Rhwydwaith Creadigrwydd Cydweithredol Gogledd-ddwyrain Lloegr (RCCGD)

Mae RCCGD yn gymuned ddysgu broffesiynol o 12 ysgol ar draws Gogledd-ddwyrain Lloegr, sy’n gweithio ar y cyd â Chreadigrwydd, Diwylliant ac Addysg i archwilio, profi ac ymgorffori amrywiaeth o arferion arloesol mewn addysgu ar gyfer creadigrwydd.

Cyd-fyfyrio

  • Sut mae’r ffilm yma’n ategui neu’n herio eich syniadau am feddwl creadigol mewn ysgolion?
  • Sut gallai disgyblion, rhieni, llywodraethwyr neu ddarpar-bartneriaid eraill eich cynorthwyo chi i ddatblygu meddwl   creadigol yn eich ysgol?
  • Beth ydych chi wedi ei ddysgu am ddysgu proffesiynol ar gyfer meddwl creadigol? Beth sy’n bwysig? 
  • Ymhle y gwelwch chi gyfleoedd go iawn ar gyfer dialog proffesiynol a myfyrio gyda chymheiriaid yn y gwaith         yma? 
  • Sut gallwch chi estyn allan at ysgol arall (neu ysgolion eraill) sydd â diddordeb mewn datblygu meddwl creadigol, i   greu eich grŵp cydweithio eich hun?  
  • Pa gwestiynau eraill mae’r ffilm yma’n eu sbarduno neu’n eich ysbrydoli chi i’w harchwilio ymhellach, o ran dysgu   proffesiynol ar gyfer meddwl creadigol?