Dod at ein gilydd a dechrau siwrnai tuag at weithredu ar y cyd.
Amdani i godi ymwybyddiaeth ar y cyd!’
Y Fonesig Alison Peacock DL, DLitt
Wrth i ni ddynesu at wythnosau olaf 2024, yma yn Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol, rydyn ni’n myfyrio ar y flwyddyn sydd wedi bod ac yn gwneud cynlluniau difyr ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Difyr am i ni ddechrau’r flwyddyn â gweledigaeth o’n gwaith fel platfform, adnodd a chymuned. Ond er gwaethaf holl fanteision a hwylustod cynnal cyfarfodydd ar lein, daeth hi’n amlwg hwyrach nad dyma oedd y lle i feithrin perthnasau dwfn a thrawsnewidiol o reidrwydd. Felly, gyda hynny mewn golwg, fe benderfynon ni gynnal cynulliad wyneb yn wyneb – heb wybod yn iawn beth allai ddod allan ohoni.
Ym mis Hydref, fe wahoddon ni bobl o bob rhan o’r system addysg, gan gynnwys ysgolion, y blynyddoedd cynnar, addysg uwch, y llywodraeth, arweinwyr a chyrff addysgu, i achlysur yn Llundain lle gofynnwyd i bawb ystyried un cwestiwn:
‘Pe bai Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yn fwy na dim ond gwefan – ond yn syniad mawr â’r bwriad o sbarduno newid yn y system a fyddai’n caniatáu i arweinwyr deimlo bod ganddynt gefnogaeth, yn caniatáu i athrawon deimlo llawenydd ac yn caniatáu i blant fabwysiadu eu holl alluoedd meddwl a’u creadigrwydd - sut gallem ni fynd ati i adeiladu hynny gyda’n gilydd?’
Aeth y gwahoddiad â ni a’n gwesteion i bob math o gyfeiriadau, gan gynnwys trafodaeth ar yr angen am well cydlyniant a chyfathrebu ynghylch pwysigrwydd meddwl creadigol. Ond y sbarc go iawn y gwelsom ni oedd rhwng y bobl oedd yn cynrychioli gwahanol rannau o’r system, a’r cyfleoedd a’r syniadau a ddeilliodd o’r cysylltiadau hyn.
‘Yn sydyn reit, dyna ni. Arweinwyr meddwl creadigol unigol (boed yn anfwriadol neu’n fwriadol) yn dod â’u dychymyg i’r blaen ac yn gweld y posibiliadau, wedi eu llywio gan gysylltiadau a’r awydd i gronni gwybodaeth a dealltwriaeth ynghyd, a datrys problemau gyda’i gilydd!’
- Nia Richards, Cyfarwyddwr CCE
Mae’r profiad wedi ein hannog ni i ystyried ac archwilio sut y gallwn ddefnyddio ein sgiliau hwyluso dysgu proffesiynol a’n profiad o feithrin perthnasau i gynorthwyo’r proffesiwn a meithrin amodau i sbarduno newid systemaidd.
Fel y mae Bill Bannear yn ei ddweud:
“Mae gwerth yn cael ei greu, a thir newydd yn cael ei dorri trwy gryfder, nifer ac ansawdd y perthnasau o fewn y systemau hyn. Nid yw’r union beth y bydd y perthnasau hyn yn ei gynhyrchu’n glir - ond maen nhw’n creu cysylltiadau newydd yn y system, sy’n caniatáu i werth ddatblygu’n naturiol dros amser.”
Yma yn Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol/CCE, rydyn ni’n credu bod meithrin perthnasau o ansawdd – yn y byd addysg a’r tu hwnt – ac ar draws yr ecosystem, yn gam hanfodol i ni ehangu ein cymuned, clustnodi’r cyfleoedd y gallwn fanteisio arnynt gyda’n gilydd, a’r rhwystrau y mae angen eu goresgyn, neu eu hosgoi, er mwyn creu newid cynaliadwy.
Delwedd: Bord Gron Llundain, Hydref 2024. Map o gysylltiadau’r DU a Gwlad Belg o fewn yr ecosystem addysg, gweithgaredd a drefnwyd gan Arwain ar gyfer Meddwl creadigol@CCE i wneud ein cysylltiadau’n weladwy.
Dros y misoedd nesaf, byddwn ni’n parhau i archwilio posibiliadau meithrin perthnasau all-lein ac ar lein, gan dynnu arweinwyr meddwl creadigol ynghyd a gosod pawb yn sefyllfa arweinwyr systemau i ymchwilio, dychmygu, cydweithio a dyfalbarhau – a llunio gweithredoedd trwy hynny.
‘Mae pobl fel gwenyn, a’r gymdeithas fel cwch gwenyn: mae ein deallusrwydd yn bodoli nid ym mhob ymennydd unigol, ond yn y meddwl cyffredin. Ffrwyth cymuned yw meddyliau dynol, nid unrhyw unigolyn ar ei ben ei hun. Bydd y cyfraniadau a wnawn fel unigolion yn dibynnu’n fwy ar ein gallu i weithio gyda phobl eraill.’
Sloman a Fernbach (2017)
Os hoffech chi fod yn rhan o ddigwyddiadau arwain ar gyfer meddwl creadigol yn y dyfodol, dim ots a ydych chi mewn addysg neu ddiwydiant, cofrestrwch ar gyfer ein newyddlen neu cysylltwch â hello@cceengland.org