Dysg

Rhyddhewch eich meddwl creadigol eich hun, arweiniwch gan ddefnyddio ein deunyddiau dysgu proffesiynol difyr. Hwyluswch eich datblygiad eich hun a’ch cydweithwyr, myfyriwch ar eich siwrnai a chofnodwch eich dirnadaeth a’ch dysg wrth fynd ati gyda’r gweithgareddau hyn.reddau, fe welwch chi gwestiynau myfyrio. Rydyn ni’n eich annog chi i wneud nodiadau i gysylltu a chofnodi eich dysgu wrth fynd yn eich blaen.

collage illustration of hands and paper objects
GWEITHGAREDDAU

Arweinydd Dysgu Creadigol - Manyleb y Person

Bydd y gweithgaredd yma’n eich helpu chi i ystyried nodweddion arweinydd creadigol er mwyn cydnabod eich hyder a’ch gallu eich hun, a deall pa feysydd y gallai fod angen i chi eu datblygu.  Bydd yn eich cynorthwyo chi hefyd i gydnabod pwy arall yn eich ysgol a allai feddu ar y nodweddion hyn, neu sut y gallwch ddatblygu darpar-arweinwyr creadigol. Gellir cyflawni hyn fesul un neu fel tîm gyda chydweithwyr.

GWEITHGAREDDAU

Sylwi ar Feddwl Creadigol

Anaml y mae meddwl creadigol yn rhywbeth cwbl newydd y mae angen ei gyflwyno i ysgolion, mewn llawer o leoliadau mae eisoes yn bodoli, er ei fod mewn pocedi ac o fewn rhai arferion. Trwy ddull ymholi gwerthfawrogol mae’r gweithgaredd hwn yn eich helpu i sylwi ar feddwl creadigol ar draws eich ysgol a nodi sut mae’n cael ei ddatblygu, yn ogystal â ble y gellir ei feithrin ymhellach. Gall hyn alluogi arweinwyr i gryfhau, dyfnhau ac ehangu creadigrwydd ar draws eu hysgol.

GWEITHGAREDDAU

Arweinyddiaeth Greadigol - Bod yn Ddewr

Mae arweinyddiaeth greadigol yn gofyn am y gallu i arwain yn ddewr. Byddwch yn ddigon dewr i chwalu rhagdybiaethau a mythau ynghylch creadigrwydd a dewrder i archwilio eich creadigrwydd eich hun, a dod ag eraill gyda chi ar y daith ddysgu. Mae’r gweithgaredd hwn yn eich gwahodd i ystyried profiadau pobl eraill fel ffordd o fyfyrio ar eich potensial eich hun i arwain meddwl yn greadigol, ac i wneud hynny’n ddewr!

GWEITHGAREDDAU

Creadigrwydd a Gwyddoniaeth

Mae creadigrwydd yn aml yn gysylltiedig â’r celfyddydau i’r graddau y mae rhai pobl yn tybio nad oes ganddo le mewn pynciau ysgol eraill. Tasg bwysig i unrhyw un mewn rôl arwain yw herio staff i ailfeddwl arferion a chreu cyfleoedd iddynt roi cynnig ar bethau newydd. Mae’r gweithgaredd hwn yn eich gwahodd i fyfyrio ar sut mae gwyddonwyr yn meddwl, ystyried y gorgyffwrdd â’r pum Arfer Creadigol a dylunio dysgu proffesiynol a fydd yn annog y rhai sy’n addysgu gwyddoniaeth neu’n rhedeg clybiau gwyddoniaeth neu beirianneg ar ôl ysgol i ymgorffori creadigrwydd yn eu gwaith.

a book with a title of creative thinking in schools

Meddwl Creadigol mewn Ysgolion: Chwaraelyfr i Arweinwyr

Lluniwyd Meddwl Creadigol mewn Ysgolion: Chwaraelyfr i Arweinwyr gan dîm o arweinwyr meddwl, ymchwilwyr a hwyluswyr o fri rhyngwladol. Canllaw ymarferol yw’r chwaraelyfr sy’n cyfuno dealltwriaeth ddwys am newid ysgolion a systemau â phrofiad o feithrin meddwl creadigol a hybu arferion dysgu creadigol mewn ysgolion.