Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol: digwyddiad cymunedol #8
Crefft Ymgynnull Ar Lein ar gyfer Arweinwyr Addysg
Crefft Ymgynnull Ar Lein ar gyfer Arweinwyr Addysg
Sut gallai palet o feddwl creadigol, cydweithio a dysgu parhaus fod yn rheswm cymhellol i ymgynnull?
Ymunwch â ni’r mis yma wrth i ni gyd-greu gweledigaeth ar gyfer cynulliadau’r dyfodol a sut y gallant eich cynorthwyo chi i ymgysylltu, cyfnewid gwybodaeth a dysgu’n barhaus gydag arweinwyr creadigol eraill. Ein nod ar gyfer y cynulliadau hyn yw hwyluso cyfleoedd i ddysgu gan, a gyda’r system a’r amgylchedd allanol. Meithrin profiadau dysgu proffesiynol nid am fod rhaid i ni, ond am ein bod ni’n dewis gwneud hynny.
Rydyn ni wedi cynnull nifer o arweinwyr creadigol o bob rhan o’r DU a Gwlad Belg sydd wedi ymrwymo i feithrin creadigrwydd a meddwl creadigol yn eu hysgolion, ac rydyn ni’n eich gwahodd chi i ymuno â ni i gywreinio’r weledigaeth. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n ystyried crefft gofod pwrpasol ac ymatebol ar lein sy’n ein cynorthwyo ni i gyd i lywio ein dysg ein hunain, a dysg pobl eraill hefyd. Yn dilyn y sesiynau, byddwn ni’n gweithredu ar y weledigaeth sy’n cael ei chyd-greu ar gyfer sgyrsiau ystyrlon a chynulliadau trawsnewidiol, ac yn arbrofi â’r rhain yng nghynulliadau’r gymuned Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yn y dyfodol.
Gadewch i ni feddwl a dysgu mewn ffordd wahanol - gyda’n gilydd!