Arweinyddiaeth i ddatblygu amgylcheddau ar gyfer meddwl creadigol
Adolygodd ymchwilwyr y dystiolaeth ddeng mlynedd yn ôl; a yw eu canfyddiadau am amgylcheddau dysgu’n dal i fod yn wir heddiw?
Davies, D., Jindal-Snape, D., Collier, C., Digby, R., Hay, P., & Howe, A. (2013). Creative Learning Environments in Education - A Systematic Literature Review. Thinking Skills and Creativity, 8, 80-91.
Darllenwch yr erthygl yn ei chyfanrwydd yma.
Crynodeb
Yn 2011, cafodd tîm o ymchwilwyr gomisiwn gan Learning and Teaching Scotland i ymchwilio i amgylcheddau sy’n ffafriol i feithrin creadigrwydd mewn ysgolion. Cymharol fechan oedd yr astudiaethau a ffeindiodd yr ymchwilwyr o ran nifer, ond bu modd iddynt awgrymu bod y ffactorau canlynol yn bwysig wrth helpu i ddatblygu sgiliau creadigol mewn plant a phobl ifanc:
- Defnydd o le. Mae yna dystiolaeth resymol fod defnydd hyblyg o le yn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu eu dychymyg mewn amrywiaeth o leoliadau, a bod arddangos gwaith sydd ar y gweill yn nodwedd bwysig o’r amgylchedd gweledol.
- Argaeledd deunyddiau. Mae yna dystiolaeth gref fod darparu amrywiaeth eang o ddeunyddiau, offer ac adnoddau eraill yn gallu sbarduno creadigrwydd. (Digon cyfyngedig oedd argaeledd technolegau addysgu newydd bryd hynny mewn byd cyn y cyfryngau cymdeithasol!)
- Gweithio’r tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae yna dystiolaeth resymol o sawl astudiaeth fod mynd â disgyblion allan o’r dosbarth a gweithio mewn amgylchedd awyr agored am ran o’u hamser yn yr ysgol yn gallu meithrin eu datblygiad creadigol. Yn yr awyr agored, gwelir amser a lle fel rhywbeth y mae gan y disgyblion fwy o berchnogaeth drosto; mae gwaith dan do yn dueddol o fod â mwy o ffocws unigol, ond mae gweithgareddau dysgu awyr agored yn fwy tebygol o alw am gydweithio.
- Yr amgylchedd o ran addysgeg. Mae dulliau ‘chwareus’ neu ‘seiliedig ar gemau’ â rhywfaint o awtonomiaeth i’r dysgwr yn gysylltiedig â datblygu creadigrwydd. Yn yr ystafell ddosbarth, mae yna dystiolaeth resymol fod angen elfen o newydd-deb er mwyn sbarduno ymatebion creadigol gan y disgyblion. Er bod rhyddid mynegiant yn bwysig, mae strwythurau sy’n caniatáu i’r disgyblion fentro, meddwl yn greadigol ac yn feirniadol, a chwestiynu barn pobl eraill yn bwysig hefyd.
- Chwarae. Mae llwyth o wybodaeth ar gael am rôl chwarae wrth feithrin creadigrwydd.
- Defnydd o amser. Mae yna dystiolaeth resymol taw’r ffordd orau o feithrin creadigrwydd yw defnyddio amser mewn ffordd hyblyg. Mae plant ifanc yn elwa ar ddigon o amser i ymdrochi mewn gweithgaredd er mwyn gwireddu deilliannau creadigol. Ar y lefel uwchradd, er enghraifft gyda chelf a dylunio, mae hi o gymorth os yw adnoddau ar gael y tu hwnt i oriau’r amserlen, a phan fo digon o gyfleoedd ar gael am weithgareddau allgyrsiol y tu hwnt i gyfyngiadau arferol yr ystafell ddosbarth.
- Perthnasau rhwng athrawon a disgyblion. Mae dialog a pharch y naill at y llall yn bwysig. Mae gallu athrawon i weithredu’n ddigymell a newid cynlluniau’n cael ei ddangos trwy dangos esiampl o’u hymrwymiad i ddysgu creadigol. Mae pwyslais ar addysgu disgyblion yn fwriadol am y broses o ddefnyddio dialog yn hybu cyd-ddealltwriaeth a datblygu syniadau.
- Defnyddio amgylcheddau y tu hwnt i’r ysgol. Mae yna dystiolaeth resymol fod mynd â phlant a phobl ifanc allan o’r ysgol i ddysgu mewn amgylcheddau fel amgueddfeydd ac orielau’n cyfoethogi eu sgiliau creadigol. Mae yna dystiolaeth gadarn fod cysylltiad ag asiantaethau allanol fel y gymuned fusnes leol, cyrff chwaraeon a’r celfyddydau, a sefydliadau cymunedol eraill, yn gallu cyfrannu’n sylweddol at amgylchedd dysgu creadigol.

Argymhellion yr adolygiad oedd:
- Y dylid rhannu’r canfyddiadau ag ysgolion.
- Wrth sefydlu amgylcheddau creadigol, ei bod hi’n bwysig gwahaniaethu rhwng rolau ‘digwyddiadau critigol’ (fel prosiectau, wythnosau thema, gwaith gydag asiantaethau allanol) ac arferion da parhaus yn yr ystafell ddosbarth.
- Bod ar ysgolion angen arweiniad o ran sut i feithrin a chynnal partneriaethau â chyrff allanol er mwyn cyfoethogi’r amgylchedd creadigol a hwyluso dysgu proffesiynol, a sicrhau effaith hirdymor ar addysgeg.
- Mae angen i athrawon deimlo bod ganddynt gefnogaeth i ganolbwyntio ar brosesau datblygu sgiliau creadigol yn hytrach na deilliannau, am fod tystiolaeth yn awgrymu bod pwysau allanol yn nhermau dyddiadau cyflawni neu arddangos yn dueddol o effeithio ar berthnasau yn yr ystafell ddosbarth gan amharu ar amgylcheddau dysgu creadigol.
- Mae ar athrawon angen arweiniad ar ddefnyddio amgylcheddau ffisegol, gan gynnwys yr awyr agored, mewn ffordd hyblyg er mwyn cynorthwyo creadigrwydd plant a phobl ifanc.
- Mae angen codi ymwybyddiaeth athrawon am bwysigrwydd modelu agweddau ac ymddygiad creadigol.
- Dylid annog athrawon i roi mwy o reolaeth i ddisgyblion dros eu dysg, a chyfleoedd i weithio yn eu pwysau eu hunain a gyda’u cyfoedion.
- Mae ar ysgolion angen dysgu proffesiynol er mwyn i athrawon ddeall eu rhagdybiaethau am greadigrwydd, sbarduno dialog ynghylch modelau creadigrwydd, addysgu a dysgu, a darparu cyfleoedd iddynt ddatblygu eu creadigrwydd eu hunain wrth gyflawni ymchwiliadau proffesiynol myfyrgar.
Cyd-fyfyrio
1. A yw’r 8 ffactor a nododd yr ymchwilwyr yn taro cloch gyda chi a’ch profiadau o ddatblygu amgylcheddau creadigol mewn ysgolion?
2. Ydych chi’n cytuno ag argymhellion y tîm ymchwil? I na raddau ydych chi’n credu y mae rhai o’r rhain wedi digwydd / yn dechrau digwydd dros y degawd diwethaf?
3. Sut byddech chi’n graddio ansawdd eich amgylcheddau dysgu eich hunain yn nhermau meithrin creadigrwydd?
4. Beth ydych chi’n meddwl yw rôl arweinwyr ysgolion wrth ddatblygu, cynnal a defnyddio amgylcheddau dysgu creadigol yn yr ysgol a’r tu hwnt?