Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol: digwyddiad cymunedol #12
Sylfeini Rhyfeddod: Meithrin Creadigrwydd yn y Blynyddoedd Cynnar

Sylfeini Rhyfeddod: Meithrin Creadigrwydd yn y Blynyddoedd Cynnar
Ymunwch â ni am ddigwyddiad cymunedol ysbrydoledig a difyr ar gyfer arweinwyr addysg sydd wedi ymrwymo i arwain newid o’r blynyddoedd cynharaf trwy greadigrwydd a meddwl creadigol.
Rydyn ni’n falch o gael croesawu rhai o leisiau mwyaf blaenllaw’r byd addysg plentyndod cynnar ar gyfer y sesiwn rhyngweithiol yma:
- Amie Fabry, Cyfarwyddwr Plentyndod Cynnar yn The Learning Future
- Dr Karen Wickett, Darlithydd Astudiaethau Plentyndod Cynnar ym Mhrifysgol Plymouth
- Winsy Bamford-Flores, Cyfarwyddwr Addysg ac Arloesi Byd-eang Rocket Productions
Gyda’n gilydd, byddwn ni’n archwilio sut y gall arweinyddiaeth greadigol gael effaith ar draws holl feysydd dysgu a datblygu’r blynyddoedd cynnar. Gallwch ddisgwyl trafodaethau cyfoethog a rhyngweithiol sy’n llawn syniadau ffres, a strategaethau ymarferol i’ch helpu chi i feithrin potensial creadigol pob un plentyn - a phob cydweithiwr hefyd.
Dim ots a ydych am fireinio eich dull o arwain neu chwyldroi dysgu’r blynyddoedd cynnar yn eich lleoliad, mae hi’n sgwrs nad ydych am ei cholli!