Daliadau a Safbwyntiau am Greadigrwydd

Pwrpas

Gellir defnyddio’r gweithgaredd yma i helpu rhieni a chymuned ehangach yr ysgol i ddatblygu dealltwriaeth am greadigrwydd a pham ei fod mor bwysig. Bydd hyn yn eich cynorthwyo chi i ymgysylltu â nhw a meithrin dealltwriaeth ehangach am eu safbwyntiau a’u daliadau, gan hwyluso dialog parhaus ar bwysigrwydd meddwl creadigol ac ennyn eu cefnogaeth i uchelgeisiau, gweledigaeth a chynlluniau’ch ysgol. 

Mae’n cynnwys amrywiaeth o ddulliau o/gweithgareddau i gasglu safbwyntiau sy’n cynnig ffyrdd amgen i rieni/y gymuned ymgysylltu. 

Adnoddau a threfnu

Cynnwys yr arolwg - datganiadau/cwestiynau a graddfa mynegi barn (ceir awgrymiadau yn Adnodd 1 - Datganiadau/Cwestiynau'r Arolwg a Graddfa Mynegi Barn).

Y Deunyddiau a’r Adnoddau ar gyfer eich dull dethol o gyflawni’r arolwg - gweler isod. 

Y dull Arolwg Digidol - 

  • Lanlwythwch eich arolwg i offeryn digidol (er enghraifft SurveyMonkey, Google Forms, Canva, Menti neu Kahoot!)

Y dull Botymau Recordio Llais - 

  • Recordiwch bob un o’ch datganiadau/ cwestiynau ymlaen llaw gan ddefnyddio botymau recordio llais (mae’r botymau hyn ar gael gan amrywiaeth o adwerthwyr ar lein, a gellir eu hailddefnyddio)
  • Poster cyfarwyddyd (ceir awgrym yn Adnodd 2 - Poster Cyfarwyddyd Botymau Recordio Llais)
  • Siart cofnodi ar bapur siart droi/bwrdd gwyn (gweler y llun yn Esiampl A). 

Smotiau gludiog neu beniau marcio i’r cyfranogwyr gofnodi eu hymatebion.

Example of voice recording button method

Esiampl A.

Dull y Siart Droi/Bwrdd Gwyn (ar wal neu fwrdd) - 

  • Eich arolwg mewn geiriau (gweler Esiampl B).
  • Smotiau gludiog neu beniau marcio i’r cyfranogwyr gofnodi eu hymatebion
  • Poster cyfarwyddyd (mae awgrym ar gyfer hyn yn Adnodd 3 - Poster Cyfarwyddyd Siart Droi/Bwrdd Gwyn).

    Example flipchart/ whiteboard method

Esiampl B.

Dull yr Orsaf Arolygu - 

  • poster cyfarwyddyd (ceir awgrym yn Adnodd 4 –Poster Cyfarwyddyd Gorsaf Arolygu Creadigrwydd)
  • Bonyn arolygu (ceir awgrym yn Adnodd 5 - Bonyn Arolygu Creadigrwydd)
  • Peniau a blwch i bostio’r bonion arolygu. 

Adnoddau myfyrio 

Gallech ddewis cymharu eich canfyddiadau gan ddefnyddio Adnodd 6 - Dyfyniadau o Ganlyniadau PISA 2022 - Meddyliau Creadigol Ysgolion Creadigol. 

Gallech ddewis defnyddio Meddwl Creadigol mewn Ysgolion - Chwaraelyfr i Arweinwyr i hwyluso gweithgareddau dilynol.

Hyd

Bydd hyn yn dibynnu ar eich dull(iau) arolygu a sut rydych chi’n penderfynu casglu, dadansoddi ac adrodd ar yr ymatebion.  

Cychwyn arni

Ystyriwch sut y gallai plant a phobl ifanc chwarae rôl ymarferol ar wahanol gamau yn y gweithgaredd yma. 

Penderfynwch pwy fydd: 

  • yn arwain y gweithgaredd yma
  • yn llunio, yn profi ac yn cwblhau eich arolwg
  • yn penderfynu ar eich dull o arolygu ac yn llunio’ch arolwg
  • yn casglu, yn dadansoddi ac yn rhannu eich canfyddiadau 
  • yn ysgrifennu’r adroddiad ar eich canfyddiadau
  • yn bwydo eich canfyddiadau nôl
  • yn cytuno ar eich camau nesaf. 

Cam 1 

Penderfynu daliadau a safbwyntiau pwy am greadigrwydd ydych chi am eu casglu?  Er enghraifft, rhieni plant newydd, rhieni plant o grŵp blwyddyn penodol, pob rhiant, neu eich cymuned ysgol ehangach. Yn nes ymlaen, efallai y gallech gasglu safbwyntiau’r holl fyfyrwyr, staff a llywodraethwyr, a chymharu’r canfyddiadau hyn â rhai’r rhieni. 

Cytunwch beth rydych chi am ei ddysgu a lluniwch gynnwys eich arolwg (mae awgrymiadau am hyn yn Adnodd 1).

Penderfynwch ar eich dull(iau) o arolygu, gallech ddefnyddio mwy nag un i gynhyrchu nifer fwy o ymatebion. 

Penderfynwch ymhle y byddwch chi’n cyflawni’r arolwg.  Gallai dulliau’r Botymau Recordio Llais, yr Orsaf Arolygu neu’r Siart Droi/Bwrdd Gwyn weithio’n dda mewn noson rhieni, mewn digwyddiad ysgol neu gymunedol, gellid eu gosod yn nerbynfa’r ysgol neu mewn lle yn y gymuned am gyfnod. 

Ystyriwch sut y byddwch chi’n dadansoddi’r ymatebion ac yn adrodd nôl arnynt.

Cam 2 

Cyflawnwch eich arolwg gan ddefnyddio eich dull(iau) a’ch amserlen dethol.

Cam 3 

Dadansoddwch yr ymatebion i’ch arolwg a phenderfynwch ar y camau nesaf (mae awgrymiadau yn yr adran Cyd-fyfyrio).Decide whose creativity beliefs and perspectives you want to collect? For example, parents of new children, parents of children in a specific year group, all parents or your wider school community. At a later date you might collect the views of students, staff and governors and compare the findings to those of parents. 

Cyd-fyfyrio

  • Beth mae’r dadansoddiad o’r ymatebion i’r arolwg yn ei ddweud wrthych, a beth yw’r canfyddiadau allweddol yn nhermau daliadau a safbwyntiau am greadigrwydd?
  • Gallech gymharu eich canfyddiadau â chanlyniadau Rhaglen Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol (PISA) y  Sefydliad Cydweithio a Datblygu Economaidd (OCED) o 2022 - a ddyfynnir ym Meddyliau Creadigol, Ysgolion Creadigol – Adnodd 6.
  • Ar ôl bwydo’r canfyddiadau nôl i gymuned eich ysgol (er enghraifft, rhieni, llywodraethwyr, staff) beth wnaethoch chi ei ddarganfod o’u hymatebion? A gawsoch fandad cadarnach/cefnogaeth y rhieni i ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer eich ysgol? 
  • Beth fydd eich camau nesaf fel ysgol? Gallai’r rhain gynnwys:
    • Gwahodd grŵp penodol o rieni i sesiwn grŵp ffocws i archwilio a datblygu eu dealltwriaeth am greadigrwydd ymhellach. Gallai’r gweithgareddau canlynol o’r Chwaraelyfr hwyluso trafodaeth y grŵp ffocws yma: Gweithgaredd 1 - Deall Hanfodion Creadigrwydd - Tudalen 10 neu Weithgaredd 18 – Chwalu’r Mythau am Greadigrwydd – Tudalen 62.
    • Rhannu gwybodaeth/tystiolaeth am bwysigrwydd datblygu meddwl creadigol - mae Tudalennau 12 a 13 o’r Chwaraelyfr yn cynnig esboniad o’r achos dros greadigrwydd mewn ysgolion o amrywiaeth o safbwyntiau. 
    • Cyflawni’r un arolwg gyda phobl ifanc yn yr ysgol, a chymharu beth sy’n debyg a beth sy’n wahanol rhwng y canfyddiadau hyn.
    • Cynnal digwyddiad sy’n dangos sut mae meddwl creadigol yn cael ei ddefnyddio mewn gwahanol bynciau ac mewn gwahanol grwpiau blwyddyn ar draws yr ysgol.
    • Cymharu canfyddiadau’r arolwg â gweledigaeth eich ysgol.
    • Defnyddio’r arolwg fel sylfaen a’i gyflawni eto’n ddiweddarach er mwyn cymharu newidiadau mewn daliadau a safbwyntiau.
Word

Resource 1 - Ideas for survey statements and questions

PPT

Resource 2 - Voice Recording Buttons Instruction Poster

PPT

Resource 3 Flipchart/ Whiteboard Instruction Poster

PPT

Resource 4 Creativity Survey Station Instruction Poster

PPT

Resource 5 Creativity Survey Slip

PPT

Resource 6 Extracts from PISA 2022 Results - Creative Minds Creative Schools

PDF

Argraffu gweithgaredd allan - Daliadau a Safbwyntiau am Greadigrwydd

Tanysgrifiwch nawr i ddatgloi dirnadaeth ac ysbrydoliaeth newydd.

Cofrestrwch i gael ein newyddlenni misol ac i fod gyda’r cyntaf i glywed am y gwaith ymchwil, digwyddiadau ac erthyglau diweddaraf i’ch cynorthwyo chi i arwain ar gyfer dysgu creadigol.

* gwybodaeth hanfodol