Arweinyddiaeth i gynorthwyo dysgu ar gyfer creadigrwydd

Bullard, A. and Bahar, A. (2023). Journal of Creativity, 33:1. Common barriers in teaching for creativity in K-12 classrooms: A literature review. 

Darllenwch yr erthygl yn ei chyfanrwydd yma

Crynodeb

Mae’r papur yma’n adolygu astudiaethau empirig (h.y. astudiaethau sy’n seiliedig ar arsylwadau a phrofiadau go iawn yn hytrach na theorïau neu gredoau) a gyflawnwyd rhwng 2006 a 2022. Mae’r awduron wedi dewis chwilio am bapurau sy’n archwilio’r cysyniad o ‘addysgu ar gyfer creadigrwydd’ yn unig. Mae’r pwyslais yma (yn hytrach nac ‘addysgu’n greadigol’ neu ‘addysgu creadigol’) yn gosod y pwyslais ar ddeall sut y gall athrawon ganolbwyntio’n fwy bwriadol ar ddatblygu creadigrwydd y disgyblion.

Yn yr adran ragarweiniol, mae’r awduron yn cynnig dwy neges allweddol ar gyfer arweinwyr ysgolion:

Er y gallai dysgu ar gyfer creadigrwydd ymddangos fel disgwyliad arall eto i’w gyflawni yn y dosbarth, mae gweu creadigrwydd i wersi’n sbarduno dysgu ar lefel ddwys ac yn cynorthwyo myfyrwyr i amsugno gwybodaeth hanfodol.

Mae meithrin gallu creadigol yn galluogi myfyrwyr i fod yn fwy hyblyg ac ystwyth mewn cymdeithas fyd-eang annarogan sy’n symud yn gyflym, ac yn cynyddu eu gallu i weithio’n dawel ac yn effeithlon ar draws diwylliannau a gyda phobl eraill sy’n meddwl mewn ffordd wahanol.

Mae’n pwysleisio tri rhwystr – sef hunan-effeithiolrwydd a chredoau athrawon, cyfyngiadau amgylcheddol, a’r hyn y mae’r awduron yn cyfeirio ato fel ‘hyfforddi athrawon newydd trwy hen arferion’, sy’n cydnabod y llu o rymoedd o fewn y system sy’n atal newid.

Rhwystr 1 - Hunan-effeithiolrwydd a chredoau athrawon

Er bod llawer o athrawon yn amlwg yn greadigol yn eu bywydau eu hunain, yn y dosbarth, mae hi’n debyg nad ydyn nhw’n credu eu bod nhw’n gallu datblygu creadigrwydd pobl ifanc, yn arbennig mewn ysgolion lle nad yw’r hinsawdd yn ffafrio hynny. Mae rhai athrawon yn credu hefyd nad oes modd addysgu creadigrwydd, a bod creadigrwydd ond yn eistedd o fewn y celfyddydau, ac mae hynny’n eu hatal rhag addysgu ar gyfer creadigrwydd ar draws y cwricwlwm. 

Rhwystr 2 - Cyfyngiadau amgylcheddol

Mae’r awduron yn rhoi dehongliad eang o’r amgylchedd er mwyn cynnwys nifer o ffactorau diwylliannol. Mae rhai athrawon yn bryderus wrth geisio cysoni pwysau’r agenda ‘safonau’ â’u dymuniad i feithrin creadigrwydd eu disgyblion. Mae rhai yn gweld profion safonol yn rhwystr. Ymhlith y rhwystrau amgylcheddol eraill a glustnodwyd mae gwerslyfrau annigonol, diffyg amser, gormod o bynciau i’w hastudio, dosbarthiadau mawr, a phroblemau ymddygiad. Yn Addysg Gorfforol, nodwyd bod y rhwystrau’n aml yn rhai emosiynol wrth i ddisgyblion geisio goresgyn sialensiau. Mae grwpio yn ôl gallu academaidd yn gallu arwain at gyfranogaeth anghymesur ac arwain at ddiffyg mentro.

Rhwystr 3 - Amharodrwydd i newid

Mae agweddau sydd wedi caledu ymysg gweithwyr proffesiynol yn golygu y gall unrhyw newid mewn arferion fod yn anodd, gydag athrawon sydd wedi ceisio addysgu ar gyfer creadigrwydd weithiau’n dychwelyd at y dulliau mwy cyfarwydd a chyffyrddus o weithredu roedden nhw’n arfer eu defnyddio. Pan fo creadigrwydd yn ymrannu i fod yn chwilfrydig, yn ddychmygus, yn ddisgybledig, yn gydweithredol ac yn ddyfalbarhaus, a’r athrawon yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio’r rhain, gwelir bod creadigrwydd y disgyblion yn cynyddu.

Mae’r awduron yn dod â’u hastudiaeth i ben â’r argymhellion canlynol ar gyfer arweinwyr ysgolion a systemau:

  1. Diwygiwch amserlenni dosbarth er mwyn darparu mwy o amser ar gyfer y broses greadigol
  2. Cynhwyswch greadigrwydd a/neu dermau cysylltiedig yn safonau’r cwricwlwm
  3. Defnyddiwch ddatblygiad proffesiynol i asesu meddwl creadigol y myfyrwyr yn hytrach na dibynnu’n llwyr ar asesiadau safonol â nifer o gwestiynau amlddewis
  4. Dewiswch adnoddau sy’n gweithredu creadigrwydd yn strategol, ac 
  5. Anogwch a chydnabyddwch annibendod cadarnhaol ac effeithiol wrth i fyfyrwyr gymryd rhan mewn creadigrwydd.

Cyd-fyfyrio

  1. I ba raddau mae’r tri rhwystr a glustnodwyd gan yr awduron yn gyson â’ch profiadau chi?
  2. Beth yw’ch dealltwriaeth chi am ‘annibendod cadarnhaol ac effeithiol’ yn rhan o’r broses greadigol?
  3. Pa un o’r pump argymhelliad uchod sydd fwyaf cyson â’ch ffordd chi o feddwl? 
  4. Pa rwystrau ydych chi wedi dod ar eu traws yn eich ysgol, a sut gallech oresgyn y rhain?
PAPER

Common barriers in teaching for creativity in K-12 classrooms: A literature review

Os wnaethoch chi fwynhau darllen yr erthygl yma, rhowch gynnig ar y stori yma gan Sarah Childs sy’n rhannu ei phrofiadau o ysbrydoli addysgu a dysgu ar gyfer creadigrwydd ar draws y cwricwlwm yng Ngholeg Penryn.