Saesneg, Cymraeg a nawr iaith Thai, mae ein Chwaraelyfr wedi cyrraedd Gwlad Thai

Yn CCE, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r Gronfa Addysg Deg (EEF) yn Bangkok am y pedair blynedd diwethaf.

gift bags containing a copy of Creative Thinking in Schools: A Leadership Playbook in Thai

Mae EEF ar ymgyrch i leihau anghydraddoldebau addysgol a chodi safonau addysg trwy gynnal a datblygu effeithiolrwydd athrawon. Fodd bynnag, un o’r rhwystrau mwyaf wrth gyflawni’r olaf o’r amcanion hyn yw’r nifer gyfyngedig o adnoddau dysgu proffesiynol o safon uchel sydd ar gael yn yr iaith Thai.

Roedd hi felly’n bleser gweld cynrychiolwyr yn dod yn llu i Gynhadledd Pen-blwydd yr EEF yn 5 oed, dan y teitl Pawb am Addysg, Addysg i Bawb, i gasglu eu pecynnau rhodd oedd yn cynnwys copi o Meddwl Creadigol mewn Ysgolion: Chwaraelyfr i Arweinwyr yn iaith Thai.

Yn arolygon diweddar PISA ar Greadigrwydd a Meddwl Beirniadol, daeth pobl ifanc 15 oed Gwlad Thai allan yn is na chyfartaledd OECD. Trwy siarad â’r cynrychiolwyr a ddaeth i’r gynhadledd, oedd yn cynnwys arweinwyr ysgolion ac athrawon, arweinwyr rhanbarthol ysgolion, darparwyr ITE ac ymchwilwyr, a gweld eu hymatebion i’r Chwaraelyfr ar stondin lyfrau’r cyhoeddwyr; roedd hi’n amlwg fod pawb yn ymwybodol iawn o’r angen am ddatblygu meddwl creadigol eu plant a’u pobl ifanc, ond fel sy’n wir mewn llawer o’r tiriogaethau lle’r ydyn ni’n gweithio, doedden nhw ddim yn gwybod sut i fynd ati.

Aeth ein gweithdy ar yr ail ddiwrnod â’r cyfranogwyr trwy nifer o weithgareddau o’r Chwaraelyfr - Pwrpas Ysgol, Arferion Meddwl Creadigol, Mythau a Rhagdybiaethau a Gwahanol Fath o Arweinyddiaeth. Yn y gweithgaredd ‘pwrpas ysgol’ y nodwedd gyffredin syml oedd yn ymddangos ar frig Diemwnt 9 llawer ohonynt oedd hapusrwydd, a phan ofynnais i iddyn nhw a yw hynny’n adlewyrchu pwrpas craidd y rhan fwyaf o ysgolion yng Ngwlad Thai heddiw - llenwyd yr ystafell a sŵn glaschwerthin.

a group of people interacting in front of a white board with some thai script written on it

Dechreuodd trafodaeth ddigymell yn ystod ‘Arferion Creadigol’ wrth i’r cyfranogwyr gwestiynu’r arfer ‘ddisgybledig’. Mewn gwlad a diwylliant sy’n ymfalchïo mewn cydlyniant a disgyblaeth, roedden nhw’n teimlo taw hyn oedd y neges anghywir i’w chyfleu yng nghyd-destun creadigrwydd, pan taw’r hyn sydd ei angen yw dewrder a dargyfeirio wrth y status quo. Daethon nhw i ddeall o dipyn i beth taw gwahanol fath o ddisgyblaeth oedd dan sylw yn y fan yma, disgyblaeth sy’n sicrhau nad cael syniadau gwych yw unig nod creadigrwydd, ond yn hytrach yr awydd i weithredu ar y syniadau hyn, a’u bwrw i’r neilltu a dechrau o’r newydd weithiau.

Dechreuodd rhai o’r cyfranogwyr sylweddoli grym ac ystyr yr arfer fach yma, a’r cysylltiad rhyngddi â’u dymuniad am i hapusrwydd lenwi eu hysgolion.

Ymunodd Lisa Hall, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gynradd Cragside yn Newcastle â fi ar yr antur yma. Mae CCE wedi bod yn bartner i Gydweithfa Creadigrwydd Gogledd-ddwyrain Lloegr dros y tair blynedd diwethaf, ac erbyn hyn, mae Lisa’n un gwych am hwyluso dysgu proffesiynol ar gyfer meddwl creadigol yn ei hawl ei hun.

I gloi ein gweithdy, rhannodd Lisa sut y mae hi a’i chydweithwyr wedi rhoi’r Arferion Meddwl Creadigol ar waith; sut daeth pwrpas eu hysgol yn seren y gogledd iddynt wrth iddynt integreiddio creadigrwydd i’w cwricwlwm a’u haddysgeg; sut datblygodd eu hyder, hyd yn oed pan nad oedd beth oedd yn fythau am greadigrwydd yn amlwg bob tro; a’i datblygiad hi ei hun fel arweinydd meddwl creadigol. Yn hytrach na hapusrwydd, mae staff Ysgol Gynradd Cragside yn siarad am lawenydd, y llawenydd y mae ei chydweithwyr, ac yn fwy na neb, y plant, yn ei gael o arwain ac addysgu ar gyfer creadigrwydd.

Rydw i, a holl awduron y chwaraelyfr yn gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth yng Ngwlad Thai, ac y bydd mwy o arweinwyr creadigol yn dod i’r fei gan lenwi eu hysgolion â hapusrwydd, torri’r cylch o anghydraddoldeb, a pharatoi plant a phobl ifanc i fod yn feddylwyr hyderus a chreadigol.
 

Nia Richards
Cyfarwyddwr, CCE