Meddwl Creadigol PISA - cyfle i arweinwyr ysgolion a systemau

Bill Lucas oedd cyd-gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Strategol Prawf Meddwl Creadigol PISA 2022, ac yma mae’n myfyrio ar yr hyn a oedd yn ddatblygiad cyffrous yn esblygiad meddwl creadigol mewn ysgolion ar draws y byd.

Darllenwch adroddiad Canlyniadau OECD PISA 2022 (Rhifyn III) Meddyliau Creadigol, Ysgolion Creadigol ar lein yma.

Lansiwyd canlyniadau prawf cyntaf erioed PISA o feddwl creadigol yn yr OECD ym Mharis heddiw (18 Mehefin). Mae hi’n arwydd pwysig i’r byd fod creadigrwydd yn bwysig, bod yna ddealltwriaeth fyd-eang am beth yw creadigrwydd, ac yn bwysicaf oll, bod modd ei addysgu a’i asesu. 

Mesurodd PISA sgiliau meddwl creadigol pobl ifanc pymtheg oed mewn 64 o wledydd, ond yn anffodus, ni ddewisodd neb o wledydd Prydain gymryd rhan. Yn ôl PISA, meddwl creadigol yw’r ‘gallu i ymgysylltu mewn ffordd gynhyrchiol er mwyn sbarduno, gwerthuso a gwella syniadau sy’n gallu arwain at atebion gwreiddiol ac effeithiol, datblygiadau mewn gwybodaeth a mynegiannau effeithiol o ddychymyg’. Mae meddwl creadigol yn holl bresennol, ac i’w weld mewn pob agwedd ar fywyd a phob pwnc. At ddibenion y prawf PISA, anogwyd mynegiant ysgrifenedig a gweledol gyda rhai senarios yn cyd-fynd yn fras â’r gwyddorau, ac eraill yn gofyn am ddim ond synnwyr cyffredin i bob pwrpas. 

Pum neges allweddol i arweinwyr sy’n codi o ganlyniadau Meddwl Creadigol PISA

Mae yna nifer fawr o negeseuon y gallem eu codi o’r canlyniadau; dyma bump ohonyn nhw.

1. Mae perfformiad cryf mewn meddwl creadigol ac yn y pynciau academaidd yn bosibl ac yn eu cydategu ei gilydd. 

Disgyblion o Singapore ddaeth allan ar y brig o ran Meddwl Creadigol, wedyn Corea, Canada, Awstralia, Seland Newydd, Estonia a’r Ffindir. Byddai’n gamgymeriad dadlau bod y sefyllfa’n hollol ddu a gwyn lle mae gwneud yn dda mewn meddwl creadigol yn tynnu sylw’r dysgwyr oddi ar lwyddiant yn y pynciau craidd mewn rhyw fodd. Mae myfyrwyr yn gallu llewyrchu’n academaidd ac o ran meddwl creadigol.

2. Mae systemau sy’n perfformio’n dda o ran meddwl creadigol yn mabwysiadu dulliau system-eang wrth sefydlu, cynorthwyo a mesur meddwl creadigol.

  • Trwy wneud meddwl creadigol yn gonglfaen i ddiwygiadau addysgol, er enghraifft, yn Denmarc, Corea, Singapore, Canada ac Awstralia. 
  • Trwy gynorthwyo addysgwyr i gydnabod, datblygu a gwerthuso meddwl creadigol trwy ddiffinio datblygiadau neu benawdau dysgu, fel y mae Awstralia wedi ei wneud gyda’i ‘gontinwwm dysgu meddwl beirniadol a chreadigol’. 
  • Trwy greu cyfleoedd penodol yn y cwricwlwm i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gwaith amlddisgyblaeth, a hynny weithiau trwy leihau nifer y pynciau gorfodol (Corea), neu gynnig cyrsiau sy’n fwy seiliedig ar brofiadau fel pynciau dethol (Corea, Denmarc), neu gyflwyno modiwlau rhyngddisgyblaeth penodol (y Ffindir), neu roi cyfleoedd i fyfyrwyr uwchradd ddewis prosiectau rhyngddisgyblaeth mewn lleoliadau dilys (Singapore), neu ddarparu cyllid i hwyluso partneriaethau (y cynllun Creadigrwydd mewn Ysgolion yn Seland Newydd). 
  • Trwy hybu atebolrwydd trwy asesu, er enghraifft yn nhalaith Victoria yn Awstralia lle mae Awdurdod Cwricwlwm ac Asesu Victoria wedi bod yn cynnal profion Meddwl Beirniadol a Chreadigol yn flynyddol ar gyfer sampl o ysgolion ers 2016. 

3. Mae merched yn perfformio’n well na bechgyn o ran meddwl creadigol ym mhob tasg. 

Mae canlyniadau PISA 2022 yn dangos na berfformiodd bechgyn yn well na merched o ran meddwl creadigol mewn unrhyw wlad/economi a gymerodd ran, ac ym mhob gwlad ac economi ond tri – sef Chile, Mecsico a Pheriw – roedd y gwahaniaeth yn y perfformiad cyfartalog rhwng bechgyn a merched yn arwyddocaol yn ystadegol. Roedd hyn yn arbennig o wir o ran tasgau mynegiant creadigol a thasgau oedd yn adeiladu ar syniadau pobl eraill. 

4. Mae meddwl creadigol yn gofyn am fyfyrwyr sydd wedi eu hymgysylltu, ac mae’r systemau sy’n annog hynny’n gwneud yn well. 

Mae’r canlyniadau’n dangos bod yr hyn y mae’r myfyrwyr yn ei gredu am eu potensial creadigol yn bwysig; a pherfformiodd y rhai sy’n credu eu bod nhw’n gallu datblygu eu sgiliau creadigol yn well o ran meddwl creadigol. Yn anffodus, mae disgyblion mewn nifer o wledydd yn dweud nad yw dysgu yn yr ysgol yn rhywbeth y maent yn ei fwynhau. 

5. Gall ysgolion ac athrawon wneud gwahaniaeth go iawn

Gallant ddewis mathau penodol o addysgeg, sy’n annog myfyrwyr i feddwl am atebion gwreiddiol, mynegi eu syniadau, sy’n ymestynnol, sy’n hybu sawl persbectif, sy’n gadael lle i’r annisgwyl ac sy’n caniatáu amser i fyfyrio. 

Cyd-fyfyrio

1. Pa un o’r negeseuon hyn sydd fwyaf arwyddocaol i chi?

2. Sut gallech chi ddefnyddio’r wybodaeth yma yn eich dulliau chi o arwain?

3. Pa gwestiynau byddwch chi’n eu gofyn i ymgeiswyr yn eich etholaeth chi wrth iddynt ofyn am eich pleidlais?!

PDF

OECD PISA 2022 Results (Vol III) Creative Minds, Creative Schools (Exec Summary)

OECD PISA 2022 Assessment Results (Vol III) Creative Minds, Creative Schools (Infographic)