Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol

Cymuned ddysgu fyd-eang ar gyfer arweinwyr ysgolion, systemau ac athrawon sydd am feithrin creadigrwydd.

Rydyn ni’n tynnu arweinwyr ynghyd i ymgysylltu a rhannu, gan eu hymbweru i ymgorffori meddwl creadigol i bob agwedd ar fywyd eu hysgol.

collage illustration of hands and paper birds
cce logo

Ynghylch

Mae Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yn cael ei arwain gan CCE, elusen ryngwladol yn y DU, mewn cydweithrediad â’n partneriaid.

Ein cenhadaeth yn Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yw tynnu arweinwyr addysg ynghyd a’u galluogi i feithrin diwylliant pwrpasol i ddatblygu creadigrwydd staff a myfyrwyr fel ei gilydd.

Mae creadigrwydd yn hanfodol. Mae meithrin sgiliau meddwl creadigol yn taclu arweinwyr i fod yn ystwyth, athrawon i lewyrchu, a disgyblion i ffynnu mewn byd sy’n newid yn barhaus. 

Er mwyn gwneud hyn yn dda, mae arweinyddiaeth greadigol ymroddedig yn hanfodol.

a book with a title of creative thinking in schools

Meddwl Creadigol mewn Ysgolion: Chwaraelyfr i Arweinwyr

Lluniwyd Meddwl Creadigol mewn Ysgolion: Chwaraelyfr i Arweinwyr gan dîm o arweinwyr meddwl, ymchwilwyr a hwyluswyr o fri rhyngwladol. Canllaw ymarferol yw’r chwaraelyfr sy’n cyfuno dealltwriaeth ddwys am newid ysgolion a systemau â phrofiad o feithrin meddwl creadigol a hybu arferion dysgu creadigol mewn ysgolion.

Tanysgrifiwch nawr i ddatgloi dirnadaeth ac ysbrydoliaeth newydd.

Cofrestrwch i gael ein newyddlenni misol ac i fod gyda’r cyntaf i glywed am y gwaith ymchwil, digwyddiadau ac erthyglau diweddaraf i’ch cynorthwyo chi i arwain ar gyfer dysgu creadigol.

* gwybodaeth hanfodol