Ysgolion Creadigol: Gweriniaeth Iwerddon

Ysgolion Creadigol – Athrawon a Phlant Gweriniaeth Iwerddon yn rhannu eu cynghorion ar sefydlu creadigrwydd mewn ysgolion

Mae Ysgolion Creadigol sy’n cael ei arwain gan Gyngor Celfyddydau Iwerddon mewn partneriaeth â’r Adran Addysg a Sgiliau, Materion Plant a Phobl Ifanc a’r Adrannau Twristiaeth, Diwylliant, y Celfyddydau, Gaeltacht, Chwaraeon a’r Celfyddydau, yn fenter flaenllaw i’r Cynllun Ieuenctid Creadigol yn rhan o Raglen Iwerddon Greadigol. Cydweithiodd CCE yn agos â Chyngor Celfyddydau Iwerddon i ddatblygu Ysgolion Creadigol rhwng 2017 a 2023, a bu’n gweithio gyda phartneriaid ehangach o fewn y Cynllun Ieuenctid Creadigol hefyd.

Mae’r fenter Ysgolion Creadigol yn cynorthwyo ysgolion/canolfannau i osod y celfyddydau a chreadigrwydd wrth galon bywydau plant a phobl ifanc. Mae’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc feithrin eu sgiliau artistig a chreadigol; cyfathrebu, cydweithio, sbarduno eu dychymyg, bod yn ddyfeisgar, a ffrwyno eu chwilfrydedd, â’r cyfan nod o ymbweru plant a phobl ifanc i ddatblygu, gweithredu a gwerthuso’r celfyddydau a gweithgarwch creadigol ar draws eu canolfannau. Yn ogystal, mae’n sbarduno dulliau arloesol o weithio sy’n cyfoethogi effaith creadigrwydd ar eu dysg, eu datblygiad a’u llesiant. 

Yn Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol, rydyn ni’n credu’n gryf bod modd defnyddio’r Arferion Meddwl Creadigol ar draws y cwricwlwm ac y dylid gwneud hynny, ac mae’r ffilm yma’n cynnig cipolwg ar un dull o weithredu sy’n cael ei sbarduno trwy’r celfyddydau. Ond mae gwneud themâu bras creadigrwydd yn rhan o ddiwylliant yr ysgol, ac yn bethau sy’n cael eu gweld a’u teimlo, yn ymbweru plant a phobl ifanc ac yn cynyddu eu hymdeimlad o effaith a gweithio gyda phartneriaid i lywio newid, yn rhywbeth sy’n gyffredin i bawb. 

Y gobaith yw y bydd y ffilm yma’n ysbrydoli ysgolion eraill i sefydlu creadigrwydd ac y bydd yn dangos manteision aruthrol hyn i’r disgyblion a’r staff fel ei gilydd.

Cydfyfyrio

  • Pam gallai cynnwys plant wrth gynllunio gwersi a/neu yn y broses o sefydlu meddwl creadigol sbarduno mwy o greadigrwydd?
  • Sut mae llais y disgybl yn edrych yn eich ysgol chi, a sut mae’r bobl ifanc yn cael hyrwyddo creadigrwydd fel sgil gwerthfawr ar gyfer y dyfodol?
  • Un ffordd o wneud hyn yw sefydlu Cyngor Creadigol. Sut gallai hynny edrych yn eich ysgol chi (o ystyried cyngor y plant am ddechrau mewn ffordd fach)?
  • Pe bai ymwelydd yn cerdded i mewn i’ch ysgol chi, ymhle fydden nhw’n fwyaf tebygol o weld a theimlo creadigrwydd ar hyn o bryd?                                                                                                                         
  • Sut gallech chi/ydych chi’n cysylltu â phartneriaid cymunedol lleol, gan gynnwys artistiaid, gweithwyr STEM, mentrau lleol neu sefydliadau er mwyn eich cynorthwyo chi i ddatblygu/sefydlu creadigrwydd ar draws eich ysgol?