Creadigrwydd ar draws y cwricwlwm

Dunn, K. et al. (2021) Massachusetts: Y Ganolfan er Ailddylunio’r Cwricwlwm. Embedding competencies within disciplines: Deliberately, explicitly and systematically 

Darllenwch yr erthygl yn ei chyfanrwydd yma

Crynodeb

Yn yr adroddiad hwn, mae’r Ganolfan er Ailddylunio’r Cwricwlwm yn cynnig model o’r cwricwlwm ac yn cynnig ambell i neges allweddol i arweinwyr ysgolion a systemau i sefydlu cymwyseddau fel creadigrwydd mewn amrywiaeth eang o bynciau. Mae’r Ganolfan yn gweld meddwl creadigol fel cyfuniad o greadigrwydd a meddwl creadigol ac yn ei disgrifio fel un o set o sgiliau ehangach sydd eu hangen heddiw ochr yn ochr â gwybodaeth a chymeriad.

 

Mae’r Ganolfan er Ailddylunio’r Cwricwlwm yn gweld cymwyseddau fel rhywbeth sy’n greiddiol i gwricwlwm blaengar.  Er nad ydyn nhw’n diffinio cymhwysedd, mae hi’n glir o waith ymchwil arall a gyflawnwyd eu bod nhw’n golygu cyfuniad deinamig o’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen ar ddysgwyr i lewyrchu a chymryd rhan trwy gydol bywyd mewn byd cymhleth. Yn hyn o beth, maen nhw’n canolbwyntio ar y pethau y mae rhywun yn gallu ei wneud, ar berfformiad, a hefyd ar yr ymddygiad sydd ynghlwm wrth y broses. Maen nhw’n grwpio elfennau cymhwysedd o dan dri phennawd – sef sgiliau, cymeriad a meta-ddysgu.

Gan dynnu ar ymatebion gan athrawon ‘Athro y flwyddyn’ taleithiau UDA, mapiodd yr ymchwilwyr y cymwyseddau allweddol yn erbyn disgyblaethau pwnc (yn UDA mae astudiaethau cymdeithasol yn cynnwys hanes, daearyddiaeth, economeg, dinasyddiaeth a gwyddor wleidyddol).

 

Table of competencies mapped against subject disciplines

Mae’r lliw gwyrdd tywyll yn dangos cysylltiad cadarn rhwng cymhwysedd a phwnc, gwyrdd golau’n awgrymu rhyw lefel o orgyffwrdd, a llwyd yn dangos ychydig neu ddim cysylltiad yn ôl yr athrawon y cyfwelwyd â nhw.

Argymhellion

Ar sail eu gwaith ymchwil, mae’r awduron yn awgrymu bod angen i ysgolion sydd o ddifrif ynghylch sefydlu cymwyseddau fel meddwl creadigol neu wytnwch fod yn:

1. Bwriadus - gan eu clustnodi a’u hintegreiddio’n ymwybodol ac yn fwriadol, gan sgaffaldio eu haddysgu ag arferion ar draws gwahanol gyd-destunau er mwyn hyrwyddo trosglwyddo dysgu.

2. Diamwys - mae cymwyseddau’n haeddu llawn cymaint o ffocws â gwybodaeth.  Er bod llawer o wersi eisoes yn cynnwys cydrannau creadigol, nid yw hyn yr un fath â chlustnodi amser i gyflwyno ac ymarfer is-sgiliau, er enghraifft, creadigrwydd. 

3. Cynhwysfawr - er na fydd pawb yn arbenigydd ym mhob cymhwysedd, gallai fod heb unrhyw un ohonynt yn llwyr fod yn drychinebus (e.e. yn arweinydd heb foeseg). Dylai dysgwyr brofi cyfleoedd i wella yn yr holl gymwyseddau yn yr ysgol.

4. Systemataidd - er mwyn sicrhau bod ansawdd cwricwlwm yn gyson â’r cymwyseddau, mae hi’n syniad da paru pob cymhwysedd â’r disgyblaethau gorau i’w cynnal, ac i’r gwrthwyneb, mewn ffyrdd sy’n gyson ag arbenigedd yr athro a’r ddirnadaeth o’r gwaith ymchwil.

5. Profadwy – rhaid i ddysg y disgyblion o ran y cymwyseddau fod yn fesuradwy yn erbyn dulliau o asesu sy’n seiliedig ar dystiolaeth (tudalen 5).

Cyd-fyfyrio

1. Ydych chi’n ffeindio model cwricwlwm y Ganolfan ar gyfer Ailddylunio’r Cwricwlwm yn ddefnyddiol?  Ym mha ffordd?

2. A yw’r pump argymhelliad yn gwneud synnwyr i chi? Pa un ohonynt sydd fwyaf cyson â’ch ffordd chi o feddwl? Gyda pha rai ydych chi’n meddwl y mae’ch ysgol yn gwneud y cynnydd mwyaf? Sut gallech chi ddefnyddio’r rhain yn eich arferion arweinyddiaeth eich hun?

3. A oes yna berygl mewn awgrymu nad yw rhai disgyblaethau pwnc yn gysylltiedig â chreadigrwydd, ac os felly, beth yw hynny?

Embedding competencies within disciplines: Deliberately, explicitly and systematically

Os wnaethoch chi fwynhau darllen yr erthygl yma, cymrwch olwg ar y stori yma gan Claire Badger sy’n rhannu ei phrofiadau cychwynnol o fynd i’r afael â’r argymhellion hyn trwy gymuned dysgu i athrawon.