Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol

Cymuned ddysgu fyd-eang ar gyfer arweinwyr ysgolion, systemau ac athrawon sydd am feithrin creadigrwydd.

Rydyn ni’n tynnu arweinwyr ynghyd i ymgysylltu a rhannu, gan eu hymbweru i ymgorffori meddwl creadigol i bob agwedd ar fywyd eu hysgol.

collage illustration of hands and paper birds

Gweithgaredd Diweddaraf

Archwiliwch weithgareddau sydd wedi'u cynllunio i danio meddwl creadigol, dyfnhau dealltwriaeth, a chryfhau eich arweinyddiaeth. O straeon sy’n procio’r meddwl a mewnwelediadau ymchwil i offer a digwyddiadau ymarferol, mae pob un yn cynnig cyfle dysgu proffesiynol â ffocws neu adnodd i gefnogi eich arweinyddiaeth o ddysgu pobl eraill.

Neidio i mewn a darganfod, chwarae a myfyrio ar syniadau newydd a'u rhoi ar waith.

Dyddiad cyhoeddi: 17/02/2025

Meddwl Creadigol mewn Dysgu Gweithredol

Dyddiad Digwyddiad:19/03/2025

Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol: digwyddiad cymunedol #10

Dyddiad cyhoeddi: 17/12/2024

Dod at ein gilydd a dechrau siwrnai tuag at weithredu ar y cyd.

cce logo

Ynghylch

Mae Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yn cael ei arwain gan CCE, elusen ryngwladol yn y DU, mewn cydweithrediad â’n partneriaid.

Ein cenhadaeth yn Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yw tynnu arweinwyr addysg ynghyd a’u galluogi i feithrin diwylliant pwrpasol i ddatblygu creadigrwydd staff a myfyrwyr fel ei gilydd.

Mae creadigrwydd yn hanfodol. Mae meithrin sgiliau meddwl creadigol yn taclu arweinwyr i fod yn ystwyth, athrawon i lewyrchu, a disgyblion i ffynnu mewn byd sy’n newid yn barhaus. 

Er mwyn gwneud hyn yn dda, mae arweinyddiaeth greadigol ymroddedig yn hanfodol.

Tanysgrifiwch nawr i ddatgloi dirnadaeth ac ysbrydoliaeth newydd.

Cofrestrwch i gael ein newyddlenni misol ac i fod gyda’r cyntaf i glywed am y gwaith ymchwil, digwyddiadau ac erthyglau diweddaraf i’ch cynorthwyo chi i arwain ar gyfer dysgu creadigol.

* gwybodaeth hanfodol

Mae ein llyfr chwarae Meddwl Creadigol mewn Ysgolion bellach ar gael yn Saesneg, Cymraeg, Thai ac Wrdw.