Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc
Pwrpas
Mae’r gweithgaredd yma ar gyfer arweinwyr ac athrawon mewn ysgolion sydd eisoes yn gweithredu dull o ymgysylltu ac ymgynghori â phlant a phobl ifanc am greadigrwydd a meddwl creadigol. Gallai eich ysgol neu’ch canolfan ddefnyddio enw gwahanol ar gyfer hyn (er enghraifft, Cyngor Creadigrwydd yr Ysgol) ond at ddibenion y gweithgaredd yma, byddwn ni’n defnyddio’r term Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc (YCC).
Adnoddau a’r drefn
Bydd ar bob grŵp angen set o’r adnoddau canlynol:
- 2 gopi o Adnodd 1: Model Lundy
- Copi papur maint A3 o Adnodd 2: Graffeg o nodau Model Lundy
- 2 gopi o Adnodd 3: Model Lundy ar waith - cwestiynau i’w gofyn i chi’ch hun ac am eich gwaith
- 2 gopi o Adnodd 4: Cynnwys plant a phobl ifanc nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml fel Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc
- Copi papur maint A3 o Adnodd 5: Trefnu neu adolygu grŵp o Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc (neu gallwch ysgrifennu hyn ar ddarn o bapur siart droi)
- Pen trwchus
- Papur A3 neu siart droi
- Papur A4 - 1 dalen i bob person
Hyd
75 munud
Cychwyn arni
Cyn cychwyn y gweithgaredd yma, bydd angen i chi a phawb sy’n cymryd rhan ddarllen y dogfennau canlynol:
- Adnodd 1: Model Lundy
- Adnodd 4: Cynnwys plant a phobl ifanc nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml fel Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc.
Bydd angen ffilm Ysgolion Creadigol Iwerddon, taflunydd, sgrin a seinydd arnoch.
Linc i ffilm Ysgolion Creadigol Iwerddon:
https://leadingforcreativethinking.org/creative-schools-republic-ireland
Gallai’r gweithgaredd yma ddatblygu eich arfer creadigol…
Cam 1 – 5 munud
Trefnwch bawb mewn grwpiau o gwmpas y byrddau. Gwyliwch ffilm Ysgolion Creadigol Iwerddon a chyflawni myfyrdod byr - isod mae ambell i syniad ar gyfer cwestiynau myfyrio:
- Beth sylwoch chi?
- Sut mae ein YCC ni yn cymharu â threfn Ysgol Stryd Stanhope a oedd yn cynnwys plant o bob dosbarth?
- Roedd y plant i’w gweld yn chwarae rôl gadarn wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau. Sut mae hyn yn cymharu â’n hysgol ni?
- Roedd meddwl creadigol yn cael ei archwilio ym mhynciau’r celfyddydau yn bennaf – sut mae hyn yn cymharu â’n hysgol ni?
Linc i ffilm Ysgolion Creadigol Iwerddon:
https://leadingforcreativethinking.org/creative-schools-republic-ireland
Cam 2 – 30 munud
Rhowch gyflwyniad byr i Fodel Lundy.
Rhannwch Adnodd 1: Model Lundy ac Adnodd 2: Graffeg nodau Model Lundy.
Yn eich grŵp, dechreuwch gyda ‘Gofod’ o Adnodd 1. Meddyliwch am YCC cyfredol eich ysgol. Ystyriwch bob un o 4 elfen Model Lundy, cytunwch ar radd a’i marcio ar y Nodau Graffeg.
Cam 3 – 25 munud
Rhannwch Adnodd 3: Model Lundy ar waith – cwestiynau i’w gofyn i chi’ch hun ac am eich gwaith. Aseiniwch un elfen o Fodel Lundy i bob grŵp (Gofod, Llais, Cynulleidfa neu Ddylanwad).
Yn eich grwpiau, adolygwch y cwestiynau ar gyfer yr elfen o’r Model Lundy a aseiniwyd i chi yn Adnodd 3. Edrychwch ar y radd ar gyfer yr elfen honno ac ystyriwch:
- A oes angen newid y radd – a ddylai fod yn uwch neu’n is?
- Yn seiliedig ar y cwestiynau, beth gallech chi wella arni neu ei chyflwyno i’ch dull o weithredu o ran cyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau? Ysgrifennwch eich syniadau ar ddarn o bapur.
Pob grŵp i rannu eu syniadau cryno â’r grŵp cyfan.
Cam 4 - 25 munud
Atgoffwch bawb am Adnodd 4: Cynnwys plant a phobl ifanc na chlywir eu lleisiau’n aml fel Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc a thaflen Adnodd 5: Adolygu eich grŵp Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc.
Yn eich grwpiau, ystyriwch y cwestiynau yn Adnodd 5 gan nodi eich meddyliau a’ch syniadau ar bapur wrth fynd yn eich blaen.
Cyd-fyfyrio
Cam 5 – 10 munud
Rhowch ddarn o bapur A4 i bob person.
Nodwch GAM NESAF PWYSIG A DDYLAI GODI O HEDDIW… ar frig y dudalen a chwblhewch y frawddeg gan ysgrifennu’n daclus, ond peidiwch â nodi’ch enw.
Cyfrwch i dri, ac ar dri (nid cyn hynny!) sgrensiwch eich papur yn belen eira. Nawr, ar dri, taflwch hi i unrhyw le yn yr ystafell. Ar dri, codwch belen eira, ei hagor, ei darllen, ac ysgrifennwch ymateb.
Ar dri, sgresiwch y belen eira eto. Ar dri, taflwch hi, ac ar dri eto, codwch belen eira. Darllenwch hi a rhannwch beth sydd arni â’r grŵp cyfan (efallai na fydd digon o amser i bawb rannu).
Ac yn olaf, cytunwch ar y camau nesaf, gan gynnwys sganio a rhannu Adnodd 5 gan bob grŵp.