Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc

Pwrpas

Mae’r gweithgaredd yma ar gyfer arweinwyr ac athrawon mewn ysgolion sydd eisoes yn gweithredu dull o ymgysylltu ac ymgynghori â phlant a phobl ifanc am greadigrwydd a meddwl creadigol.  Gallai eich ysgol neu’ch canolfan ddefnyddio enw gwahanol ar gyfer hyn (er enghraifft, Cyngor Creadigrwydd yr Ysgol) ond at ddibenion y gweithgaredd yma, byddwn ni’n defnyddio’r term Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc (YCC).

Adnoddau a’r drefn 

Bydd ar bob grŵp angen set o’r adnoddau canlynol: 

  • 2 gopi o Adnodd 1: Model Lundy
  • Copi papur maint A3 o Adnodd 2: Graffeg o nodau Model Lundy
  • 2 gopi o Adnodd 3: Model Lundy ar waith - cwestiynau i’w gofyn i chi’ch hun ac am eich gwaith
  • 2 gopi o Adnodd 4: Cynnwys plant a phobl ifanc nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml fel Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc
  • Copi papur maint A3 o Adnodd 5: Trefnu neu adolygu grŵp o Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc (neu gallwch ysgrifennu hyn ar ddarn o bapur siart droi)
  • Pen trwchus
  • Papur A3 neu siart droi
  • Papur A4 - 1 dalen i bob person 

Hyd

75 munud

Cychwyn arni 

Cyn cychwyn y gweithgaredd yma, bydd angen i chi a phawb sy’n cymryd rhan ddarllen y dogfennau canlynol: 

  • Adnodd 1: Model Lundy
  • Adnodd 4: Cynnwys plant a phobl ifanc nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml fel Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc.

Bydd angen ffilm Ysgolion Creadigol Iwerddon, taflunydd, sgrin a seinydd arnoch.

Linc i ffilm Ysgolion Creadigol Iwerddon:

https://leadingforcreativethinking.org/creative-schools-republic-ireland

Cam 1 – 5 munud
Trefnwch bawb mewn grwpiau o gwmpas y byrddau. Gwyliwch ffilm Ysgolion Creadigol Iwerddon a chyflawni myfyrdod byr - isod mae ambell i syniad ar gyfer cwestiynau myfyrio:

  • Beth sylwoch chi? 
  • Sut mae ein YCC ni yn cymharu â threfn Ysgol Stryd Stanhope a oedd yn cynnwys plant o bob dosbarth?
  • Roedd y plant i’w gweld yn chwarae rôl gadarn wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau. Sut mae hyn yn cymharu â’n hysgol ni? 
  • Roedd meddwl creadigol yn cael ei archwilio ym mhynciau’r celfyddydau yn bennaf – sut mae hyn yn cymharu â’n hysgol ni?

Linc i ffilm Ysgolion Creadigol Iwerddon:

https://leadingforcreativethinking.org/creative-schools-republic-ireland

 

Cam 2 – 30 munud 

Rhowch gyflwyniad byr i Fodel Lundy. 

Rhannwch Adnodd 1: Model Lundy ac Adnodd 2: Graffeg nodau Model Lundy. 

Yn eich grŵp, dechreuwch gyda ‘Gofod’ o Adnodd 1. Meddyliwch am YCC cyfredol eich ysgol. Ystyriwch bob un o 4 elfen Model Lundy, cytunwch ar radd a’i marcio ar y Nodau Graffeg.

 

Cam 3 – 25 munud 

Rhannwch Adnodd 3: Model Lundy ar waith – cwestiynau i’w gofyn i chi’ch hun ac am eich gwaith.  Aseiniwch un elfen o Fodel Lundy i bob grŵp (Gofod, Llais, Cynulleidfa neu Ddylanwad).   

Yn eich grwpiau, adolygwch y cwestiynau ar gyfer yr elfen o’r Model Lundy a aseiniwyd i chi yn Adnodd 3.  Edrychwch ar y radd ar gyfer yr elfen honno ac ystyriwch:

  • A oes angen newid y radd – a ddylai fod yn uwch neu’n is?
  • Yn seiliedig ar y cwestiynau, beth gallech chi wella arni neu ei chyflwyno i’ch dull o weithredu o ran cyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau?  Ysgrifennwch eich syniadau ar ddarn o bapur.

Pob grŵp i rannu eu syniadau cryno â’r grŵp cyfan.

 

Cam 4 - 25 munud 

Atgoffwch bawb am Adnodd 4: Cynnwys plant a phobl ifanc na chlywir eu lleisiau’n aml fel Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc a thaflen Adnodd 5: Adolygu eich grŵp Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc. 

Yn eich grwpiau, ystyriwch y cwestiynau yn Adnodd 5 gan nodi eich meddyliau a’ch syniadau ar bapur wrth fynd yn eich blaen. 

Cyd-fyfyrio

Cam 5 – 10 munud 

Rhowch ddarn o bapur A4 i bob person. 

Nodwch GAM NESAF PWYSIG A DDYLAI GODI O HEDDIW… ar frig y dudalen a chwblhewch y frawddeg gan ysgrifennu’n daclus, ond peidiwch â nodi’ch enw.

Cyfrwch i dri, ac ar dri (nid cyn hynny!) sgrensiwch eich papur yn belen eira. Nawr, ar dri, taflwch hi i unrhyw le yn yr ystafell. Ar dri, codwch belen eira, ei hagor, ei darllen, ac ysgrifennwch ymateb. 

Ar dri, sgresiwch y belen eira eto. Ar dri, taflwch hi, ac ar dri eto, codwch belen eira. Darllenwch hi a rhannwch beth sydd arni â’r grŵp cyfan (efallai na fydd digon o amser i bawb rannu).

Ac yn olaf, cytunwch ar y camau nesaf, gan gynnwys sganio a rhannu Adnodd 5  gan bob grŵp.

PDF

Resource 1 – Lundy Model

PPT

Resource 2 - Lundy Model Graphic Equalizer

PDF

Resource 2 - Lundy Model Graphic Equalizer

PDF

Resource 3 - Lundy's Model in Practice

PDF

Resource 4 - Involving Seldom-Heard Children and Young People as Young Creativity Champions

Word

Resource 5 - Reviewing your Young Creativity Champions Group

PDF

Argraffu gweithgaredd allan - Hyrwyddwyr Creadigrwydd Ifanc

Tanysgrifiwch nawr i ddatgloi dirnadaeth ac ysbrydoliaeth newydd.

Cofrestrwch i gael ein newyddlenni misol ac i fod gyda’r cyntaf i glywed am y gwaith ymchwil, digwyddiadau ac erthyglau diweddaraf i’ch cynorthwyo chi i arwain ar gyfer dysgu creadigol.

* gwybodaeth hanfodol