallwch eu cymryd i ddangos arweinyddiaeth fregus trwy ymgorffori arferion creadigol yn eich rôl fel arweinydd addysgol?
  • Wrth feithrin gweledigaeth gyffredin ar gyfer newid ar sail dyhead sut byddech chi’n cychwyn sgwrs am bwrpas addysg o fewn cymuned eich ysgol?
  • Wrth gyflunio gweledigaeth ar gyfer addysg greadigol, sut gallwch chi gynnwys rhanddeiliaid amrywiol yn ymarferol er mwyn sicrhau safbwynt eang a chynhwysol?