Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol – cyfarfod cymunedol #7

Achlysur ar lein a fydd yn tynnu arweinwyr ysgolion ac athrawon ynghyd fel lle i fyfyrio, rhannu ac archwilio meddwl creadigol.

Lleoliad:

Ar-lein

Dyddiad:

Dydd Iau, 26 Medi 2024 16:00 - 17:00 BST

Hyd:

1 awr

Collage image with logos and photograph

Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi y bydd nifer o ysgolion a fu’n rhan o Gydweithfa Creadigrwydd y Gogledd-ddwyrain, sef rhaglen ymchwil i weithredu gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Lloegr yn ymuno â ni am gyfarfod mis Medi. Gan weithio mewn partneriaeth â CCE, nod y gydweithfa oedd archwilio, profi a sefydlu amrywiaeth o arferion addysgu ar gyfer creadigrwydd mewn ymateb i un o argymhellion Comisiwn Durham ar Greadigrwydd ac Addysg.

Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n clywed gan yr ysgol arweiniol, Ysgol Gynradd Cragside, ac eraill o fewn y gydweithfa, a fydd yn rhannu uchafbwyntiau a sialensiau eu siwrnai tair blynedd i sefydlu creadigrwydd a meddwl creadigol yn y cwricwlwm, ac effaith hynny ar y staff a’r disgyblion. 

Mae’r sesiwn ar lein yma’n rhan o gyfres o gyfarfodydd misol sy’n cynnig cyfleoedd i rannu’n agored. Bydd y sesiwn hwylus ac anffurfiol yma’n rhoi lle i chi feddwl, cael eich ysbrydoli, archwilio ffyrdd o oresgyn sialensiau a dysgu gan eich gilydd, gan hwyluso ac adeiladu ar gymuned dysgu ysbrydoledig ac effeithiol o addysgwyr llawn gweledigaeth ar draws y wlad sy’n ‘Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol’. 

Mae Arwain ar gyfer Meddwl Creadigol yn bennod gyffrous yn ymgyrch CCE i dynnu arweinwyr ynghyd i gysylltu, rhannu a sefydlu meddwl creadigol ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol. Wedi ei gyflwyno i chi gan sefydliad rhyngwladol Creativity, Culture and Education, ynghyd â phartneriaid o fri – Cyngor Celfyddydau Cymru, Canolfan Dysgu’r Byd Go Iawn ym Mhrifysgol Caer-wynt, a’r Athro Louise Stoll 🚀

Gadewch i ni baratoi’r ffordd am ddyfodol mwy creadigol mewn addysg!