Datblygu arweinyddiaeth ar gyfer meddwl creadigol gan ddefnyddio cymuned dysgu i athrawon

Mae Dr Claire Badger yn Bennaeth Cynorthwyol â chyfrifoldeb dros Addysgu a Dysgu yn Ysgol Godolphin and Latymer, gorllewin Llundain.

@badger_claire

Mae ein myfyrwyr yn perfformio’n eithriadol o dda yn eu harholiadau TGAU, Safon Uwch ac IB ac yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion blaenllaw ar draws y byd.  Fodd bynnag, rydyn ni’n poeni mwyfwy fod y ffocws yma ar arholiadau pwysig yn gallu bod ar draul datblygu sgiliau ehangach, sgiliau fel meddwl creadigol, meddwl dadansoddol, gwytnwch a chwilfrydedd, pethau y mae sefydliadau fel Fforwm Economaidd y Byd wedi eu clustnodi fel nodweddion cynyddol bwysig ar gyfer swyddi’r dyfodol.  

Yn Godolphin and Latymer, rydyn ni’n awyddus i ddatblygu dealltwriaeth sydd â phwyslais ychydig bach yn wahanol o ran sut mae gwyddorau gwybyddol, gwybodaeth a sgiliau’n cydblethu. I’r perwyl hwn, ers Medi 2022, mae ein blaenoriaethau ysgol gyfan wedi troi at ddatblygu gwytnwch a chreadigrwydd myfyrwyr.

Ers sawl blwyddyn bellach, mae ein cymunedau dysgu i athrawon, ein TLCs, wedi bod yn allweddol wrth sefydlu ein blaenoriaethau ysgol gyfan mewn arferion dysgu pob dydd.  Mae’r rhain yn seiliedig ar fodel Wiliam a Leahy ac maent yn cynnwys criw o athrawon gwirfoddol o amrywiaeth o feysydd pwnc a chefndiroedd yn cyfarfod am awr unwaith bob hanner tymor i drafod agwedd benodol ar ymchwil addysgol, a sut y gallai fod yn berthnasol i’n cyd-destun ni.  Ar ddiwedd pob cyfarfod, rhan hanfodol bwysig o’r broses yw bod yr athrawon yn pennu cynllun gweithredu ar gyfer y newid y maent am ei wneud o ran eu harferion, waeth pa mor fach yw’r newid hwnnw, gyda’r disgwyliad y byddan nhw’n bwydo eu canfyddiadau nôl ar ddechrau’r cyfarfod nesaf.  Mae arsylwi cymar wrth gymar yn rhywbeth sy’n cael ei argymell yn gryf hefyd.  Un o’r pethau mwyaf grymus am y TLCs i mi bob tro yw’r diffyg hierarchaeth; rwy’n dysgu ochr yn ochr â fy nghydweithwyr, gan roi cynnig ar syniadau, gofyn i’r athrawon arsylwi ar fy ngwersi a rhoi adborth i mi.   

Yn 2022-23, cadeiriodd cydweithiwr a fi TLC ar y testun ‘Gwybodaeth a Chreadigrwydd’ a ddyluniwyd yn benodol i ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng y ddau faes yma, sy’n cael eu cam-gyfleu fel pethau sy’n hollol groes i’w gilydd weithiau.  Yn ystod ein trafodaethau cychwynnol, daeth hi’n glir fod gan wahanol athrawon gysyniadau gwahanol iawn am beth yw creadigrwydd. Roedd rhai’n meddwl am y peth yn nhermau bod yn fwy creadigol fel athrawon, er enghraifft, meddwl am weithgareddau gwahanol o fewn gwersi a fyddai’n ymgysylltu’r myfyrwyr yn fwy yn eu dysg; eraill yn cysylltu creadigrwydd ag allbwn creadigol; ac roedd eraill yn cysylltu creadigrwydd â meddwl creadigol a datrys problemau. Er mwyn ymchwilio’n ddyfnach i hyn, fe drafodon ni i ba raddau roedd y gwahanol gysyniadau yma am greadigrwydd yn dibynnu ar y pwnc, a sut mae gwybodaeth am y pynciau hyn yn datblygu dros amser. Er enghraifft, mae Gwyddoniaeth a Mathemateg yn fwy hierarchaidd o lawer h.y. mae yna rai cysyniadau sylfaenol y mae angen eu deall cyn y gellir cyflwyno deunyddiau newydd, ond mae’r Celfyddydau a’r Dyniaethau’n fwy cronnol, ac mae union ddilyniant y wybodaeth yn llai pwysig. O ran y cyntaf o’r rhain, roeddem ni’n meddwl fod meddwl beirniadol a datrys problemau’n fwy perthnasol i greadigrwydd, ond o ran olaf, byddai’n fwy priodol ystyried creadigrwydd gwaith y disgyblion. Er nad oedd hyn yn caniatáu i ni ddod i union gonsensws ar ein diffiniad o greadigrwydd, rhoddodd gyfle i ni symud y ffocws oddi ar y gweithgareddau roedd yr athro’n eu cynllunio i effaith y gweithgareddau hynny ar ddysgu’r plant.    

Trobwynt yn ein trafodaethau oedd dod ar draws adolygiad Lucas, Spencer a Stoll ar Arweinyddiaeth greadigol i ddatblygu creadigrwydd a meddwl creadigol mewn ysgolion yn Lloegr.  Tynnodd yr adolygiad hwn ein sylw at y gwahaniaeth rhwng creadigrwydd, meddwl creadigol ac addysgu er mwyn creadigrwydd yn unol â diffiniad adroddiad Comisiwn Durham ar Greadigrwydd 2019:

Creadigrwydd: Y capasiti i ddychmygu, llunio, mynegi neu greu rhywbeth nad oedd yn bodoli o’r blaen. 

Meddwl creadigol: Proses o ddefnyddio gwybodaeth, greddf a sgiliau i ddychmygu, cyfleu neu greu rhywbeth newydd neu unigryw yn ei gyd-destun. Mae meddwl creadigol yn bodoli ym mhob agwedd ar fywyd. Gallai edrych yn ddigymell, ond gallai fod yn seiliedig ar ddyfalbarhad, arbrofi, meddwl creadigol a chydweithio.

Dysgu er mwyn creadigrwydd: Defnyddio addysgeg ac arferion sy’n meithrin creadigrwydd pobl ifanc. 

Cyflwynodd yr adolygiad y grŵp i fodel creadigrwydd 5-dimensiwn Canolfan Ddysgu’r Byd Go Iawn, sy’n rhannu creadigrwydd yn bump arfer meddwl, sef: chwilfrydig, dychmygus, disgybledig, cydweithredol a dyfalbarhaus. Rhoddodd y diffiniadau a’r modelau yma well dealltwriaeth am ystyr creadigrwydd mewn gwahanol gyd-destunau pwnc i’r grŵp, a sut y gallai newidiadau bychain yn ein harferion helpu i feithrin meddwl creadigol ymysg ein myfyrwyr. Roedd hi’n braf gweld sut roedd y pump arfer meddwl a’u his-arferion cyfatebol yn dangos sut roedd creadigrwydd yn gysylltiedig ag agweddau ar addysgeg roeddem wedi bod yn edrych arnynt ers nifer o flynyddoedd. Er enghraifft, pwysigrwydd rhoi a derbyn adborth, myfyrio beirniadol (sy’n rhywbeth y gwelsom ni oedd yn gysylltiedig â’n gwaith ar fetawybyddiaeth) a gwytnwch (oedd yn gysylltiedig â dal ati trwy anhawster a goddef ansicrwydd). Cyn hyn, roedd llawer ohonom ni’n teimlo taw’r unig ffordd o ddatblygu creadigrwydd oedd newid ein harferion addysgu’n llwyr, neu hyd yn oed ail-ysgrifennu’r cwricwlwm. Roedd helpu athrawon i weld eu bod nhw’n gallu datblygu meddwl creadigol trwy adeiladu ar y pethau roeddent eisoes yn ei wneud yn beth pwerus dros ben.  

O ganlyniad, fe benderfynon ni ddefnyddio’r pump arfer meddwl fel sylfaen ar gyfer ein TLC yn 2023-24, gan roi’r enw newydd ‘Datblygu Meddwl Creadigol’ iddo, ac yn ffodus ddigon, yn haf 2023, cyhoeddwyd Dysgu Creadigol mewn Ysgolion: Chwaraelyfr i Ysgolion.  Mae cael fframwaith clir i ddatblygu meddwl creadigol wedi cynyddu fy hyder mewn arwain yn y maes yma, ac rydw i wir wedi gwerthfawrogi cael cronfa o adnoddau o safon uchel i fanteisio arni i’n helpu ni i weld dulliau ymarferol o roi newidiadau ar waith yn ein hystafelloedd dosbarth.

Un o’r pethau cyntaf wnaethom ni oedd ystyried pa arferion meddwl roeddem ni’n teimlo roeddem ni’n eu harddangos fel unigolion, a arweiniodd at ambell i ddirnadaeth ddifyr o ran sut y mae’r arferion meddwl yma’n eu dangos eu hunain mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol rannau o’n bywydau.  Wedyn fe ystyrion ni pa arferion roeddem ni eisoes yn eu hyrwyddo yn ein dosbarthiadau ac y gallem eu hybu ymhellach.  Fel athro gwyddoniaeth, roeddwn i’n teimlo bod fy myfyrwyr yn ddisgybledig ac yn ddyfalbarhaus dros ben fel rheol, ond y gallwn i wneud rhagor i hybu chwilfrydedd. Fe ymrwymon ni i gyd i wneud newidiadau bach yn ein harferion a’n gwahodd ein gilydd i mewn i’n gwersi er mwyn arsylwi ar yr effaith ar y myfyrwyr. Fe ymrwymais i i roi cynnig ar dasg cynllunio 10 munud o hyd gyda fy ngrŵp Blwyddyn 11, ac roedd hi’n hyfryd cael tri chydweithiwr yn yr ystafell i arsylwi ar ymateb y myfyrwyr i’r dasg fwy penagored yma. Fe ffeindion ni i gyd fod arsylwi ar y pump arfer meddwl creadigol yn rhoi ffocws go iawn i ni, ac roedd yna deimlad bod rhannu ein canfyddiadau o’r arsylwadau hyn wedi sbarduno trafodaethau mwy cynhyrchiol o lawer yn ein cyfarfod nesaf.   

Mae llwyddiant ein TLCs wedi dibynnu bob tro ar ddiwylliant ysgol sy’n hwyluso ymreolaeth yr athro ac yn hybu arbrofi a myfyrio. Mae fy mhrofiadau o gynnal TLC ar greadigrwydd wedi profi i mi ei bod hi’n bwysicach byth yn y maes yma, ac fel arweinwyr, mae angen i ni ystyried i ba raddau rydyn ni’n modelu’r pump arfer meddwl creadigol ein hunain.  Wedi’r cyfan, ni allwn ddisgwyl datblygu arferion meddwl creadigol ein myfyrwyr oni bai ein bod ni’n hyrwyddo nodweddion tebyg ymysg ein hathrawon.  Byddai’n demtasiwn hefyd ychwanegu diffiniad pellach at y rhai a argymhellwyd gan Gomisiwn Creadigrwydd Durham, sef:

Arweinyddiaeth ar gyfer creadigrwydd  Darparu diwylliant ysgol sy’n dathlu pob agwedd ar greadigrwydd ac yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu eu creadigrwydd eu hunain.

Cyd-fyfyrio 

  • Pa gamganfyddiadau fyddech chi’n meddwl sydd gan athrawon a myfyrwyr am greadigrwydd yn eich ysgol?

  • Beth yw manteision ac anfanteision bod â grŵp cymysg o athrawon pwnc yn edrych ar greadigrwydd?

  • Sut gellid defnyddio model y gymuned dysgu i athrawon i ddatblygu arferion addysgeg o fewn eich lleoliad?

  • A yw ein diffiniad o arweinyddiaeth ar gyfer creadigrwydd yn gyson â’ch profiadau chi?