Defnyddio profiadau myfyrwyr i ddatblygu ysgolion mwy creadigol

Harris, A. (2016). Creativity and Education. Llundain/Efrog Newydd: Palgrave Macmillan.

Ginns, P., Freebody, K., Anderson, M., ac O'Connor, P. (2021). Profiad myfyriwr o greadigrwydd yn ystafelloedd dosbarth ysgol uwchradd yn Awstralia: Model cyfansoddol. Learning and Individual Differences, 91, 102057.

Darllenwch yr erthygl gyfan yma.

Crynodeb

Yn 2016, datblygodd gwaith ymchwil gan Dan Harris restr gynhwysfawr o sgiliau a thueddfrydau creadigol pobl ifanc trwy astudiaeth o ysgolion uwchradd yn Awstralia. Yn sgil hynny, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Sydney a Phrifysgol Auckland wedi datblygu model unigryw i ddeall profiadau myfyrwyr o amgylcheddau ysgol creadigol - y Mynegai Ysgolion Creadigol (CSI). 

Mae’r CSI yn canolbwyntio ar 11 sgil/tueddfryd, sef:

  1. Cydweithio - gweithio mewn grŵp o ddau neu ragor i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth a chyflawni nodau cyffredin. 
  2. Datrys problemau - clustnodi a mynegi problemau a dyfeisio strategaethau i’w datrys a/neu eu rheoli gan ystyried goblygiadau a deilliannau. 
  3. Meddwl beirniadol - ymchwilio i gyd-destun cymdeithasol a diwylliannol syniadau. 
  4. Chwaraegarwch - defnyddio’r dychymyg i greu bydoedd a sefyllfaoedd dychmygol. 
  5. Amgylchedd - ei ddefnyddio’n ffisegol, yn emosiynol ac yn ddeallusol, ac addasu at amrywiaeth o weithgareddau yn y dosbarth. 
  6. Meddwl gwahanol - meddwl am broblemau hysbys mewn ffordd wahanol. 
  7. Arloesi - gwireddu syniadau creadigol mewn ffyrdd diriaethol. 
  8. Gwybodaeth am ddisgyblaeth - datblygu arbenigedd mewn maes gwybodaeth sy’n ymwneud â chynnwys arbenigol a dealltwriaeth o brosesau. 
  9. Cymryd risg - Cael cymorth i dreialu dulliau anghonfensiynol o weithredu neu rai na ystyriwyd o’r blaen. 
  10. Synthesis - Cysylltu syniadau er mwyn datblygu dealltwriaeth neu ddulliau newydd o weithredu. 
  11. Chwilfrydedd - Dangos dymuniad i ymchwilio, archwilio a deall sut mae pethau, a sut mae pethau’n gweithio.

Er bod pob un o’r uchod yn ymwneud â sgil neu dueddfryd, gallai ddangos y math o amgylchedd a allai feithrin y sgiliau yma hefyd.

Mae ysgolion sydd â diddordeb mewn defnyddio’r mynegai CSI yn gofyn i’w myfyrwyr lenwi holiadur â 64 eitem i’w ddadansoddi gan Brifysgol Auckland. 

Mae’r enghreifftiau o’r mathau o gwestiynau a ofynnir i’r myfyrwyr yn cynnwys:

Yn ein dosbarth/iadau...

Cydweithio

…mae myfyrwyr yn cael gweithio gyda’i gilydd 

 …mae myfyrwyr yn dysgu trwy weithio gyda’i gilydd, nid dim ond gan yr athro.  

 …rydyn ni’n cael anogaeth i drafod syniadau.

…mae cydweithio’n ffordd gyffredin o weithio.

 

Datrys Problemau

…mae problemau’n cael eu defnyddio i wneud i ni feddwl yn ddwysach.

…rydyn ni’n dysgu i ofyn cwestiynau yn ogystal â’u hateb.

…rydyn ni’n defnyddio gwahanol ddulliau er mwyn datrys problemau.

…rydyn ni’n cael ein hannog i feddwl am atebion gwahanol i broblemau.

 

Meddwl Beirniadol

…rydyn ni’n dysgu i ddefnyddio tystiolaeth i ategu ein syniadau.

…rydyn ni’n trafod cryfderau a gwendidau gwahanol syniadau.

…rydyn ni’n dysgu i wneud penderfyniadau drosom ni ein hunain yn hytrach na derbyn beth sy’n cael ei ddweud wrthym yn ddifeddwl.

…rydyn ni’n cael ein hannog i herio syniadau ein hathro.

 

Chwaregarwch

…mae dysgu’n aml yn chwareus.

…rydyn ni’n cael hwyl wrth ddysgu.

…rydyn ni’n cael rhoi cynnig ar syniadau newydd.

…rydyn ni’n defnyddio hiwmor a jôcs wrth ddysgu.

 

Wedyn mae’r ysgol yn cael adroddiad manwl sy’n amlinellu canfyddiadau eu myfyrwyr ac yn meincnodi hyn yn erbyn ysgolion eraill sydd wedi cymryd rhan. Mae’r adroddiad yn darparu data cadarn ar gyfer ysgolion sy’n mesur eu hamgylchedd creadigol yn gyffredinol, ac yn awgrymu sut y gallai addysgeg yn y dosbarth newid ar draws unarddeg dimensiwn creadigrwydd. 

Cymerodd Marley's Sunshine School ran yn y broses CSI yn 2019 a gallwch ddarllen ei hadroddiad yma.

Gallwch archwilio rhagor o wybodaeth am ddull gweithredu’r CSI yma.

 

Cyd-fyfyrio

1. Sut mae 11 sgil/tueddfryd y CSI yn cyd-daro a model creadigrwydd eich ysgol chi?

2. Pa mor greadigol ydych chi’n credu yw amgylchedd(au) eich ysgol chi? Pa dystiolaeth sydd gennych i brofi hynny?

3. Fel arweinydd, sut gallech chi ymgysylltu myfyrwyr a gwahodd eu safbwyntiau i’ch helpu chi i ddatblygu creadigrwydd yn eich ysgol ymhellach?

4. Beth gallech chi ei ddysgu a’i ddefnyddio o’r deunyddiau CSI?

PDF

Learning and Individual Differences Ginns et al 2021