Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol: digwyddiad cymunedol #9
Sut gall Arweinwyr Ysgolion Cynradd ac Athrawon feithrin chwilfrydedd a chydweithio i oresgyn rhwystrau i integreiddio creadigrwydd?
Lleoliad:
Ar-lein
Dyddiad:
Dydd Mercher, 5 Chwefror 2025 16:00 - 17:15 GMT
Hyd:
1 awr 15 munud
Sut gall Arweinwyr Ysgolion Cynradd ac Athrawon feithrin chwilfrydedd a chydweithio i oresgyn rhwystrau i integreiddio creadigrwydd?
Y mis yma, rydyn ni’n gwahodd arweinwyr ysgolion ac athrawon o’r cyfnod cynradd i ymuno â ni wrth i ni gymryd rhan mewn proses gydweithredol o ddatrys problemau gan ddefnyddio dull Dysgu Gweithredol* deinamig.
Bydd arweinwyr creadigol o ysgolion cynradd ar draws y DU yn agor y sesiwn trwy rannu eu sialensiau eu hunain o ran arweinyddiaeth greadigol.
Wedyn, byddwn ni’n cydweithio i fynd at wraidd rhwystredigaethau a chymhlethdodau cyflwyno a sefydlu creadigrwydd yn eich ysgol gynradd. Byddwn ni’n cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp fel cyfeillion chwilfrydig, ac yn gweithio tuag at atebion y gellir gweithredu arnynt, mewn amgylchedd o gefnogaeth ac anogaeth. Gallwch ddisgwyl myfyrdod dwys, sgyrsiau difyr a safbwyntiau ffres wrth i ni roi ein creadigrwydd ar waith!
*Dull strwythuredig o ddatrys problemau a datblygu proffesiynol sy’n cynnwys grŵp bach o unigolion yn gweithio ar y cyd i daclo sialensiau o fywyd go iawn yw Dysgu Gweithredol. Mae’r cyfranogwyr yn myfyrio ar eu gweithredoedd a’u deilliannau, gan ddysgu o’u safbwyntiau a’u profiadau ei gilydd. Mae’r broses yn hwyluso gwelliannau parhaus, ac yn taclu’r cyfranogwyr ag atebion ymarferol i’w rhoi ar waith yn eu rolau.
Gadewch i ni gydweithio, dysgu wrth ein gilydd, a sbarduno atebion creadigol ar gyfer dyfodol addysg.