Arweinyddiaeth Greadigol - Bod yn Ddewr
Pwrpas
Mae arweinyddiaeth greadigol yn gofyn am y gallu i arwain yn ddewr. Byddwch yn ddigon dewr i chwalu rhagdybiaethau a mythau ynghylch creadigrwydd a dewrder i archwilio eich creadigrwydd eich hun, a dod ag eraill gyda chi ar y daith ddysgu. Mae’r gweithgaredd hwn yn eich gwahodd i ystyried profiadau pobl eraill fel ffordd o fyfyrio ar eich potensial eich hun i arwain meddwl yn greadigol, ac i wneud hynny’n ddewr!
Adnoddau a pharatoi
Fideos (Bethan Marks/Lisa Hall/Andy Moor)
Erthygl blog (Louise Stoll, Yr Athro Emeritws mewn Dysgu Proffesiynol yn UCL)
Adnodd Arferion Meddwl Creadigol
Hyd: 20 munud
Dechrau arni
Cyflwynir tri safbwynt ar Arweinyddiaeth Greadigol isod, dau o’r cyd-destun Saesneg ac un o’r cyd-destun Cymreig, lle maent yn cyflwyno cwricwlwm newydd ar hyn o bryd.
Creative Habits of Mind
Cam 1
Gwyliwch un, dau neu bob un o'r fideos arweinwyr
Cam 2
Darllenwch blog yr Athro Louise Stoll
Cyd-fyfyrio
Byddem yn eich annog i wneud nodiadau o'ch ymatebion i'r cwestiynau myfyrio ac i ddal eich dysgu.
Pa gamau arwain allweddol y mae'r arweinwyr yn y fideos a'r blog wedi cymryd rhan ynddynt?
Sut mae'r ysgol(ion) a Louise yn modelu meddwl creadigol?
I’r rhai sydd wedi gwylio mwy nag un fideo, beth sy’n debyg a beth sy’n wahanol yn eu dulliau a beth allai fod yn rhai o’r rhesymau am hynny?
Mae arweinwyr yn y fideos yn sôn am bwysigrwydd cefnogaeth staff, beth wnaethon nhw i gyflawni hyn?
Pa gwestiynau fyddech chi'n eu gofyn i'r arweinwyr?