Sbarc: Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol - Fforwm ar gyfer Arweinwyr Systemau

Sut gall arweinyddiaeth wasgaredig yrru trawsnewidiad mewn addysg?

Lleoliad:

Ar-lein

Dyddiad:

Dydd Iau, 10 Ebrill 2025 16:00 - 17:00 BST

Hyd:

1 awr

A collage of different shapes and hands with event details

Sbarc: Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol - Fforwm ar gyfer Arweinwyr Systemau

Sut gall arweinyddiaeth wasgaredig yrru trawsnewidiad mewn addysg?

Ymunwch â ni am sgwrs ysbrydoledig am sut y mae rhaglen Ysgolion Creadigol Iwerddon yn gosod creadigrwydd a’r celfyddydau wrth galon addysg, trwy ddull o gyd-arwain. 

Cewch glywed gan yr arweinwyr creadigol Mags Walsh, Cyfarwyddwr Rhaglen Ysgolion Creadigol Creadigol Cyngor Celfyddydau Iwerddon, Sinéad Fraser, a fu gynt yn Gydlynydd Ysgolion, a Damien O’ Reilly, Cydymaith Creadigol Athrawon, wrth i ni archwilio sut y maen nhw'n sefydlu creadigrwydd trwy eu rolau arwain amrywiol, a sut maen nhw’n cyfrannu at newid ystyrlon o fewn y system gyda’i gilydd.

Y dull arweinyddiaeth wasgaredig yma yw’r sylfaen ar gyfer ‘Ysgolion Creadigol’ sy’n cynorthwyo ysgolion cynradd ac ôl-gynradd a chanolfannau Youthreach ar draws Iwerddon i osod creadigrwydd a’r celfyddydau wrth galon bywydau plant a phobl ifanc. Mae’r ysgolion a’r canolfannau sy’n cymryd rhan yn cychwyn siwrnai dwy flynedd dan arweiniad i ddatblygu a gweithredu Cynllun Ysgolion Creadigol sy’n unigryw i’w cyd-destun nhw. Mae cynnwys plant a phobl ifanc wrth gynllunio, gwneud penderfyniadau a myfyrio yn greiddiol i’r siwrnai hefyd.

Ydych chi’n arweinydd systemau neu’n sbarduno newid yn y byd addysg?

Os ydych chi wedi ymrwymo i gynorthwyo arloesi, creadigrwydd a rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu, peidiwch â cholli’r cyfle hwn i sbarduno newid ac ysbrydoli gweithredu.

Tanysgrifiwch nawr i ddatgloi dirnadaeth ac ysbrydoliaeth newydd.

Cofrestrwch i gael ein newyddlenni misol ac i fod gyda’r cyntaf i glywed am y gwaith ymchwil, digwyddiadau ac erthyglau diweddaraf i’ch cynorthwyo chi i arwain ar gyfer dysgu creadigol.

* gwybodaeth hanfodol